Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth
Mae dyfeisiadau a datblygiadau digidol wedi newid y ffordd mae pobl a sefydliadau'n rhyngweithio, gan ddod â chyfleoedd a heriau i lyfrgelloedd, gwasanaethau gwybodaeth, amgueddfeydd, a storfeydd archifau.
Erbyn hyn, mae galw mawr am lyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth proffesiynol, gan fod angen i gyflogwyr reoli eu hasedau mwyaf gwerthfawr yn ein 'heconomi wybodaeth' fyd-eang.
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i'ch hyfforddi yn y sgiliau sydd eu hangen i gasglu, curadu a rheoli gwybodaeth, adnoddau treftadaeth, archifau a chofnodion ar fformatau digidol a ffisegol er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ddiwylliannol a'n gwybodaeth yn cael eu cadw i'r 21ain ganrif a thu hwnt.
Pam astudio Astudiaethau Gwybodaeth?
- Fe'i sefydlwyd ym 1964, ac mae gan yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth enw da yn rhyngwladol ers hir am ddarparu cyrsiau safonol a phroffesiynol sy'n canolbwyntio ar anghenion y myfyriwr.
- Mae Aberystwyth yn dref hanesyddol 'gyfoethog o ran gwybodaeth' sy'n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig sy’n ymgorffori Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru); Cyngor Llyfrau Cymru; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; amgueddfeydd sirol a chasgliadau archifau.
- Ategir arbenigedd y staff gan gysylltiadau proffesiynol clòs yn lleol a chenedlaethol. Gwneir cyfraniadau at brosiectau addysgu, gwaith ymarferol, ac ymchwil yr adran gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, swyddfeydd cofnodion lleol, gwasanaethau llyfrgell y Brifysgol, a sefydliadau cof cenedlaethol fel y Llyfrgell Brydeinig, yn ogystal â chyd-aelodau o'r Glymblaid Cadwraeth Ddigidol.