Hanes
Ochr yn ochr â dysgu gwybodaeth newydd a chyffrous am y gorffennol, wrth astudio ein rhaglenni gradd Hanes byddwch yn meithrin amrywiaeth o alluoedd, o ddadansoddi, gwirio ffeithiau a chyfathrebu, i feddwl yn feirniadol a thrafod. Mewn byd lle mae'n hollbwysig gallu cloriannu a dadansoddi gwybodaeth yn gyflym, bydd gradd mewn Hanes yn eich paratoi i lwyddo ym mha yrfa bynnag y dewiswch.
Mae astudiaeth academaidd o Hanes yn eich annog i feddwl yn feirniadol fel y gallwch ddatrys problemau mewn ffordd ystyriol a sensitif. Trwy gydol eich gradd, bydd y pwyslais a rown ar y galluoedd trosglwyddadwy hyn yn gymorth i chi fagu hyder a datblygu menter.
Pam astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Dysgwyd Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth ers yr 1870au sy’n ein gwneud yn un o’r adrannau Hanes hynaf yng Nghymru.
- Mae ein myfyrwyr yn elwa o draddodiad ymchwil sefydledig ac yn cael eu dysgu'n uniongyrchol gan arbenigwyr sy'n gweithio ar amryw gyfnodau hanesyddol. Rydym yn dysgu mewn grwpiau bach, gan gynnwys tiwtorialau un-i-un a chyrsiau seminar, er enghraifft ein modiwlau sgiliau a'r modiwlau pwnc arbennig.
- Mae ein modiwlau'n canolbwyntio nid yn unig ar gyflawniad unigol, ond ar gynnal amgylchedd hamddenol a chynhyrchiol. Rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar ddysgu mewn grwpiau bach, ac mae gwaith tîm ac adeiladu tîm yn bwysig i ni yn ogystal â meithrin eich hyder i allu’ch cyflwyno eich hun yn effeithiol mewn sefyllfaoedd grŵp.
- Byddwn yn meithrin eich angerdd a'ch brwdfrydedd am hanes ac yn gadael iddo dyfu er mwyn eich cynnal yn ddeallusol ac ym myd gwaith. Bydd gradd Hanes o Brifysgol Aberystwyth yn rhoi'r medrau sydd eu hangen arnoch i ddechrau ar eich dewis yrfa.
- Yn Aberystwyth, bydd gennych yr hyblygrwydd i astudio hanes o’r oesoedd canol hyd at y cyfnod cyfoes, a dewis helaeth o themâu, er enghraifft pŵer, trais, mudo, rhywedd a syniadau, ymhlith eraill.
- Bydd astudio am radd gyda ni yn rhoi profiad ymarferol i chi o ymchwil hanesyddol. O ddechrau eich cwrs byddwch yn gweithio gyda ffynonellau gwreiddiol, ac yn elwa o ddefnyddio adnoddau o'r radd flaenaf, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ogystal â'n llyfrgell prifysgol ein hunain, Llyfrgell Hugh Owen.