Cewch eich dysgu gan ymchwilwyr sy’n arwain y byd yn ystod eich amser yn Aberystwyth. Mae’n staff ni’n arbenigwyr ar draws ystod eang o feysydd mewn daearyddiaeth ddynol, daearyddiaeth ffisegol, gwyddor amgylcheddol, Gwyddor Daear a chymdeithaseg. Maent yn gweithio ar draws chwe grŵp ymchwil penodol: Canolfan Rewlifeg; Daearyddiaeth Ddiwylliannol a Hanesyddol; Arsylwi ar y Ddaear a Deinameg Ecosystemau; Prosesau Wyneb y Ddaear; Daearyddiaeth Wleidyddol Newydd; a Newid Amgylcheddol Cwaternaidd.
Yn yr asesiad ymchwil diweddaraf ledled y Deyrnas Unedig (REF 2021) mae 95% o’r ymchwil yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, gan ddynodi ansawdd ac ehangder y gwaith ymchwil a wnawn. Un o nodweddion allweddol yr ethos ‘addysgu ar sail ymchwil’ yn Aberystwyth yw y byddwch yn cael cyswllt rheolaidd ag arloeswyr ac arweinwyr cydnabyddedig yn eu priod feysydd. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn agored i’r syniadau academaidd diweddaraf mewn darlithoedd, tiwtorialau, seminarau a chyrsiau maes israddedig drwy gydol ein rhaglenni.
CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd):
Prosiect a ariennir gan yr UE sy’n anelu at gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd (yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos), rhagor o stormydd a digwyddiadau tywydd eithafol ar dreftadaeth ddiwylliannol riffiau, ynysoedd a phentiroedd moroedd rhanbarthol Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys hefyd y Comisiwn Brenhinol, y rhaglen Discovery ac Arolwg Daearegol Iwerddon.
Peryglon rhewlifol yn Chile:
Prosiect a ariennir gan NERC (DU) a CONICYT (Chile) ac sy’n ceisio ateb cwestiynau allweddol ynglŷn â gorffennol, presennol a dyfodol peryglon rhewlifol yn Chile. Mae’r prosiect yn asesu y newid ym maint, amlder a dosbarthiad y gwahanol beryglon rhewlifol yn Chile o dan y newid yn yr hinsawdd byd-eang sy’n digwydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd ymchwilwyr blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Austral yn Chile, Prifysgol Caerwysg, Reynolds International Ltd (UK) a Phrifysgol Magallanes (Chile).
Arsylwi ar y Ddaear a Deinameg Ecosystemau:
Mae’r tîm Arsylwi ar y Ddaear yn Aberystwyth yn defnyddio data synhwyro o hirbell sy’n cael ei gasglu ar y ddaear, yn yr awyr ac yn y gofod er mwyn deall yn well effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol newid hinsawdd ar ecosystemau ac amgylcheddau. Mae’r tîm wedi datblygu ffyrdd i nodi cynefinoedd fector ar gyfer malaria drwy fanteisio ar wybodaeth a gafwyd o ddata synhwyro o hirbell a’i gynhyrchion. Drwy wneud hyn, gall gwaith rheoli malaria gael ei dargedu ar ardaloedd lle mae’r angen mwyaf er mwyn helpu i ddileu’r clefyd hwn.
Byd-eang-Gwledig:
Nod y prosiect eang hwn yw canfod sut mae globaleiddio’n newid lleoedd gwledig o amgylch y byd a sut mae cymunedau gwahanol yn ymateb. Mae’r ymchwil wedi canolbwyntio ar amrywiaeth o themâu a safleoedd, gan gynnwys astudio sut mae Seland newydd wedi dod yn archbwer llaeth byd-eang, sut mae busnesau yn y Drenewydd yma yng Nghymru yn defnyddio ffyrdd newydd i gystadlu mewn marchnad gynyddol fyd-eang, a sut mae cynhyrchu a bwyta siwgr wedi dylanwadu ar economïau a masnach gwledig.
WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru):
Mae’r ganolfan ymchwil aml-sefydliad cenedlaethol hwn yn gwneud ymchwil arloesol ar y gymdeithas sifil gan rychwantu daearyddiaeth ddynol, cymdeithaseg a disgyblaethau eraill yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae themâu’r ymchwil yn cynnwys: ymfudo, lleiafrifoedd a’r gymdeithas; cymunedau lleol a globaleiddio; ac iaith, diwylliant a hunaniaeth