Busnes a Rheolaeth
Mae byd menter yn addasu ac yn esblygu'n gyson. Mae'n cael ei siapio gan ddigwyddiadau economaidd, newidiadau mewn arferion cyfrifeg, newidiadau cyfreithiol a rheoleiddio, penderfyniadau marchnata, a datblygiadau strategol, sydd i gyd yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant busnes. Mae ein graddau Busnes a Rheolaeth wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr sy'n anelu at ragori a chyrraedd y lefel uchaf o arferion rheoli busnes byd-eang.
Pam astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn dysgu gan ddarlithwyr sydd ag ystod eang o brofiad busnes a rheoli, yn ogystal â diddordebau ymchwil, sydd wedi'u hymgorffori i'ch dysgu.
- Cewch gyfle i weithio gyda busnesau yn y gymuned leol a thu hwnt i ddatblygu eich sgiliau ymarferwr, gan gefnogi eich datblygiad academaidd.
- Bydd ein tîm o academyddion arbenigol yn datblygu eich dealltwriaeth o reolaeth mewn busnes a masnach yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.