Cyfrifeg a Chyllid
Mae Cyfrifeg a Chyllid yn cynnwys cysyniadau arian, busnes a rheolaeth, gyda phwyslais ar yrfaoedd proffesiynol yn y meysydd hyn. Mae cyfrifyddu'n ymwneud â dadansoddi gwybodaeth ar gyfer gwahanol agweddau ar fusnes, tra bod cyllid yn ymwneud â chronfeydd ariannol busnes yn unig.
Pam astudio Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Yn Aberystwyth, mae ein graddau cyfrifeg a chyllid wedi'u hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), a'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).
- Cewch eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gan ein staff profiadol, proffesiynol a chyfeillgar.
- Gallai astudio Cyfrifeg a Chyllid fod yn ddelfrydol i chi os ydych yn mwynhau mathemateg ac eisiau ei chymhwyso i fusnes, boed hynny'n rheolaeth, cyfraith busnes neu economeg.
- Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan gyfrifwyr cymwysedig a chydnabyddedig sydd â chyfoeth o brofiad diwydiant ac academaidd.