Gwaith rhan-amser/yn ystod y tymor
Nid yn unig y bydd swydd ran-amser yn eich helpu i ennill mwy o arian, gall hefyd fod yn brofiad gwaith gwerthfawr a fydd o gymorth i chi i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith lefel gradd. Bydd yn dangos i'r rhai sy'n recriwtio graddedigion eich bod yn gallu cydbwyso ymrwymiadau gwaith ac astudio, yn ogystal a'ch helpu i ddatblygu sgiliau newydd.
Mae gwaith rhan amser yn cael ei hysbysebu ar eing gronfa ddata ar gyfer swyddi a digwyddiadau - gyrfaoeddABER.
Ble arall gallech edrych am swyddi rhan amser?
AberWorks – yn cael ei redeg gan Adnoddau Dynol, mae AberWorks yn cynnig rolau mewn amrywiaeth o wasanaethau proffesiynol ac adrannau academaidd. Am mwy o wybodaeth cliciwch yma neu ebostiwch hr@aber.ac.uk
Papurau newyddion lleol fel Cambrian News
safleswyddi - gwaith rhan amser trwy gyfrwng y Gymraeg
lleol.cymru - gwaith rhan amser trwy gyfrwng y Gymraeg
Bwrdd Iechyd Hywel Dda Swyddi 'banc' Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ogystal â swyddi rhan-amser dros dro / parhaol
Byddwch yn ofalus iawn wrth ddod o hyd i swyddi gwag ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein, os oes gennych unrhyw ansicrwydd ynghylch swydd wag mae croeso i chi gysylltu â ni ar gyrfaoedd@aber.ac.uk i gael ail farn ar swydd wag yr ydych wedi dod o hyd iddi.
Oriau gweithio - argymelliadau
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn argymell myfyrwyr amser llawn i beidio a gweithio mwy na 15 awr yr wythnos yn ystod y tymor er mwyn osgoi effaith negyddol ar astudiaethau academaidd. Mae gwyliau brifysgol yn gyfle da i weithio oriau ychwanegol i gynilo ar gyfer y tymor, felly manteisiwch i'r eithaf ar y cyfnod hwn.
Byddem hefyd yn eich cynghori i geisio torri nôl ar waith rhan-amser yn ystod cyfnod arholiadau fel y gallwch ganolbwyntio 100% ar yr arholiadau hollbwysig.
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, cofiwch y gallai nifer yr oriau y byddwch yn eu gweithio, a'ch hawl i weithio yn ystod eich astudiaethau, ddibynnu ar eich fisa. Am fwy o wybodaeth, ewch i UKCISA.
Gwybodaeth pellach
Edrychwch ar y recordiad hwn o'n gweminar Dod o hyd i waith rhan-amser yn Aberystwyth.
Ceir gwybodaeth ar lleiafswm cyflog cenedlaethol, treth incwm, yswiriant cenedlathol ac oriau gweithio ar GOV.UK