Aros yn Aber dros wyliau'r Nadolig?
Ydych chi'n aros ar y Campws neu yn Aberystwyth yn ystod gwyliau'r Nadolig?
Os felly, peidiwch â phoeni. Byddwch mewn cwmni da! Nid chi fydd yr unig fyfyriwr sy'n aros yn y Brifysgol dros yr Ŵyl. Mae llawer o fyfyrwyr, rhai o wledydd Prydain a rhai o dramor, yn aros yn Aber yn ystod gwyliau'r Gaeaf.
Bydd y canllawiau hyn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy'n digwydd ar y Campws ar gyfer myfyrwyr drwy fis Rhagfyr a gwyliau'r Gaeaf. Mae'n cynnwys dolenni i ddigwyddiadau, gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ac amseroedd agor gwasanaethau allweddol ar y Campws yn ystod yr egwyl.
Cael Gafael ar Gymorth yn Ystod Gwyliau'r Gaeaf
Wrth i'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr gau ar gyfer gwyliau'r Nadolig, mae’n debyg y cewch y Brifysgol yn dawelach nag yn ystod y tymor. Peidiwch â phoeni – bydd rhywfaint o gefnogaeth ar y campws o hyd i'ch helpu os bydd ei hangen arnoch.
Beth alla i gymryd rhan ynddo cyn y gwyliau?
Trwy gydol mis Rhagfyr fe fydd digonedd o weithgareddau a digwyddiadau Nadoligaidd yn cael eu cynnal. Mae ein Tîm Bywyd Preswyl wedi gwneud yn wych eleni wrth ddathlu’r Nadolig â digwyddiadau Nadoligaidd drwy gydol mis Rhagfyr. Bydd pob digwyddiad yn cael ei hysbysebu ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol - Instagram a Facebook (@Bywydaberlife IG a BywydaberLife FB).
Yn eu plith fe fydd noson Carol-oce a Pitsa, nosweithiau ffilm, crefftau’r Nadolig, bingo Nadoligaidd, cwis y Nadolig, coffi am ddim gyda mins peis, helfa drysor, a sesiynau galw heibio i’r rhai sy’n chwilio am gymorth. Felly dewch yn llu i gael blas ar naws y Nadolig.
Mae UM Aber yn cynnal gweithgareddau cymunedol arbennig trwy gydol mis Rhagfyr, gan gynnwys sesiwn Cwrdd a Chyfarch i fyfyrwyr sy'n aros yn Aber dros wyliau'r Nadolig, lle y gallant gael pecyn cymorth i’r gaeaf. Edrychwch ar y dudalen ddigwyddiadau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd a sut i gymryd rhan. Neu ewch i'w tudalen In i gael gwybod mwy.
Mae'r Undeb hefyd wedi creu Grŵp Facebook i rannu’r diweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau, yn ogystal â rhoi modd i chi gyfathrebu â myfyrwyr eraill sydd yn Aber dros wyliau'r gaeaf.
Pryd fydd y Brifysgol yn cau?
Bydd y Brifysgol ar gau o 16:30 ddydd Gwener, 22 Rhagfyr 2023 a bydd yn ailagor ac yn ôl i’w threfn arferol ddydd Mercher, 3 Ionawr 2023. Mae hwn yn gyfnod o wyliau felly ni fydd y rhan fwyaf o’n staff yn gweithio ac ni fyddant yn darllen negeseuon e-bost yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd Adeilad Undeb y Myfyrwyr yn cau o 16:00 ddydd Mercher 20 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Mercher 3 Ionawr, 10:00-16:00 ar gyfer yr wythnos gyntaf. Ni fydd rhai o staff Undeb y Myfyrwyr ar gael o’r 21ain o Ragfyr, ond bydd modd cysylltu â’r dderbynfa drwy e-bost ar undeb@aber.ac.uk.
Chwilio am gymorth brys? Bydd ein tîm Diogelwch cyfeillgar ar gael ar y campws 24/7.
Os bydd angen ichi gysylltu â’r Brifysgol pan fydd ar gau, ewch i Dderbynfa’r Campws (wrth fynedfa Campws Penglais – bydd ar agor 24/7), neu ffoniwch Linell Gymorth y Brifysgol, sydd ar agor 24/7, ar 01970 622900. Bydd modd i’r tîm Diogelwch roi cymorth, ac os ydych chi’n profi argyfwng, gallant eich cyfeirio at ein tîm ar alwad.
Gwasanaeth Diogelwch y Campws
Bydd ein tîm Diogelwch cyfeillgar ar gael ac yn bresennol ar y campws 24/7, fel y mae bob amser. Mae swyddfa’r Gwasanaeth Diogelwch i’w chael yn Adeilad Derbynfa'r Campws ger prif fynedfa campws Penglais. Byddant yn rheoli mynediad a diogelwch adeiladau a neuaddau preswyl y Brifysgol yn ystod gwyliau'r Nadolig.
Bydd y tîm yn ‘ymatebwyr cyntaf’, yn mynd i unrhyw ddigwyddiadau ac argyfyngau ac yn rheoli unrhyw sefyllfaoedd o’r fath ar y Campws. Gellir cysylltu â swyddfa’r gwasanaeth Diogelwch ar 01970 622 900.
Cymorth yn y Neuaddau Preswyl
Bydd y Swyddfa Llety ar agor tan 15:00 ddydd Gwener, 22 Rhagfyr, a bydd yn cau wedi hynny tan 08:30 ar ddydd Mercher, 3 Ionawr 2023. Os oes angen cymorth arnoch chi yn ystod y cyfnod hwn, ewch i brif dderbynfa’r campws. Bydd rhywun yno 24/7.
Dyma oriau agor y mannau Cymdeithasol yn y neuaddau rhwng 22 Rhagfyr a 3 Ionawr:
- Y Sgubor - mynediad 24/7 drwy Gerdyn Aber
- Y Ffald - mynediad 24/7 drwy Gerdyn Aber
- Lolfa Rosser – mynediad 24/7 drwy Gerdyn Aber
- Lolfa PJM– mynediad 24/7 drwy Gerdyn Aber
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau cynnal a chadw, ffoniwch dîm Diogelwch y Campws ar 01970 622 900.
Llyfrgelloedd
Bydd Llyfrgelloedd Hugh Owen a'r Gwyddorau Ffisegol yn cau am 16:30 ddydd Gwener 22 Rhagfyr 2023, ac yn ailagor am 8:30 ddydd Mercher 3 Ionawr. Gweler tudalennau gwe Oriau Agor y Llyfrgell.
Mae Ystafell Astudio Iris de Freitas ar agor 24/7 o ddydd Gwener 22 Rhagfyr tan ddydd Mercher 3 Ionawr i fyfyrwyr a staff y Brifysgol, gan ddarparu mannau astudio, cyfrifiaduron, mannau astudio mewn grwpiau, peiriannau gwerthu bwyd a diod ac argraffydd/llungopïwr. Cewch fynd i mewn i Ystafell Astudio Iris de Freitas yn ystod y gwyliau gan ddefnyddio’ch Cerdyn Aber, drwy ystafell Herman Ethé. Gwyliwch y fideo i gael cyfarwyddiadau.
Gwasanaethau a Chymorth TG a Llyfrgell i fyfyrwyr dros y gwyliau
Mannau Arlwyo
Bydd y rhan fwyaf o'n siopau arlwyo ar agor tan ddydd Gwener 22 Rhagfyr, a bydd yn ail-agor ddydd Mercher 3 Ionawr. Gellir gweld oriau agor y mannau unigol yn Nadolig 2023. O ran y myfyrwyr sy'n byw ar y campws neu yn y cyffiniau, mae'n werth nodi bod siopau lleol, gan gynnwys CK's ac Subway, ar agor drwy gydol y gwyliau heblaw am ddiwrnod y Nadolig.
Cymorth Ariannol
Bydd y gwasanaeth Cyngor ac Arian ar agor hyd dydd Gwener 22 Rhagfyr a bydd yn dychwelyd i’r oriau gwaith arferol o ddydd Mercher 3 Ionawr.
Ni fydd unrhyw geisiadau caledi ar-lein sy’n dod i law yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu prosesu tan ar ôl y cyfnod cau. Os oes gennych broblemau ariannol yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â'r staff ar ddyletswydd y tu allan i oriau swyddfa ar 01970 622 900.
Eich lles
Bydd ein Tîm Lles Myfyrwyr yn cymryd hoe yn ystod cyfnod y gwyliau. Ni fyddant ar gael ar ôl 22 Rhagfyr a byddant yn ôl o ddydd Mercher 3 Ionawr. Os oes gennych bryderon brys yn ymwneud â lles, iechyd meddwl a/neu ddiogelwch, gweler ein tudalen 'Mewn Argyfwng Nawr?' sy’n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i'ch cyfeirio at y cymorth priodol yn gyflym. Os oes gennych bryderon uniongyrchol am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch eraill, defnyddiwch y cysylltiadau isod i gael cymorth brys:
- Cysylltwch â’ch meddyg teulu lleol am apwyntiad ar frys: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/directory/gps
- Galw Iechyd Cymru GIG: 111 neu 0845 46 47
- Yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys Leol: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/directory/hospitals/104
- Deialwch 999
- Y Samariaid: 116 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos) neu 0300 123 3011 am y llinell Gymraeg (7yh- 11yh, 7 diwrnod yr wythnos) http://www.samaritans.org
- PAPYRUS: 0800 068 41 41 neu 078600 39967https://www.papyrus-uk.org/
Cofiwch bwysigrwydd siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt, gadewch i'ch teulu neu’ch ffrindiau wybod sut mae pethau’n mynd. Efallai y byddant yn gallu cynnig cefnogaeth a helpu i'ch cadw'n ddiogel.
Os hoffech ddefnyddio Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn 2024, cofrestrwch yn ystod y cyfnod hwn trwy lenwi ffurflen Gofrestru’r Gwasanaeth Lles. Byddwn wedyn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib ar ôl dychwelyd.
Gwybodaeth, cymorth a chyngor cyffredinol ynghylch lles sydd ar gael i fyfyrwyr:
Togetherall: Er y gall tymor y gwyliau fod yn gyfnod o lawenydd, diolchgarwch ac agosatrwydd, gall hefyd fod yn gysylltiedig â phwysau teuluol ac ariannol, unigrwydd, pryder a thensiwn. Hyd yn oed os ydych chi’n edrych ymlaen at y gwyliau, mae'n naturiol cael cyfnodau o straen ac anhawster. Edrychwch ar awgrymiadau’r Dr Ben Locke, sef Prif Swyddog Clinigol Togetherall, ar gyfer ymdopi yn ystod y gwyliau ️ ac os oes angen mwy o gymorth arnoch, gallwch ymuno â Togetherall trwy fynd i’w gwefan.
Adnoddau Lles
O dan ofal meddyg teulu, gwasanaethau iechyd meddwl neu arbenigwyr eraill?:
Rydym yn eich cynghori i ystyried eich anghenion a sut i gael gafael ar wasanaethau dros dymor y gaeaf. Sicrhewch fod gennych ddigon o unrhyw foddion sydd ar bresgripsiwn, a’ch bod yn gwybod pryd bydd y gwasanaeth ar agor ar gyfer apwyntiadau os bydd eu hangen. Mae gwybodaeth am feddygon teulu a’r ysbyty lleol yn ardal Aberystwyth ar gael yma: https://www.nhs.wales/hpb/local-services/
Cymorth gyda'ch aseiniadau
Mae gennym ystod eang o adnoddau ac offer dysgu i'ch helpu i astudio'n effeithiol a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Mae'r ddwy Lyfrgell ar agor yr wythnos cyn y Nadolig ac mae cymorth ar gael gan y Gwasanaethau Gwybodaeth hyd at 16:30 ddydd Gwener 22 Rhagfyr 2023. Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth a'r Llyfrgelloedd yn ailagor yn llawn am 08:30 ddydd Mercher 3 Ionawr 2024.
Mae llawer o adnoddau'r llyfrgell ar gael ar-lein trwy Primo, catalog y llyfrgell. Mae fideos ar gael ar "Sut i ddod o hyd i e-lyfr" ac ar gael gafael ar adnoddau os nad ydych ar y campws. I gael rhagor o gymorth astudio ar-lein, edrychwch ar y cynhwysfawr LibGuides.
Gwasanaethau a Chymorth TG a Llyfrgell i fyfyrwyr dros y gwyliau
Eisiau dysgu sgil newydd dros wyliau'r gaeaf?
Beth am ddysgu sgil newydd dros wyliau'r Nadolig? Edrychwch ar y cyrsiau a'r adnoddau sydd ar gael yn LinkedIn Learning - boed hynny ar gyfer eich aseiniadau neu ddim ond am sbort. Gallwch ddatblygu ystod o sgiliau newydd, yn amrywio o sut i godio, i dynnu ffotos gwych â'ch ffôn. Dyma restr o 12 cwrs i chi roi cynnig arnynt dros 12 diwrnod y Nadolig:
- Cyflwyniad i Ddylunio Graffig (53 munud)
- Dysgu Python – Heriau Codio (3 awr 5 munud)
- Tynnu ffotos gwych â’ch ffôn (54 munud)
- Arferion Hapusrwydd (48 munud)
- Dechrau Gwersi Cerddoriaeth ar y Gitâr Acwstig (3 awr 5 munud)
- Awgrymiadau ar gyfer Defnyddio Excel (44 munud)
- Optimeiddio'ch iPhone i’ch helpu i ganolbwyntio, bod yn gynhyrchiol, ac i wella’ch lles (17 munud)
- 7 ffordd o gael gwared ar straen (9 munud)
- Her Darlunio 5-Diwrnod: Ysbrydoliaeth ar gyfer Tynnu Lluniau (29 munud)
- Cwsg yw'ch Pŵer Arbennig (34 munud)
- Cyllidebu mewn Bywyd Go Iawn (44 munud)
- Awgrymiadau ar gyfer Defnyddio PowerPoint (32 munud)
Yn y gymuned
Ydych chi’n chwilio am bethau i’w gwneud dros wyliau’r gaeaf? Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygaid am yr hyn sy’n digwydd yn y gymuned leol.
- Mae Canolfan Hamdden Plascrug ar agor dros y rhan fwyaf o’r cyfnod hwn, a dim ond ar gau ar 25 a 26 Rhagfyr a’r 1af o Ionawr: http://www.ceredigionactif.org.uk/docs/christmas-and-new-year-opening-hours.pdf.
- Mae Llyfrgell Tref Aberystwyth ar agor y rhan fwyaf o’r amser ond bydd ar gau ar 24, 25 a 26 Rhagfyr a’r 2il o Ionawr.
- Cynhelir gwasanaethau yn yr Eglwysi a’r Capeli lleol yn ystod gwyliau’r gaeaf. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Darpariaeth Ffydd Leol: https://elimaberystwyth.com/christmas/.
- Os hoffech chi ymuno â rhedwyr neu gerddwyr eraill i gerdded/jogio/rhedeg 5k o amgylch y llwybr Parkrun ar unrhyw un o’r dyddiadau hyn – dydd Sadwrn 23/12/2023, dydd Llun 25/12/2023, dydd Sadwrn 30/12/2023, dydd Llun 01/01/2024, gallwch gofrestru ar y weddalen ganlynol: https://www.parkrun.org.uk/register/?eventName=aberystwythwill