Er mwyn defnyddio’r ystafell Pwysau Rhydd, gall defnyddwyr a chanddynt brofiad o ddefnyddio pwysau rhydd yn ddiogel ac yn effeithiol fynd drwy broses achredu gydag un o’n hyfforddwyr cryfder a chyflyru cymwys. Mae disgwyl i’r defnyddwyr hyn fedru gwneud y symudiadau sylfaenol eisoes, megis codi pwysau marw, cyrcydu, y fainc, sbotio, a chynhesu ac oeri. Mae’r sesiwn achredu’n para tua 10-15 munud ac mae am ddim i aelodau neu yn costio £5.00 i'r rhai nad ydynt yn aelodau. Mae hyn hefyd yn cynnwys eich tâl mynediad ar gyfer y sesiwn. Yn ystod wythnosau gyntaf y tymor, byddwn yn gallu darparu achrediadau ar sail ad hoc o 10:30am tan 4:30pm.