Siarter Cwsmeriaid SbortAber
Mae Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth (ChwaraeonAber) yn darparu cyfleoedd o ansawdd uchel sy'n ysbrydoli cymuned ehangach y Brifysgol i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. O gefnogi dilyniant mewn camp dewisol i uchafbwynt gallu a dyhead myfyriwr, mae ChwaraeonAber yn annog pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydym yn croesawu dros 250,000 o westeion i'n hystod eang o gyfleusterau dan do ac awyr agored bob blwyddyn. Mae Campws Penglais yn amgylchedd diogel a chyfeillgar wedi'i leoli o fewn 250 erw o dir hardd.
Mae ChwaraeonAber yn arwain y blaen ym maes rheoli cyfleusterau chwaraeon yn broffesiynol. Rydym bob amser yn ceisio gwella profiad ein cwsmeriaid o ddefnyddio ein gwasanaethau ac yn eich annog i roi gwybod i ni am eich profiadau, boed y rheini’n dda neu ddrwg. Llenwch Ffurflen Adborth Cwsmeriaid a'i rhoi yn y dderbynfa, neu e-bostiwch chwaraeon@aber.ac.uk . Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich sylwadau o fewn dau ddiwrnod ac yn ymateb yn llawn o fewn pum diwrnod gwaith. Nod ein Siarter Cwsmeriaid a'n Ffurflenni Adborth Cwsmeriaid yw ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi bob amser.
Gwerthoedd y Gwasanaeth
Byddwn yn sicrhau:
- ein bod yn darparu amgylchedd diogel i chi ymgymryd â’ch gweithgaredd. Mae'r holl offer a’r gosodiadau’n cael eu harchwilio a'u cynnal a’u cadw’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gweithio’n ddidrafferth
- ein bod yn trin pob cwsmer yn yr un modd waeth beth fo'u cefndir o ran ethnigrwydd, oedran, crefydd, gallu neu rywedd ac nad ydym yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw gategorïau o fewn y meini prawf aelodaeth
- ein bod yn gwrando ar eich barn a'ch awgrymiadau am y gwasanaeth, yr adnoddau, yr offer a ddarperir a’r rhaglenni ac yn ymdrin ag unrhyw adborth yn gyflym
- ein bod yn cyfathrebu'n eang ac yn effeithiol am oriau agor y Ganolfan, hyrwyddiadau a datblygiadau ehangach o fewn ChwaraeonAber
- ein bod yn egluro'n glir unrhyw newidiadau yng nghategorïau’r aelodaeth, ffioedd aelodaeth, taliadau defnyddwyr, ffioedd llogi a chlustnodi amseroedd archebu
- ein bod yn dysgu o'n llwyddiannau a'n camgymeriadau ac yn cynnal gwerthfawrogiad iach o rôl y ddau drwy ddilyn polisi o welliant parhaus
Safonau a Gwerthoedd y Staff
Byddwn yn sicrhau:
- bod y staff yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn dangos awydd gwirioneddol i'ch helpu chi bob amser
- ein bod yn hyrwyddo diwylliant o ddidwylledd, gonestrwydd, cydraddoldeb a thegwch ym mhopeth a wnawn
- ei bod hi’n hawdd adnabod staff oherwydd eu bod bob amser yn gwisgo gwisg ChwaraeonAber
- ein bod yn darparu'r hyn yr ydym yn ei addo i'r safon uchaf ac nad ydym yn addo rhywbeth na allwn ei ddarparu
- ein bod yn helpu ac yn cefnogi ein gilydd drwy waith tîm a datblygiad proffesiynol parhaus
- ein bod yn dangos parch at gwsmeriaid, cydweithwyr ac eraill, ac yn ennill parch yn gyfnewid am hyn
- bod ChwaraeonAber yn gwella'r amgylchedd proffesiynol o gefnogi chwaraeon yn barhaus
- bod ein staff yn derbyn hyfforddiant a datblygiad parhaus a bod ganddynt yr awdurdod a'r cyfrifoldeb i ymdrin â'ch ymholiadau. Os nad oes ganddynt, byddwch yn cael eich cyfeirio at rywun a all eich helpu gyda chyn lleied o oedi â phosibl.
Gwerthuso ein Perfformiad
- Mae ChwaraeonAber yn cynnal ymchwil i'r farchnad yn rheolaidd ymhlith ein haelodau i geisio a gwella ansawdd ein gwasanaeth i gwsmeriaid. Ein llinyn mesur yw ni’n hunain a’r gorau yn y diwydiant.
- Mae ChwaraeonAber yn cyfarfod ac yn cyfathrebu'n rheolaidd â chynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod yr holl faterion sy'n ymwneud â Thîm Aber yn cael eu datrys yn gyflym ac yn effeithlon.