Moeseg Ymchwil
Dyma’r egwyddorion moesegol canllaw sy’n llywodraethu holl waith ymchwil Prifysgol Aberystwyth:
- Parch at hawliau, diogelwch a lles cyfranogwyr dynol ac anifeiliaid
- Parch at ddiwylliannau, gwerthoedd, traddodiadau eraill a’r amgylchedd o’n cwmpas
- Gonestrwydd, uniondeb a phroffesiynoldeb bob amser
Anogwn bob ymchwilydd i droi at y Fframwaith Moeseg Ymchwil fel man cychwyn. Fodd bynnag, os oes gennych gwestiynau heb eu hateb, cysylltwch â’r tîm Moeseg Ymchwil a fydd yn barod i helpu. Gallwn hefyd gynnig cyngor ar y drefn gymeradwyo gywir i’w dilyn, cyngor wrth ddrafftio ceisiadau a thrafod unrhyw bynciau ymchwil neu syniadau arfaethedig all fod gennych.
Polisi a Fframwaith
Fframwaith Moeseg Ymchwil
Mae’r fframwaith yn cynnwys canllawiau gweithredol mewn perthynas â moeseg ymchwil a’r prosesau sy’n gysylltiedig â hynny. A fyddech cystal ag ymgyfarwyddo ag adrannau perthnasol y canllawiau hyn yn y lle cyntaf. Os bydd angen cyngor neu gefnogaeth arnoch, mae pob croeso ichi gysylltu â ni.
Fframwaith Moeseg Ymchwil (yn Saesneg yn Unig ar hyn o bryd)
Polisi Moeseg Ymchwil ac Uniondeb
Mae’r Polisi yn amlinellu’r hyn a ddisgwylir gan bob ymchwilydd sy’n gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Polisi Moeseg Ymchwil ac Uniondeb (yn cael ei adolygu)
A oes angen adolygiad moesegol ar fy mhrosiect ymchwil?
C: A oes angen adolygiad moesegol ar fy ngwaith?
Mae angen adolygiad moesegol ar gyfer yr holl ymchwil a gynhelir gan staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Mae camau penodol i’r broses adolygu moesegol - yn gyntaf ceir adolygiad moesegol ‘cryno’ drwy gyfrwng offer sgrinio ar-lein, a dylai pob ymchwil ymgymryd â’r adolygiad cryno hwn. Mae hyn yn aml yn ddigon ar gyfer ymchwil isel ei risg a gellir ei gymeradwyo o fewn Adran academaidd. Ar gyfer prosiectau uchel eu risg, efallai y bydd angen adolygiad ail gam ar lefel y Brifysgol neu gan gorff allanol.
Nid yw'r rhestr ganlynol yn gynhwysfawr, ond mae'n debygol y bydd y sefyllfaoedd a ddisgrifir isod yn gofyn am adolygiad moesegol ffurfiol gan banel ar lefel prifysgol neu gorff allanol:
- Ymchwil sy'n cynnwys unigolion neu grwpiau agored i niwed (e.e. plant a phobl ifainc; pobl â nam gwybyddol neu anabledd dysgu neu nad oes ganddynt 'allu cynhenid'; unigolion neu grwpiau lle mae perthynas bŵer wirioneddol neu ganfyddedig yn bodoli gyda'r ymchwilydd).
- Ymchwil sy'n cynnwys casglu data personol sensitif (e.e. ethnigrwydd, rhywedd, iechyd meddwl, ymddygiad rhywiol, safbwyntiau neu weithgareddau gwleidyddol, gweithgaredd neu ymddygiad anghyfreithlon, profiad o drais, cam-drin, camfanteisio)
- Ymchwil a allai achosi niwed i ymchwilwyr, cyfranogwyr ymchwil, trydydd partïon, a/neu'r amgylchedd
- Ymchwil sy'n cynnwys anifeiliaid
- Ymchwil sy'n cynnwys mynediad at ddarpar gyfranogwyr neu gyfranogwyr sydd eisoes wedi’u recriwtio drwy 'borthgeidwad'
- Ymchwil sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol a gafodd eu recriwtio drwy'r GIG, eu data a/neu eu meinwe
- Ymchwil sy'n cynnwys carcharorion, staff carchardai, y lluoedd arfog, neu'r Weinyddiaeth Amddiffyn
- Ymchwil sy'n cynnwys llyncu sylweddau o unrhyw fath
- Ymchwil sy'n cynnwys cymell poen corfforol, pryder, straen seicolegol, neu gywilydd
- Ymchwil sy'n cynnwys talu cyfranogwyr (y tu hwnt i unrhyw arwydd bach o ddiolch)
- Ymchwil sy'n cynnwys twyll
Fel arfer, nid oes gan fyfyrwyr israddedig na myfyrwyr uwchraddedig a addysgir sy'n ymgymryd ag ymchwil annibynnol (e.e. trwy brosiectau traethawd hir) hyfforddiant digonol neu brofiad i ymgymryd â phrosiect uchel ei risg, ac mae'r llinell amser ar gyfer prosiectau ymchwil yn gymharol gywasgedig fel arfer. O ganlyniad, y disgwyliad yw na fydd myfyrwyr israddedig na myfyrwyr uwchraddedig a addysgir fel rheol yn ymgymryd â phrosiectau uchel eu risg (h.y. prosiectau y mae angen i’r Brifysgol neu gorff allanol graffu arnynt). Rhaid i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr uwchraddedig a addysgir sy'n ystyried prosiectau uchel eu risg gael cefnogaeth eu hadran academaidd i ymgymryd â phrosiect o'r fath a’i gyflwyno i banel moeseg ymchwil ar lefel y Brifysgol; mae hyn yn golygu trafod eu cynnig â’u harolygydd academaidd mor gynnar â phosibl yn y broses o baratoi traethawd hir, a bod yr arolygydd/adran yn gofyn am gyngor yr Uned Uniondeb a Moeseg Ymchwil cyn ystyried cyflwyno cynnig i un o baneli moeseg y Brifysgol.
A oes angen adolygiad moesegol ar fy mhrosiect Cyfnewid Gwybodaeth/Effaith?
Cyfnewid gwybodaeth, effaith ymchwil, moeseg ac uniondeb
Dylai'r un egwyddorion sy'n rheoli ein hymchwil hefyd reoli’r cyfnewid gwybodaeth y mae'n ei lywio a/neu'r effaith sy'n deillio ohono, sef:
- Parch tuag at hawliau, diogelwch a lles yr holl bobl a’r anifeiliaid sy’n rhan o’r ymchwil.
- Parch tuag at ddiwylliannau, gwerthoedd a thraddodiadau eraill a'r amgylchedd o'n cwmpas
- Gonestrwydd, uniondeb a phroffesiynoldeb bob amser
C: A oes angen adolygiad moesegol ar fy nghyfnewid gwybodaeth neu weithgaredd effaith?
Fel rheol, dylid cynllunio effaith a chyfnewid gwybodaeth yn rhan o brosiect ymchwil, ac felly byddai'n cael ei ystyried yn rhan o'r broses adolygu moesegol ar gyfer y prosiect ymchwil gwreiddiol. Fodd bynnag, gall sefyllfaoedd godi lle cynhelir gweithgareddau ychwanegol (e.e. ymgysylltu â'r cyhoedd) yn ogystal â’r gwaith ymchwil neu lle mae cyfleoedd effaith neu gyfnewid gwybodaeth serendipaidd yn codi, nad ydynt efallai wedi cael eu hystyried ar ddechrau'r prosiect ymchwil. Mewn llawer o achosion, mae'r gwaith effaith neu gyfnewid gwybodaeth mewn gwirionedd yn dod o dan y diffiniad o ymchwil; pan fo hyn yn wir ac nad yw moeseg y gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth neu effaith ymchwil wedi cael eu hasesu o'r blaen (e.e. yn rhan o'r broses moeseg ymchwil wreiddiol, neu lle mae cynlluniau ar gyfer effaith neu gyfnewid gwybodaeth wedi newid yn sylweddol o unrhyw gais moeseg ymchwil gwreiddiol), mae'n hanfodol cael adolygiad moesegol ac ennill barn foesegol ffafriol cyn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd effaith neu gyfnewid gwybodaeth.
Mae angen adolygiad moesegol o weithgareddau effaith neu gyfnewid gwybodaeth os yw’r gweithgareddau hyn yn cynnwys ymchwil (ac ni waeth a yw'r ffrwd ariannu yn cael ei bathu'n ffurfiol fel 'cyfnewid gwybodaeth' neu 'effaith' yn hytrach nag fel 'ymchwil'), gan gynnwys:
- Lle cesglir data gan gyfranogwyr dynol i ddatblygu neu gyfrannu at wybodaeth newydd a/neu gyffredinol.
- Lle cesglir data personol sensitif a/neu lle gellir adnabod cyfranogwyr yn unigol trwy gasglu, dadansoddi a thrin y data hwn yn dilyn hynny
- Lle caiff y data a gesglir ei ddefnyddio ar gyfer cyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid neu destunau academaidd eraill
- Pan fo cyfranogwyr sy’n agored i niwed yn rhan o’r ymchwil (e.e. plant a phobl ifainc; pobl â nam gwybyddol neu anabledd dysgu neu nad oes ganddynt 'allu cynhenid'; unigolion neu grwpiau lle mae perthynas bŵer wirioneddol neu ganfyddedig yn bodoli gyda'r ymchwilydd).
Fel arfer, ni fydd angen adolygiad moesegol pan fo’r gweithgaredd effaith neu gyfnewid gwybodaeth:
- i bob pwrpas yn ddigwyddiad lledaenu ymchwil neu’n ddigwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd (ar yr amod bod y pwnc/gweithgaredd yn isel ei risg yn foesegol), neu
- yn debyg i werthusiad gwasanaeth (e.e. pan fo asesiad o ddigwyddiad neu weithgaredd penodol yn rhan o'r digwyddiad neu'r gweithgaredd penodol ac na ellir ymestyn a chyffredinoli'r canfyddiadau y tu hwnt i'r digwyddiad neu'r gweithgaredd penodol), a
- lle bo adborth gan gyfranogwyr yn ddienw neu na ellir adnabod unigolion ar sail yr wybodaeth a roddir
I gael rhagor o wybodaeth am effaith ymchwil, moeseg ac uniondeb yng nghyd-destun y FfRhY, gweler y ddolen ganlynol https://www.aber.ac.uk/cy/rbi/support-services/ref-monitoring/impact-toolkit/moeseg/#effaith-ymchwil, neu am ymholiadau a chyngor ar y pwnc hwn, cysylltwch â'r Uned Uniondeb a Moeseg Ymchwil (moeseg@aber.ac.uk) neu'r Tîm Monitro Ymchwil a’r FfRhY (ymchwil@aber.ac.uk).
Ar gyfer pob ymholiad arall ynghylch ymchwil, cyfnewid gwybodaeth, effaith a moeseg ymchwil ac uniondeb, cysylltwch â'r Uned Uniondeb a Moeseg Ymchwil (moeseg@aber.ac.uk).
Diffiniad o Ymchwil
Diffinnir ymchwil gan Lawlyfr OECD Frascati 2015 (https://doi.org/10.1787/9789264239012-en) fel a ganlyn:
Mae ymchwil a datblygiad arbrofol yn cynnwys gwaith creadigol a systematig a wneir er mwyn cynyddu'r stôr o wybodaeth – gan gynnwys gwybodaeth am ddynolryw, diwylliant a chymdeithas – ac er mwyn dyfeisio cymwysiadau newydd o'r wybodaeth sydd ar gael.
Diffiniodd FfRhY 2021 ymchwil fel:
“proses o ymchwilio sy'n arwain at daflu goleuni newydd, a hynny'n cael ei rannu'n effeithiol.
Mae'n cynnwys gwaith sydd yn uniongyrchol berthnasol i anghenion masnach, diwydiant, diwylliant, cymdeithas, ac i'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol; ysgolheictod; dyfeisio a chreu syniadau, delweddau, perfformiadau, arteffactau gan gynnwys dylunio, pan fo'r rhain yn arwain at daflu goleuni newydd neu lawer gwell; a defnyddio gwybodaeth sy'n bodoli eisoes mewn gwaith datblygu arbrofol i gynhyrchu deunyddiau, dyfeisiau, cynnyrch a phrosesau newydd neu rai llawer gwell, gan gynnwys dylunio ac adeiladu. Nid yw'n cynnwys profi a dadansoddi rheolaidd ar ddeunyddiau, cydrannau a phrosesau megis ar gyfer cynnal safonau cenedlaethol, yn wahanol i ddatblygu technegau dadansoddi newydd. Nid yw ychwaith yn cynnwys datblygu deunyddiau addysgu nad ydynt yn ymgorffori ymchwil gwreiddiol.
Mae'n cynnwys ymchwil sy'n cael ei gyhoeddi, ei rannu neu ei ddarparu i'r cyhoedd ar ffurf allbynnau ymchwil y gellir eu hasesu, ac adroddiadau cyfrinachol."
Gwneud Cais am Gymeradwyaeth Foesegol
Rhaid defnyddio ffurf gydnabyddedig o graffu moesegol ar gyfer pob gwaith ymchwil, pa un a yw’n cynnwys cyfranogwyr dynol neu beidio; dylid gwneud hyn unwaith y bydd y cynnig terfynol wedi’i lunio ac ni ddylid dechrau’r gwaith ymchwil heb gymeradwyaeth foesegol berthnasol.
Os ydych yn ansicr ynghylch y math o gymeradwyaeth fydd ei angen arnoch, neu os hoffech gyngor wrth lunio eich cynnig, a fyddech cystal â chysylltu â ni i drafod.
Cam 1: Cwblhau Asesiad
Rhaid cynnal asesiad o leiaf ar gyfer pob cynnig ymchwil drwy’r ffurflen asesu ar-lein. Gofynnir ichi gyflwyno cais gerbron un o’r cyrff adolygu mewnol cydnabyddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef y Panel Moeseg Ymchwil, y Corff Lles Ymchwil ac Adolygu Moesegol neu’r Panel Nawdd (cyn ei gyflwyno i’w adolygu’n allanol).
Gallwch gael mynediad at y ffurflen asesu moeseg ar-lein: YMA
________________________________
Gall prosiectau nad oes iddynt fawr o ystyriaethau moesegol fod yn gymwys i’w hadolygu gan y Gyfadran / Adran. Ar ôl cwblhau’r asesiad, fe’i hanfonir yn awtomatig at adolygydd y Gyfadran / Adran i’w asesu.
Mae’n debyg mai’r Deon Ymchwil Cyswllt fydd yn adolygu ceisiadau staff a myfyrwyr ymchwil uwchraddedig. Ar gyfer israddedigion a myfyrwyr dysgu trwy gwrs, eich goruchwyliwr neu gydgysylltydd y modiwl fydd yn eu hadolygu gan amlaf.
Dylai pob ymchwilydd hefyd ddilyn yn ofalus unrhyw weithdrefnau (adrannol) lleol, gan fod rhai adrannau yn cynnal adolygiad moesegol pellach o gynigion.
Cofiwch mai un elfen yn unig o sefydlu prosiect ymchwil llwyddiannus yw adolygiad moeseg ymchwil. Os bydd eich adolygydd yn cadarnhau nad oes angen adolygiad moesegol pellach ar ôl cwblhau’r asesiad, rhaid ichi sicrhau o hyd:
- Fod safon dogfennaeth y prosiect (e.e. y ffurflenni caniatâd a’r taflenni gwybodaeth i gyfranogwyr) yn ddigonol.
- Eich bod yn ymlynu wrth yr holl brosesau a gweithdrefnau mewnol ac allanol eraill cyn dechrau eich gweithgareddau ymchwil.
- Gofynnir i fyfyrwyr gydweithio â’u goruchwylwyr ar gyfer hyn.
Cam 2: Sicrhau Cymeradwyaeth
Lle mae’n rhaid sicrhau cymeradwyaeth foesegol ar gyfer cynnig, un o’r cyrff cymeradwyo isod fydd yn gweithredu ar hynny, fel rheol:
Y Panel Moeseg Ymchwil yw prif Banel adolygu mewnol y Brifysgol sy’n adolygu ystod eang o feysydd a phynciau ymchwil. Dyma’r prif Banel sy’n gyfrifol am adolygu a dyfarnu barn foesegol ar brosiectau ar bob lefel, o brosiectau israddedigion i aelodau staff, ar draws y Brifysgol.
Y Panel Nawdd sy’n goruchwylio’r holl astudiaethau ymchwil a threialon a gymeradwyir yn allanol (trwy’r Awdurdod Ymchwil Iechyd ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru). Mae’n adolygu ceisiadau ac yn cynnal gwiriadau llywodraethu nawdd cyn cyflwyno ceisiadau i gorff moeseg neu reoleiddiol allanol.
Mae’r Corff Lles Anifeiliaid ac Adolygu Moesegol (AWERB) yn gyfrifol am ystyried a monitro cydymffurfiaeth y Brifysgol â Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986, trwy gynnal adolygiad moesegol o’r holl brosiectau ymchwil sy’n cynnwys anifeiliaid gwarchodedig.
Panel Moeseg Ymchwil
Mae rôl bwysig gan y Panel Moeseg Ymchwil wrth sicrhau’r safonau moesegol uchaf a theilyngdod gwyddonol is-set y cynigion ymchwil y mae’n eu hadolygu. Rôl y Panel Moeseg Ymchwil yw darparu adolygiad annibynnol ac ar y cyd er mwyn sicrhau bod prosiectau ymchwil yn cydymffurfio â chanllawiau moesegol a dderbynnir yn rhyngwladol ac yn lleol, gan bwysleisio:
- Amddiffyn urddas, hawliau a lles cyfranogwyr ac ymchwilwyr fel ei gilydd;
- Gwrthbwyso risg (yn cynnwys risg i enw da) mewn ffordd sy’n gymesur â’r gweithdrefnau arfaethedig;
- Sicrhau gwaith ymchwil manwl, o ansawdd, fydd o fudd dichonadwy i gyfranogwyr, gwyddoniaeth a chymdeithas.
Nid yw gwaith Panel Moeseg yn ymgysylltu ag osgoi gwaith ymchwil uchel ei risg ac ni ddylid felly ei ystyried yn rhwystr, ond yn hytrach yn broses hyrwyddol, ymgynghorol sy’n cyfoethogi. Mae’r Panel yn cwrdd yn rheolaidd gydol y flwyddyn ac mae’r dyddiadau i’w gweld isod.
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais: Cais i’r Panel Moeseg Ymchwil
Gweler: Panel Moeseg Ymchwil am ragor o wybodaeth am y drefn.
Y Panel Nawdd
Mae rhai astudiaethau ymchwil na fydd Panel Moeseg y Brifysgol yn gallu eu hadolygu a rhaid cyflwyno’r rhain i’w hadolygu’n allanol. Ymhlith y rhain mae:
- Astudiaethau sy’n cynnwys staff, data, cleifion, adeiladau neu adnoddau’r GIG;
- Astudiaethau sy’n cynnwys cyfranogwyr mewn lleoliad gofal cymdeithasol, yn cynnwys oedolion heb alluedd meddyliol;
- Astudiaethau sy’n cynnwys cyfranogwyr yn y gwasanaethau carchardai, prawf neu gyfiawnder;
- Astudiaethau sy’n cael eu hariannu neu eu noddi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Darllenwch yn gyntaf adran 2.3.7 y Fframwaith Moeseg Ymchwil ac yna ewch i'r dudalen Cymeradwyaeth Allanol am ragor o wybodaeth. Dylech hefyd gyfeirio at dudalennau gwe’r Awdurdod Ymchwil Iechyd / Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ragor o fanylion am y drefn gymeradwyo gyffredinol.
Os dyma’r tro cyntaf ichi wneud cais allanol neu os nad chi sy’n gyfrifol am sicrhau’r caniatâd perthnasol (hynny yw, os ydych yn gyd-ymchwilydd prosiect), cysylltwch â: moeseg@aber.ac.uk am gyngor.
Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd angen noddwr ar bob cais. Lle mae Prifysgol Aberystwyth yw’r noddwr, rhaid cynnal adolygiad llywodraethu mewnol cyn cyflwyno’r cais. Y Panel Nawdd sy’n cynnal yr adolygiad hwn. I gael rhagor o fanylion ynghylch sicrhau nawdd, trowch at dudalen Cymeradwyaeth Allanol.
Y Corff Lles Anifeiliaid ac Adolygu Moesegol
Mae pob gweithdrefn ymchwil sy’n ymwneud ag anifeiliaid yn cael ei llywodraethu’n fanwl gan Swyddfa Gartref y DU, yn unol â Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986. Mae’n hanfodol fod gan bob prosiect drwydded briodol a lefel briodol o adolygu moesegol a / neu wedi derbyn trwydded gan y Swyddfa Gartref cyn dechrau’r gwaith.
Gweler y dudalen moeseg anifeiliaid am ragor o fanylion.
Adnoddau, Hyfforddiant a Manylion Cysylltu
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â:
Lisa Fisher
Hyfforddiant Moeseg ac Uniondeb Ymchwil
Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ymdrechu am y safonau uchaf o foeseg ac uniondeb wrth gynnal ymchwil, mae'r brifysgol yn cynnig hyfforddiant i'r holl staff a myfyrwyr. Mae'n hanfodol bod ymchwilwyr yn gallu dangos ymwybyddiaeth o oblygiadau moesegol eu hymchwil.
Cyflwyniad Swyddfa Uniondeb Ymchwil y Deyrnas Unedig (UKRIO) i Ymchwil Uniondeb
Adnoddau Ychwanegol:
Canllawiau – GDPR a Moeseg Ymchwil
Polisi Apeliadau’r Panel Moeseg Ymchwil
Polisi Camymddwyn wrth Wneud Ymchwil
Polisi a Gweithdrefn Ymchwil Sensitif (Diogelwch)
Datgelu er Lles y Cyhoedd Polisi Chwythu’r Chwiban
Gweler ein gwefan Uniondeb Ymchwil am ragor o wybodaeth