Technoleg rhith-realiti yn cynnig llwyfan newydd i ddrama radio
Mae technegau rhith-realiti rhyngweithiol a gemau fideo wedi rhoi bywyd newydd i ddrama radio am gymeriad sy'n chwilio am ei enaid.
Mae cynulleidfaoedd yn cael y cyfle i brofi’r ddrama Mapping the Soul mewn ffordd unigryw ac ymdrochol drwy wisgo clustffonau rhith-realiti (VR).
Maen nhw’n symud trwy gyfres o leoliadau a gynhyrchir gan gyfrifiadur, gan ddilyn y prif gymeriad Adam (sy’n priod ag Eve) a rhyngweithio ag ef wrth iddo deithio mewn coma trwy ei isymwybod i chwilio am ei enaid.
Genetegydd yw Adam sydd wedi methu canfod DNA ar gyfer yr enaid ac mae ei stori e’n cydredeg â naratif anatomydd sy’n dyrannu ymennydd athronydd o’r 17eg ganrif mewn ymgais i ddod o hyd i’r enaid dynol.
Mewn profiad tebyg i gêm fideo a grëwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gofynnir i aelodau’r gynulleidfa gael hyd i eitemau penodol er mwyn datgloi’r naratif a gallant ddewis lawrlwytho ystod o wahanol lefelau.
Cyfansoddwyd sgôr operatig yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad, gyda’r libreto yn cael ei chanu gan y cerddor o Giwba, Jorge Moreno, ac actorion proffesiynol yn cael eu cyflogi ar gyfer y trosleisio. Y ddawnswraig flaenllaw Eddie Ladd wnaeth y symudiadau ar gyfer animeiddio cymeriad yr enaid.
Darlledwyd Mapping the Soul am y tro cyntaf ar BBC Radio 4 yn 2004 ac fe’i ysgrifennwyd gan y dramodydd Dr Lucy Gough, sy’n Gymrawd Ymchwil Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
Mae Dr Gough wedi bod yn gweithio gyda Dr Piotr Woycicki, darlithydd mewn Theatr a Chyfryngau Newydd yn Aberystwyth, i ailweithio ei drama radio a’i thrawsnewid yn brofiad rhithwir.
Her y Coroni
Cafodd ymchwil Dr Gough a Dr Woycicki ei gynnwys fel rhan o Her y Coroni, a drefnwyd gan yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Brenhinol ac a ddygodd ynghyd ymchwilwyr o brifysgolion a cholegau oedd wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2023, yr anrhydedd uchaf i’w dyfarnu ym myd addysg.
Dros gyfnod o flwyddyn, bu’r fenter ymchwil yn edrych ar sut y gall y cyfuniad o greadigrwydd ac egin dechnolegau - a elwir yn CreaTech - ysgogi arloesedd, creu swyddi a gosod y Deyrnas Gyfunol fel arweinydd byd-eang yn y diwydiannau creadigol.
Cyhoeddwyd y canfyddiadau mewn adroddiad arbennig ym mis Chwefror 2025, The Coronation Challenge: CreatTech Report, gan Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DG a’r Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Brenhinol.
Dywedodd Dr Woycicki, a fu’n gyfrifol am raglenni’r cynhyrchiad, cynllunio’r setiau a chyfansoddi’r sgôr operatig ar gyfer Mapping the Soul VR:
“Mae’r prosiect ymchwil-fel-ymarfer hwn yn archwilio potensial dramatwrgaidd a rhyngweithiol rhith-realiti, gan integreiddio mewnwelediadau o theatr, theori gêm a niwrowyddoniaeth i ail-ddychmygu archwiliad athronyddol y ddrama o’r enaid dynol. Drwy wneud hynny, mae'r prosiect yn mantoli galluoedd unigryw VR a sut y gellir defnyddio'r cyfrwng hwn at ddibenion dramatig a naratif. Roedden ni wrth ein bodd ein bod wedi gallu cyfrannu at adroddiad CreaTech, sy’n dangos sut y gall creadigrwydd ryngweithio ac egin dechnolegau dyfu’r diwydiannau creadigol a chael effaith gryfach fyth ar yr economi a chymdeithas.”
Dywedodd Dr Gough:
“Trwy droi Mapping My Soul yn brofiad rhith-realiti, rydyn ni’n gallu gweld sut mae defnyddio galluoedd unigryw VR, megis ymgorfforiad rhithiol ac amgyffrediad synhwyraidd, i gyfoethogi dulliau adrodd stori ac ymgysylltu â’r gynulleidfa. Yn ogystal â darparu llwyfan arall i archwilio’r dychymyg creadigol, rydyn ni hefyd yn dangos bod ffyrdd newydd o ddod â’r ddrama radio i’r arena gyhoeddus a bod cyfrwng arall yn esblygu a all ysgogi naratifau ffres a phosibiliadau dramatig.”
Datblygiadau pellach
Gallai canfyddiadau’r prosiect fod â goblygiadau sylweddol ar gyfer defnyddio VR mewn fformatau eraill sy’n cael eu gyrru gan naratif, gan ehangu potensial cyfryngau trochi yn y diwydiannau creadigol.
Dywedodd Dr Woycicki: “Nid gêm arall o zombies neu chwarae tenis mo hon – mae digon o’r rheini ar y farchnad brif ffrwd; yn hytrach, mae’n ymgais i gynnig dewis amgen a dod â drama ddifrifol, gyfoes, ryngweithiol i VR. Nid yw’n chwyldroadol ond mae’n nodi newid diwylliannol lle rydyn ni’n gafael mewn VR a thechnolegau newydd eraill ac yn eu defnyddio mewn ffyrdd deallus, adeiladol i archwilio cwestiynau athronyddol, dadleuon niwrowyddonol ac ymwybyddiaeth ofodol. Ein gobaith yw y bydd ein hymchwil yn ysbrydoli cynhyrchwyr theatr i ymgysylltu mwy â chrewyr gemau VR a thechnoleg greadigol a chydweithio â dramodwyr er mwyn creu cynnwys mwy theatrig.”
Mae prototeip o Mapping the Soul VR ar gael am ddim ar-lein ond bydd angen i wylwyr ddefnyddio eu clustffonau VR eu hunain i ddilyn y ddrama. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i rannu’r fersiwn derfynol yn fyd-eang ar blatfform Steam ac i lwyfannu dangosiadau cyhoeddus mewn theatrau neu orielau.
Derbyniodd prosiect Mapping the Soul VR gefnogaeth hefyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW – a elwir bellach yn Medr).
Gwybodaeth ychwanegol:
Mapping the Soul VR: https://mappingthesoul.myportfolio.com
Adroddiad CreaTeach: https://royalanniversarytrust.org.uk/wp-content/uploads/2025/02/CreaTech-Report.pdf
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth: https://www.aber.ac.uk/cy/tfts

Cysylltwch â ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at: