Defnyddio celf i lywio'r drafodaeth amgylcheddol
Ym mis Awst 2023, bu’r artist gweledol Miranda Whall yn gorwedd am 24 awr mewn ffos yr oedd hi wedi’i chloddio ei hun, yng nghanol rhwydwaith o synwyryddion pridd oedd newydd eu gosod ar ucheldir Mynyddoedd Cambria.
Roedd ganddi bâr o glustffonau am ei phen i glywed ac i lefaru’r llif parhaus o ddata byw a ddeuai o’r synwyryddion wrth iddyn nhw fonitro tymheredd a lleithder y pridd o'i chwmpas.
Cafodd y digwyddiad ei ffrydio’n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol fel rhan o berfformiad ôl-ddyneiddiol ecolegol gan Whall o’r enw When Earth Speaks: Soil Voices 2023.
Ar fore’r perfformiad, cafodd Whall ei chyfweld ar BBC Radio Wales ac erbyn y prynhawn, diolch yn rhannol i bostiadau BBC News, roedd y llif byw wedi denu cynulleidfa o filoedd o wylwyr o bedwar ban byd.
Y flwyddyn ganlynol, ym mis Mehefin 2024, llwyfannodd Whall berfformiad byw arall o’r enw When Earth Speaks: A Dirty Ensemble 2024. Comisiynwyd y perfformiad yn Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth gan Asiantaeth Datblygu Celf Fyw LADA ac fe ddygodd ynghyd griw o gerddorion arbrofol rhyngwladol a dawnsiwr Butoh i ymateb yn fyrfyryr i ffrwd data’r synwyryddion.
“Roedd hwn yn ddarn aml-haenog, aml-sbectif,” meddai Whall, sy’n ddarlithydd yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.
“Trwy’r rhwydwaith o synwyryddion, mae gwyddonwyr yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran y Brifysgol yn gallu echdynnu a dadansoddi gwybodaeth am gyflwr cyfnewidiol y pridd ar draws tirwedd amrywiol dros gyfnod o amser.
“Trwy fy ymyriad artistig i, dwi wedi rhoi llais i’r pridd – gan ei anrhydeddu, treulio amser gydag ef ac, yn yr argyfwng hinsawdd sydd ohonni, amlygu arwyddocâd amgylcheddol yr ucheldiroedd fel sinc carbon holl bwysig.
“Er mor bwysig i mi yw’r cwestiynau amgylcheddol a godir gan y gwaith, yr un mor bwysig oedd cynnig y cyfle i gynulleidfa theatr Canolfan y Celfyddydau brofi perfformiad unigryw, byrfyfyr ac arbrofol gan chwe cherddor hynod fedrus a dawnsiwr proffesiynol. Dwi’n gobeithio i’r gynulleidfa ddod oddi yno gydag ymdeimlad o fod yn un â’r Ddaear, a myfyrio ar sut yr ydym ni, fel pobl, yn cysylltu â phridd a’r byd naturiol o’n cwmpas.”
When Earth Speaks 2022-2024 oedd y cyntaf mewn cyfres o brosiectau ymchwil-fel-ymarfer lle mae Whall yn defnyddio’r amgylchedd i greu gwaith celf a darnau perfformio, tra hefyd yn defnyddio celf i lywio’r ddadl ehangach ynghylch newid hinsawdd a chynaliadwyedd.
Amlygu’r Anweledig
Cafodd y syniad o gymryd y data gwyddonol a gynhyrchir gan y synwyryddion pridd i ysbrydoli ymarfer celf ei ddatblygu’n gyntaf gan Whall mewn ymateb i fenter ymchwil trawsddisgyblaethol a ariannwyd gan NERC o’r enw Making the Invisible Visible: Instrumenting and Interpreting an Upland Landscape for Climate Change Resilience, dan arweiniad yr Athro Mariecia Fraser o Ganolfan Ymchwil Ucheldiroedd Pwllpeiran. Datblygwyd y prosiect ymhellach mewn ymateb i ail brosiect ymchwil trawsddisgyblaethol a ariannwyd gan NERC o'r enw Gwleidyddiaeth Amlrywogaeth ar Waith, dan arweiniad yr Athro Milja Kurki o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol.
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rwyf wedi bod yn archwilio data meintiol heb ei brosesu o ymchwil wyddonol ac wedi bod yn defnyddio’r data crai hwnnw fel deunydd i greu lluniadau, perfformiadau cydweithredol a cherfluniau,” meddai Whall.
“Mae gwyddoniaeth yn cynhyrchu llawer iawn o ddata ‘amrwd’ ac mae peth ohono’n cael ei brosesu a’i ddadansoddi a rhywfaint ohono ddim. Felly, mewn ffordd, mae’n ddeunydd sydd heb ei gyffwrdd. Mae’n teimlo fel deunydd anweledig ac mae’n gyffrous i mi ei drin a’i amlygu trwy fy ngwaith celf, gan ei wneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.
“Y dimensiwn hollbwysig yn y gyfres yma o waith yw’r ymateb i’r broses o gynhyrchu a storio data amgylcheddol, gyda’r gwaith yn rhannol amlygu goblygiadau ac effaith y naill a’r llall.”
Teitl ail brosiect Whall yn ei chyfres o brosiectau celf wyddonol yw When Seeds Speak 2023-2024, a arianwyd gan Athrofa’r Gwyddorau Biologeol, Amgylcheddol a Gwledig; Canolfan Dyfodol Gwledig Cymru ac Arloesi Aber, ac a wnaed mewn ymgynghoriad â’r Dr Catherine Howarth. Y tro hwn, gwahoddodd Whall gerddorion, dawnsiwr Butoh a chyfansoddwr i ymateb a rhyngweithio â set ddata amrwd heb ei phrosesu a gynhyrchwyd gan ddadansoddiad metabolomig o hedyn Ceirch Du Bach. Llwyfannwyd perfformiad arbrofol a byrfyfyr yn Theatr Seligman, yng Nghanolfa Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ym mis Medi 2024.
Lleisiau’r Pridd
Mae Whall wrthi’n datblygu cynnwys ar gyfer cyfres o ddarluniadau, cerfluniau a pherfformiadau awyr agored byw i’w llwyfannu yn ystod 2025 a 2026 dan y teitl ymbarél When Peat Speaks.
“Megis dechrau mae’r prosiect blwyddyn hwn, gyda’r perfformiad cyntaf — When Peat Speaks: A Boggy Cloudy Performance — wedi’i gynllunio ar gyfer Mehefin-Gorffennaf 2025, gyda chefnogaeth gan grantiau egin o ddwy o gronfeydd y Brifysgol, sef Y Ganolfan Dyfodol Gwledig a’r Byddoedd A Fynndwn.
“Ar gyfer y perfformiad 24 awr hwn a gaiff ei ffrydio’n fyw, byddaf y tu mewn i babell ar ffurf swigen ar gors fawn ‘Sinderela’ ddiraddiedig, ger y safle ymchwil mawn Gwaredu Nwyon Tŷ Gwydr (GGR) ym Mhwllpeiran.
“Byddaf yn gwrando ar lif parhaus o ddata a ddaw o synhwyrydd mawn fydd wedi’i osod yn arbennig. Mewn ymateb i hyn, byddaf yn creu cerflun lluniadu mawr wedi’i wneud o rolyn 10-metr o bapur. Byddaf yn marcio pob pwynt data gyda phric pin i greu llinellau tenau o bapur wedi’i bigo a gaiff ei dorri’n stribedi cul i ffurfio cwmwl mawr gwyn, amorffaidd, di-ffurf – rhyw fath o gwmwl data.”
Mae Whall hefyd yn bwriadu llwyfannu ail berfformiad aml-gyfrwng o'r enw When Peat Speaks: A Boggy Ensemble ar gors fawnog iach 7,000 mlwydd oed ym mynyddoedd y Cambrian. Bydd y perfformiad hwn, a gynhelir o flaen cynulleidfa fyw wrth i’r diwrnod darfod ym mis Mai 2026, yn cynnwys ensemble rhyngwladol o gerddorion a dawnswyr.
Cefnogir y prosiect trwy CO2RE, canolfan ymchwil y DG i waredu nwyon tŷ gwydr a ariennir gan gorff ymchwil ac arloesi UKRI.
Crossed Paths
Mewn prosiect cynharach o’r enw Crossed Paths – Sheep, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bu Whall yn cropian am bum milltir a hanner ar draws tirwedd garw, anghysbell Mynyddoedd Cambria. Roedd hi’n gwisgo cnu dafad ar ei chefn ac roedd ganddi 14 o gamerâu Go-Pro ynghlwm wrth ei chorff, yn cofnodi pob cam.
Defnyddiodd Whall y lluniau i greu gosodiad sain a fideo wyth sgrin, a oedd yn rhan o arddangosfa unigol ganddi yn Oriel Davies, Y Drenewydd, Powys, yng ngwanwyn 2018.
Defnyddiodd fformat tebyg i ddatblygu dau brosiect arall: Crossed Paths – Badger yn 2019, lle bu’n cropian drwy goetir hynafol gyda phen mochyn daear ar ei chefn a hynny ar yr awr, bob awr am 24 awr. Dilynwyd hyn gan Crossed Paths - Trees a welodd Whall yn cropian gyda choeden mewn potyn ar ei chefn ar draws tirweddau gwahanol mewn ystod o leoliad, gan gynnwys pinwydden yr Alban ar gyfer cynhadledd newid hinsawdd COP 26 yn Glasgow yn 2021 a choeden olewydd ar gyfer COP27 yn Sharm el-Sheikh yn yr Aifft yn 2022.
“Fel artist, rwy'n ceisio siarad o safbwynt gwahanol i wyddonwyr. Yn yr argyfwng hinsawdd sydd ohonni, mae'n rhaid i ni ddod â phob llais i'r bwrdd – yn ystadegwyr, dadansoddwyr data, gwyddonwyr amgylcheddol, daearyddwyr, gwleidyddion ac ati. Yr hyn y mae artistiaid yn ei gynnig yw dychymyg ac estheteg. Rydyn ni’n gallu meddwl am bethau mewn ffordd aflinol ac mae hynny'n agor ffordd newydd o feddwl. Mae angen i ni newid patrymau ac mae angen i ni newid ymddygiad. Gall artistiaid gyfrannu at y sifftiau hynny a mynd â’r ddadl at gynulleidfaoedd gwahanol.”
Cafodd gwaith Whall sylw yn Soil: The World At Our Feet, arddangosfa nodedig a gynhaliwyd yn Somerset House, Llundain, rhwng Ionawr ac Ebrill 2025, yn archwilio’r rôl y mae pridd yn ei chwarae yn ein bywydau ni gyd. Fe’i cyd-guradwyd gan y ‘Land Gardeners’ Henrietta Courtauld a Bridget Elworthy; y curadur ac awdur May Rosenthal, a Claire Catterall, Uwch Guradur Ymddiriedolaeth Somerset House.
Gwybodaeth Bellach
Gwefan Miranda Whall: www.mirandawhall.space
Somerset House: somersethouse.org.uk/press/soil-the-world-at-our-feet
Fideo Soil: The World At Our Feet: youtube.com/watch?v=byMWmtVEe3c

Cysylltwch â ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at: