Tuag at Filiwn o Siaradwyr Cymraeg? Polisi a Chynllunio Iaith yng Nghymru

Ymchwilwyr
Dr Huw Lewis 
Dr Elin Royles 
Dr Catrin Wyn Edwards

Trosolwg

Gan adlewyrchu arwyddocâd gwleidyddol cynyddol amrywiaeth ddiwylliannol, mae ymyriadau polisi cyhoeddus sy’n anelu at wella rhagolygon ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol wedi dod yn fwyfwy amlwg mewn sawl rhan o’r byd. Mae ymchwil diweddar gan Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth wedi canolbwyntio ar ddadansoddi’r gwahanol ddulliau o adfywio iaith sydd wedi’u mabwysiadu gan lywodraethau is-wladwriaethol ar draws Ewrop a Gogledd America. Yn seiliedig ar yr ymchwil hwn, rhwng Awst 2016 a Gorffennaf 2017, bu modd iddyn nhw lywio a dylanwadu ar y drafodaeth bolisi a gyfrannodd at baratoi strategaeth iaith genedlaethol uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.

Yr Ymchwil

Mae ymchwil Lewis, Royles ac Edwards yn rhan o faes rhyngddisgyblaethol ymchwil polisi iaith. Yn benodol, mae eu gwaith wedi canolbwyntio ar ddadansoddi ymyriadau polisi gan lywodraethau is-wladwriaethol Ewropeaidd gyda’r nod o adfywio ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol. Mae canfyddiadau allweddol sy’n deillio o’u hymchwil yn cynnwys yr angen i:

  • Strategaethau adfywio iaith daro cydbwysedd rhwng yr her o gynyddu nifer absoliwt siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a chynyddu defnydd yr iaith yn gymdeithasol.
  • Strategaethau cyfoes ar gyfer adfywio iaith roi mwy o ystyriaeth i oblygiadau newidiadau cymdeithasol megis y ffaith bod poblogaethau yn fwy symudol, bod mwy o ryngweithio cymdeithasol wedi’u seilio ar rwydweithiau, a bod arwyddocâd cymunedau lleol a thiriogaethol yn lleihau.
  • Strategaethau adfywio iaith roi mwy o bwyslais ar fentrau ar lefel ranbarthol, ochr yn ochr â’r rhai mwy cyfarwydd a seilir ar y gymuned.
  • Strategaethau adfywio iaith hybu ymateb i fewnfudo sy’n seiliedig ar bartneriaeth â siaradwyr presennol yr iaith leiafrifol, fel y gwelir yn rhaglen Voluntariat per la Llengua yng Nghatalwnia.

"Dwi am weld y nifer o bobl sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn cyrraedd 1 miliwn erbyn 2050. Dwi’n gwybod bod yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi chwarae rhan actif yn y broses o ddatblygu’r strategaeth Cymraeg 2050 a’ch bod chi’n dal i wneud gwaith ymchwil ar faterion cynllunio Iaith felly hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth."

Eluned Morgan AS, Mis Mai 2019

Yr Effaith

Effaith ar Bolisi a Chynllunio

Yn seiliedig ar eu harbenigedd ymchwil, mae Lewis, Royles ac Edwards wedi datblygu cysylltiadau cryf â swyddogion cyhoeddus a rhanddeiliaid allweddol eraill sy’n gysylltiedig ag ymdrechion polisi i hybu’r Gymraeg. O ganlyniad, pan gychwynnodd Llywodraeth Cymru ar y broses o ddatblygu strategaeth iaith genedlaethol newydd, roedden nhw mewn sefyllfa dda i gyfrannu at y drafodaeth bolisi a ddilynodd.

Roedden nhw’n gallu llywio a dylanwadu ar y broses hon drwy gydweithio’n agos â swyddogion Is-adran y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, a hynny o’r cam trafod cychwynnol (Hydref 2015-Gorffennaf 2016), drwy’r ymgynghori cyhoeddus (Awst-Hydref 2016) ac i’r cyfnod drafftio terfynol (Ionawr- orffennaf 2017). Yn ystod y cyfnod hwn, roedden nhw’n mynychu cyfarfodydd allweddol, darparu hyfforddiant DPP, a drafftio papurau briffio mewnol. Fe wnaethant hefyd gynnal sesiwn gaeedig ar yr ymchwil a pharatoi cyflwyniad manwl i’r ymgynghoriad cyhoeddus swyddogol ar gyfer swyddogion y llywodraeth.

Effaith a Chydnabyddiaeth y Cyhoedd

Mewn araith a draddodwyd yn Aberystwyth ym mis Mai 2019, fe wnaeth Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar y pryd, gydnabod yn gyhoeddus gyfraniad Lewis, Royles ac Edwards i’r gwaith o ddatblygu strategaeth Cymraeg 2050.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Cymdeithas