Y Kindertransport: Hanes yn Llywio’r Dyfodol

Ymchwilydd
Dr Andrea Hammel

Trosolwg

Mae digwyddiad hanesyddol y Kindertransport 1938-1939 i’r DU wedi derbyn sylw cynyddol gan y cyhoedd dros y blynyddoedd. Mae ymchwil Dr Andrea Hammel yn cywiro’r mythau yn ymwneud â’r Kindertransport, a’r naratifau clodforus gorsyml sy’n cael eu defnyddio’n aml gan wleidyddion ac yn y cyfryngau. Mae cynnig cofnod hanesyddol gywir o gymhlethdod y Kindertransport drwy ystyried meysydd lle mae gwaith ymchwil yn brin, megis yr amrywiol fathau o drawma a brofwyd gan y plant a oedd yn ffoi a’r dulliau o’u lliniaru, yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r cyhoedd o blant sydd wedi gorfod ffoi yn y gorffennol, ac mae hyn yn ei dro, yn caniatáu cysylltiadau gwybodus gyda sefyllfa plant sy’n ffoaduriaid yn y DU heddiw. Mae hefyd yn galluogi llunwyr polisïau i ddysgu ac annog strategaethau a seilwaith ar gyfer gwydnwch.

Yr Ymchwil

Pan ddaeth adroddiadau am y nifer cynyddol o bobl a oedd yn ceisio lloches yn Ewrop i sylw’r cyhoedd yn y DU yn 2015, cyfeiriwyd yn aml at y Kindertransport fel enghraifft ddisglair o agwedd ddyngarol y DU at bobl a oedd yn ffoi rhag erledigaeth yn y gorffennol. Mae ymchwil Dr Hammel yn herio’r darlun hwn. Yn ei gwaith, mae’n trafod y trawma a ddioddefwyd gan blant y Kindertransport ac yn beirniadu natur orglodforus naratifau yn y gorffennol. Yn fwy penodol, mae’n archwilio: 

  • Sut mai dim ond cefnogaeth rannol i’r Kindertransport a gafwyd gan lywodraeth Prydain; unigolion preifat ac elusennau a gyfrannodd y rhan fwyaf o’r cymorth ariannol ac ymarferol.
  • Sut nad oedd yn ffenomen Lloegr yn unig. Ymgartrefodd plant y Kindertransport yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon, a hynny yn ei dro wedi dylanwadu ar eu hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn.
  • Sut mae prinder ymchwil i deuluoedd biolegol y plant wedi cyfrannu at wyrdroi agweddau tuag at y Kindertransport.
  • Sut y cafodd erledigaeth cyn ac ar ôl mudo, gwahanu plant oddi wrth rieni a pherthnasau eraill, lleoliadau maethu heb eu paratoi’n ddigonol, gwahaniaethu (a cham-drin mewn rhai achosion), effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol y plant a oedd yn ffoaduriaid. Cafodd addasu, ymdopi a gwydnwch eu meithrin drwy annog perthnasoedd gyda ffoaduriaid eraill, ymdeimlad o berthyn a phwrpas yn y DU, a thrwy alluogi’r plant i greu cysylltiadau a sôn am eu bywydau cyn ac ar ôl mudo.

Mae cynnig cofnod hanesyddol gywir o gymhlethdod y Kindertransport drwy ystyried meysydd lle mae gwaith ymchwil yn brin, megis yr amrywiol fathau o drawma a brofwyd gan y plant a oedd yn ffoi a’r dulliau o’u lliniaru, yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r cyhoedd o blant sydd wedi gorfod ffoi yn y gorffennol, ac mae hyn yn ei dro yn caniatáu cysylltiadau gwybodus gyda sefyllfa plant sy’n ffoaduriaid yn y DU heddiw.

Yr Effaith

Llywio Dealltwriaeth y Cyhoedd

Drwy drefnu sgyrsiau cyhoeddus a chyfrannu at arddangosfeydd, mae Dr Hammel wedi gwella dealltwriaeth y cyhoedd o agweddau ar hanes y Kindertransport a gafodd eu hanwybyddu yn y gorffennol. Bu’n gynghorydd academaidd arweiniol i arddangosfa deithiol awyr agored, a ddechreuodd ym Merlin ym mis Awst 2019 cyn symud ymlaen i Rotenburg a Guldental, a bu hefyd yn gynghorydd ar arddangosfa debyg yn Llundain. Mae adborth o’r digwyddiadau’n tystio i effaith yr arddangosfa ar ddealltwriaeth y cyhoedd o hanes y Kindertransport.

Gwahoddwyd Dr Hammel hefyd i siarad mewn digwyddiad After Hours yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain gyda’r Arglwydd Alf Dubs, Syr Erich Reich a Barbara Winton. Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar naratifau’r Kindertransport a anwybyddwyd cyn hynny, ac yn benodol ar hanes y rhieni. Mae recordiad o’r digwyddiad ar gael o hyd i’w wylio ar wefan yr Amgueddfa.

Ysgogi a Llywio Trafodaeth Gyhoeddus

Mae arwyddocâd a chyrhaeddiad ymchwil Dr Hammel hefyd i’w gweld yn y ffordd y mae’n ymgysylltu â thrafodaethau polisi allweddol, ac wrth ddarparu cyd-destun hanesyddol i heriau cyfoes ar gyfer gweision sifil a chynrychiolwyr cyrff anllywodraethol.

Gyda chyllid gan Ganolfan Gymorth ACE yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, cyhoeddodd Dr Hammel adroddiad ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a phlant a oedd yn ffoaduriaid yn y 1930au. Roedd yr adroddiad yn trafod gwersi’r 1930au i bolisi plant sy’n ffoaduriaid heddiw ac fe’i lansiwyd yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 2020 i gynulleidfa rithwir yn cynnwys cynghorwyr polisi iechyd, gweision sifil, Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a chynrychiolwyr cyrff anllywodraethol. Fe’i disgrifiwyd fel enghraifft bwysig o sut y mae ymchwil hanesyddol yn gallu llywio polisi ac ymarfer. Ym mis Mehefin 2020, cyflwynwyd yr adroddiad i Dasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid.

Yn ogystal, trefnodd Dr Hammel ddigwyddiad bwrdd crwn allweddol ar nawdd cymunedol yng Nghymru gyda Thîm Cymru’r Swyddfa Gartref ym mis Rhagfyr 2017. Hwn oedd y gweithdy cyntaf o’i fath ar y pwnc.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Cymdeithas