Cefnogi Dioddefwyr-Oroeswyr Trais a Cham-Drin Domestig yn Ddiweddarach Mewn Bywyd
Ymchwilwyr
Sarah Wydall
Rebecca Zerk
Elize Freeman
Yr Athro Alan Clarke
Yr Athro John Williams
Trosolwg
Mae ymchwil a gynhyrchwyd gan dîm Dewis Choice, prosiect dan adain Prifysgol Aberystwyth, yn herio ymatebion blaenorol i Drais a Cham-drin Domestig, a oedd yn tybio bod trais ar sail rhywedd yn digwydd i fenywod dan 45 oed yn unig. Roedd menter Dewis Choice yn gwella mynediad at gyfiawnder a lles i ddioddefwyr-oroeswyr trais a cham-drin domestig hŷn ledled Cymru, drwy gyflwyno gwasanaeth cyfiawnder a llesiant unigryw wedi’i gynhyrchu ar y cyd, gan ddiogelu dioddefwyr-oroeswyr hŷn; mae hefyd wedi llywio darpariaeth a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol i ddioddefwyr-oroeswyr ledled y DU, ac wedi llywio canllawiau ac ymgyrchoedd cenedlaethol yng Nghymru ar ddiogelu ac amddiffyn pobl hŷn.
Yr Her
Mae trais a cham-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd yn cael ei gwmpasu gan y term cyffredinol ‘cam-drin pobl hŷn’ sy’n arwain at ymyleiddio dioddefwyr-oroeswyr hŷn. Mae ymchwil Dewis Choice yn dangos bod y drafodaeth yn y cyd-destun hwn yn gallu bod yn oedraniaethol ac yn rhywiaethol, gan gyfrannu at ymatebion gwahaniaethol gan weithwyr proffesiynol.
Mae’n amlygu pwysigrwydd fframio niwed sylweddol fel trais a cham-drin domestig, yn hytrach na cham-drin pobl hŷn, er mwyn sicrhau cydraddoldeb cyfle, mynediad at gyfiawnder a gwell ansawdd bywyd i bobl sy’n 60 oed a hŷn.
Yr Ateb
Dewis Choice, prosiect arloesol dan adain Prifysgol Aberystwyth, yw’r gwasanaeth penodol cyntaf yn y DU ar gyfer pobl hŷn sydd wedi profi trais a cham-drin domestig. Mae’r gwasanaeth yn darparu dewis gwybodus dan arweiniad cleientiaid yn ystod pob cam o’r daith i geisio cymorth a chyfiawnder, yn ystod digwyddiadau argyfwng, wrth gynllunio diogelwch ac yn ystod adferiad.
Mae menter Dewis Choice wedi cynhyrchu ymyrraeth ar lawr gwlad sydd wedi’i greu’n benodol gan y gymuned er mwyn cefnogi dioddefwyr hŷn sydd wedi goroesi trais a cham-drin domestig, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus am gyfiawnder sifil, troseddol ac adferol, ac er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu trin yn wahanol ar sail oedran, rhywedd, rhywioldeb neu anabledd. Y gwaith ymchwil yw’r cyntaf o’i fath hefyd i gynnal astudiaeth hydredol ragolygol sy’n edrych ar y broses o wneud penderfyniadau yng nghyd-destun camdrin domestig a thrais yn ddiweddarach mewn bywyd.
"Mae [Dewis Choice] yn newid y byd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol… Rwy’n gwerthfawrogi’n bersonol yr hyn rydych chi’n ei wneud i drawsnewid bywydau pobl hŷn a dyw hi ddim yn ormodiaith dweud eich bod yn achub bywydau hefyd."
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Mis Chwefror 2020
Yr Effaith
Iechyd a Lles Pobl
Ymarferwyr a Chyflenwi Gwasanaethau Proffesiynol
Polisi Cyhoeddus, y Gyfraith a Gwasanaethau
Cysylltwch â Ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:
Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Cymdeithas