Dylanwadu ar Gyfraith a Pholisi i Amddiffyn a Chefnogi Dioddefwyr Masnachu Pobl

Ymchwilydd
Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Trosolwg

Mae ymchwil yr Athro Piotrowicz wedi cael effaith sylweddol ar gyfraith a pholisi masnachu pobl mewn pedwar maes:

  • Monitro cydymffurfiaeth gwladwriaethau gyda’u rhwymedigaethau dan Gonfensiwn Gwrth-Fasnachu Cyngor Ewrop;
  • Llywio polisi gwladwriaethau;
  • Gwreiddio egwyddor peidio â chosbi pobl sydd wedi’u masnachu mewn
    systemau cyfreithiol cenedlaethol; a
  • Darparu hyfforddiant a chanllawiau i wladwriaethau ar yr ystyriaethau
    cyfreithiol ynghlwm wrth fasnachu pobl.

Arweiniodd hyn at newidiadau mewn cyfreithiau a pholisïau ar fasnachu pobl. Yn ogystal, dyfeisiodd a chyfrannodd at raglenni hyfforddi ar fasnachu pobl i weision sifil, cyrff anllywodraethol a sefydliadau rhyngwladol. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cynrychioli effaith barhaus a sylweddol ar bolisi ac ymarfer.

Yr Ymchwil

Mae ymchwil Piotrowicz yn canolbwyntio ar reoleiddio cyfreithiol ym maes masnachu pobl. Mae’r ymchwil yn egluro’r hawl sydd gan bobl sydd wedi’u masnachu, neu sydd mewn perygl o gael eu masnachu, i warchodaeth gyfreithiol, a rhwymedigaethau elfennau gwladwriaethol i ddarparu’r cyfryw warchodaeth. Mae hefyd yn esbonio dyletswydd gwladwriaethau i beidio â chosbi’r rheiny sydd wedi’u masnachu.

"Mae cyfraniad ac ymrwymiad parhaus [Piotrowicz] yn y maes hwn (caethwasiaeth fodern a masnachu pobl) wedi bod yn hynod werthfawr."

Dirprwy Gyfarwyddwr Caethwasiaeth Fodern Swyddfa a Gartref y DU, Mis Chwefror 2021

Yr Effaith

Monitro Cydymffurfiaeth Gwladwriaethau Gyda'u Rhwymedigaethau Dan Gonfensiwn Gwrth-Fasnachu Cyngor Ewrop

Helpodd Piotrowicz i lunio’r agenda a phenderfynu ar flaenoriaethau Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl (GRETA). Cyfeirir yn fynych at ganllawiau rhyngwladol a pholisïau Ewropeaidd sydd wedi’u llywio gan ymchwil Piotrowicz yn adroddiadau monitro gwledydd GRETA.

Llywio Polisi Gwladwriaethau

Mae gwaith monitro gwledydd Piotrowicz wedi effeithio’n uniongyrchol ar gyfreithiau a pholisïau gwrth-fasnachu gwladwriaethau. Fel aelod o GRETA, gwnaeth Piotrowicz 11 o ymweliadau monitro gwledydd rhwng 2013 a 2020. Rhaid i’r gwledydd dan sylw roi’r argymhellion a fabwysiadwyd ar ôl yr ymweliadau hyn ar waith er mwyn cyflawni eu rhwymedigaethau gwrth-fasnachu. 

Gwreiddio Egwyddor Peidio â Chosbi Pobl Sydd Wedi'u Masnachu Mewn Systemau Cyfreithiol Cenedlaethol

Cyfeiriwyd at adroddiad Piotrowicz ar beidio â chosbi dioddefwyr masnachu i Gydlynydd Arbennig ar gyfer Gwrth-Fasnachu yr OSCE mewn canllawiau i wladwriaethau a gyhoeddwyd gan y Cenhedloedd Unedig (CU), mewn datganiadau polisi gan Rapporteur Arbennig y CU ar Fasnachu Pobl, gan lywodraeth y DU a gan Grŵp Cydlynu Rhyngasiantaethol y CU yn erbyn Masnachu Pobl (ICAT). Mae holl adroddiadau gwledydd GRETA ers 2015 hefyd yn cyfeirio at bolisi OSCE o beidio â chosbi pobl sydd wedi’u masnachu fel arweiniad i wladwriaethau.

Darparu Hyfforddiant a Chanllawiau i Wladwriaethau ar yr Ystyriaethau Cyfreithiol Ynghlwm wrth Fasnachu Pobl

Cyfeiriwyd at ganllawiau masnachu pobl Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), a gafodd eu llywio gan ymchwil Piotrowicz, gan lywodraeth y DU, a gan Grŵp Cydlynu Rhyngasiantaethol y CU yn erbyn Masnachu Pobl (ICAT). Fe’u defnyddiwyd hefyd ym mhecynnau hyfforddi’r UNHCR ar fasnachu pobl. Yn ogystal, creodd Piotrowicz raglenni hyfforddi ym maes cyfraith mudo ar draws Ewrop, a drefnwyd gan Gyngor Ewrop, y Sefydliad Mudo Rhyngwladol (IOM) a’r Undeb Ewropeaidd.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Cymdeithas