Plismona Troseddau Ffermio a Gwledig: Llywio Strategaeth yr Heddlu

Ymchwilwyr
Dr Wyn Morris
Dr Gareth Norris

Trosolwg

Mae ymchwil gan Ysgol Fusnes Aberystwyth wedi dylanwadu’n sylweddol ar adnoddau a phlismona ffermydd, busnesau fferm, cymunedau gwledig ac unigolion yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Roedd diffyg amlygrwydd yr heddlu, diffyg adnoddau yn ogystal â phrinder darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi arwain at ymdeimlad o arwahanrwydd a bregusrwydd yn y cymunedau hyn. Comisiynwyd y gwaith ymchwil gan Heddlu Dyfed-Powys; cafodd argymhellion ynghylch adnoddau a strategaethau eu gweithredu drwy Strategaeth Troseddau Gwledig 2017-2021, gan arwain at newidiadau i brosesau a gwasanaethau. Cafwyd cydnabyddiaeth fod canlyniadau allweddol y prosiect ymchwil wedi cynnwys gwelliannau i ymddiriedaeth, cyfathrebu a’r berthynas rhwng cymunedau a’r heddlu.

Yr Ymchwil

Bu gwaith ymchwil gan Dr Wyn Morris a Dr Gareth Norris yn edrych ar lefel ac effaith troseddau gwledig. Yn 2017, cyflwynodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ymrwymiad polisi allweddol i ddatblygu plismona ar sail tystiolaeth a gweithio gyda chymunedau gwledig i leihau troseddau. Wedi hynny, comisiynwyd Morris a Norris i gwblhau gwaith ymchwil gan Heddlu Dyfed-Powys (HDP).

Cynhaliwyd dau Arolwg Troseddau Cefn Gwlad ar draws ardal HDP. Cyflwynwyd adroddiad terfynol o’r Arolwg Troseddau Gwledig cyntaf i HDP ym mis Rhagfyr 2017. Cafodd argymhellion yr adroddiad eu hymgorffori yn Strategaeth Troseddau Gwledig HDP 2017-2021. Comisiynwyd ac ariannwyd ail Arolwg Troseddau Cefn Gwlad gan HDP a gwblhawyd yng nghanol 2019. Mae HDP yn defnyddio Arolwg ac Adroddiad Troseddau Gwledig 2019 i lywio datblygiad ei Strategaeth Troseddau Gwledig nesaf.

"Fe fuodd fy swyddfa’n gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth yn 2017 ar ein Harolwg Troseddau Gwledig cyntaf, ac yn y pen draw, fe lywiodd hynny Strategaeth Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys. Mae’n bwysig cael asesiad o effeithlonrwydd ein gwaith, ac mae’r un mor bwysig bod corff annibynnol yn cynnal yr asesiad hwnnw."

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Mis Mehefin 2019

Yr Effaith

Llwyddo'r Gwaith o Blismona Troseddau Gwledig

Roedd yr ymchwil yn cynnig datblygu a gweithredu Timau Troseddau Gwledig arbenigol a’r angen am fwy o adnoddau dynol a thechnegol (gan gynnwys technolegau penodol, megis defnyddio Facebook a Twitter). Yn ddiweddarach, ymgorfforwyd y cynigion yn Strategaeth Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed Powys (2017-2021).

Newid Prosesau a Gwasanaethau

Argymhelliad Morris a Norris oedd bod ‘fflagiau’ gwledig yn cael eu gosod ar adroddiadau o droseddau amaethyddol er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ymateb i droseddau gwledig a rhoi gwybod amdanyn nhw. Datblygwyd y fflagiau yn algorithm chwilio gan ddadansoddwyr Heddlu Dyfed Powys er mwyn hwyluso’r gwaith o ganfod patrymau i droseddau, casglu gwybodaeth a gwella prosesau ymateb.

Y Cyhoedd yn Elwa ar Welliannau i'r Gwasanaeth

Roedd y gwaith ymchwil yn argymell defnyddio adnoddau yn fwy effeithiol drwy bennu swyddogion heddlu sy’n deall y cymunedau penodol maen nhw’n eu gwasanaethu. Canlyniad pennu swyddogion penodol i gymunedau penodol oedd bod 70% o ymatebwyr cymunedol yn cytuno bod swyddogion troseddau gwledig pwrpasol wedi cynyddu eu ffydd yn yr heddlu.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Cymdeithas