Gwella Arferion Amddiffyn Sifil Ym Myanmar

Ymchwilydd
Yr Athro Berit Bliesemann de Guevara

Trosolwg

Un o heriau mawr cymorth dyngarol a sicrhau heddwch rhyngwladol yw sut i ddatblygu rhaglenni sy’n sensitif i gyd-destun ac yn seiliedig ar anghenion. Ym Myanmar, hyd yn oed cyn chwyldro milwrol diweddar Chwefror 2021, roedd hyn yn arbennig o amlwg. Roedd diffyg mynediad, ymddiriedaeth ac ymylu lleisiau lleol mewn parthau gwrthdaro yn ei gwneud hi’n anodd iawn i ddeall cyd-destunau ac anghenion lleol. Drwy waith ymchwil cydweithredol, datblygodd yr Athro Berit Bliesemann de Guevara ddull lluniadu addasadwy a hylaw o’r enw DrawingOut, a bu’n archwilio sut y gall helpu i nodi effeithiau beunyddiol trais ar gymunedau a gwella’r ddealltwriaeth o anghenion amddiffyn penodol i gyd-destun. Mabwysiadwyd y dull newydd gan bartner y prosiect, Nonviolent Peaceforce (NP), ac arweiniodd at effeithiau cadarnhaol yn eu gwaith gyda phartneriaid amddiffyn a buddiolwyr.

Yr Ymchwil

Ym Myanmar, mae 8.3 miliwn o bobl yn byw yng nghanol gwrthdaro treisgar a dadleoli. Mae gwybodaeth am brofiadau’r gwrthdaro y cymunedau hyn yn hanfodol i raglenni ar sail angen sefydliadau anllywodraethol rhyngwladol dyngarol (INGO) sy’n cynnig amddiffyniad heb arfau. Hyd yn oed yn ystod cyfnod democrataidd Myanmar rhwng 2011 a 2021, roedd yn anodd cael gafael ar y wybodaeth hon, oherwydd cyfyngiadau mynediad awdurdodau’r wlad, lefelau isel o ymddiriedaeth ar ôl degawdau o unbennaeth filwrol a rhyfel, a deinameg pŵer sydd wedi ymwreiddio mewn cymunedau lleol sy’n gallu ymyleiddio rhai lleisiau lleol. Mae’r chwyldro milwrol ar 1 Chwefror 2021 wedi gwaethygu’r sefyllfa ymhellach.

Yn “Raising Silent Voices”, prosiect a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), aeth yr Athro Bliesemann de Guevara a’i chydweithwyr ati i archwilio sut mae modd i sefydliadau anllywodraethol gael gafael ar wybodaeth leol am gymunedau sy’n cael eu heffeithio gan wrthdaro ym Myanmar er mwyn hyrwyddo amddiffyniad sifil heb arfau.

Gan gydweithio â’r mudiad anllywodraethol rhyngwladol Nonviolent Peaceforce (NP), addasodd y tîm ymchwil y dull lluniadu seiliedig ar drosiadau yn DrawingOut er mwyn galluogi defnyddwyr i nodi profiadau cymunedol yn well mewn ffordd agored a diwylliannol-gymdeithasol ystyrlon.

Yr Effaith

Roedd mabwysiadu’r dull a gynlluniwyd ar sail ymchwil yr Athro Bliesemann de Guevara yn galluogi NP Myanmar i fynd i’r afael â phroblemau mynediad corfforol, ieithyddol a diwylliannol cyfyngedig i gymunedau buddiolwyr mewn modd effeithiol drwy:

Gwella Dealltwriaeth Gwrthdaro ac Arferion Rhaglennu NP

Roedd gweithredu’r dull DrawingOut yn gwella gwybodaeth yr INGO am y gwrthdaro treisgar ym Myanmar drwy ddod o hyd i wybodaeth fanylach, fwy dilys a mwy sensitif yn gyflymach.

Cryfhau Perchnogaeth Leol ar Arferion Amddiffyn

Roedd mabwysiadu’r dull DrawingOut yn cryfhau perchnogaeth leol o’r broses heddwch, yn gwella cynhwysiant a chydraddoldeb, ac yn cysoni gwahaniaethau pŵer yn ymgysylltiadau NP gyda’i bartneriaid ac ymhlith partneriaid. Roedd y dull yn galluogi cyfranogwyr amrywiol i osod yr agenda wrth ymgysylltu gyda NP a gyda’i gilydd, gan roi mwy o rym i leisiau ymylol a chysoni gwahaniaethau pŵer

Gwella Ymddiriedaeth a Chydweithio Rhwng Partneriaid Lleol Amrywiol

Roedd y dull yn gwella ymddiriedaeth a chyfathrebu rhwng partneriaid NP, gan ganiatáu cydweithredu lleol newydd ar gyfer amddiffyn a heddwch. Defnyddiwyd DrawingOut gan NP Myanmar wrth gynnal hyfforddiant a gweithdai gyda phartneriaid o wladwriaethau a rhanbarthau gwahanol o ran daearyddiaeth ac ethnigrwydd, a’r rheiny’n aml yn elyniaethus. Esgorodd hyn ar wella cyfathrebu a chynhwysiant, gan gynnig cyfle i bobl gyfathrebu, myfyrio a thrafod cwestiynau anodd.

Gwella Perthnasoedd ar Gyfer y Dyfodol

Roedd mabwysiadu’r dull gan NP o fudd i aelodau cymunedau dan orthrwm gwrthdaro, gan wella gwaith NP gydag wyth sefydliad partner a thua 170 o luosyddion ymhlith gweithwyr amddiffyn a heddwch, sefydliadau cymdeithas sifil a buddiolwyr.

Er bod chwyldro milwrol 2021 wedi atal y trawsnewidiad democrataidd a’r prosesau heddwch yn y wlad, y gobaith yw y bydd y perthnasoedd a gafodd eu meithrin gan ddefnyddio’r dull dan sylw yn parhau yn ystod y cyfnod newydd hwn o wrthwynebiad sifil ac yn amddiffyn gweithredwyr sifil ym Myanmar o bell.

Fel y nododd Cyfarwyddwr Gwlad NP Myanmar yn 2020 am waith amddiffyn a heddwch eu partneriaid yn Burma yn y dyfodol: 

"Unwaith y cewch chi empathi a dealltwriaeth, mae’n creu sylfaen i’r ffordd y mae pobl yn ymateb yn y dyfodol. Efallai bod y newidiadau’n fach iawn, ond gyda’i gilydd, maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mawr."

Cyfarwyddwr Gwlad NP ym Myanmar, 2020

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Cymdeithas