Ymyrraeth Gynnar i Leihau Troseddau Ieuenctid
Ymchwilydd
Dr Gareth Norris
Trosolwg
Gan weithio ar y cyd â Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal Ceredigion (GCIAC), datblygodd Dr Norris offeryn asesu risg pwrpasol (CYSTEM) a newidiodd y ffordd yr asesir pobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio ar draws pedwar Tîm Troseddau Ieuenctid Dyfed-Powys. Diolch i CYSTEM, cefnogwyd traean o droseddwyr risg isel rhag dod i gysylltiad ffurfiol gyda chyfiawnder troseddol, gan ganiatáu i adnoddau gael eu cyfeirio at unigolion risg uwch a oedd fwyaf tebygol o elwa ar ymyrraeth wedi ei thargedu. Ochr yn ochr â’r effaith ar randdeiliaid lleol unigol, fe wnaeth yr arbenigedd arwain at greu polisi gwybodus i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, yr Heddlu, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a’r Swyddfa Gartref yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Yr Ymchwil
Drwy gydweithrediad wedi’i ariannu gyda GCIAC, cynlluniwyd a defnyddiwyd offeryn asesu risg, CYSTEM, er mwyn mabwysiadu dull pragmatig o gadw pobl ifanc allan o’r system Cyfiawnder Ieuenctid ffurfiol. Mae’r offeryn cyn-sgrinio wedi cael ei ddefnyddio gan GCIAC ers mis Ebrill 2016, ac mae wedi cael ei fabwysiadu i’w ddefnyddio gyda phawb sy’n cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar draws heddlu Dyfed-Powys ers Ebrill 2018. Defnyddiwyd yr offeryn hefyd i ddewis ymgeiswyr ar gyfer prosiectau a ariennir gan y Swyddfa Gartref sy’n targedu risg o gyfranogi mewn Troseddau Cyfundrefnol. Cyrhaeddodd y prosiect y rhestr fer ddwywaith yng ngwobrau Cynghrair Howard ar gyfer Diwygio’r Deddfau Cosbi.
"Mae datblygu Offeryn Sgrinio Ieuenctid Ceredigion (CYSTEM) wedi bod yn ysgogiad pwysig er mwyn newid y broses o asesu a phrosesu pobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth. Mae CYSTEM wedi caniatáu i ni ddefnyddio’r adnoddau i ganolbwyntio ar yr unigolion mwyaf allweddol ac osgoi stigmateiddio’r achosion isel iawn eu risg; mae ffigurau’r ddwy flynedd ddiwethaf yn dangos bod hyn wedi cael effaith ar niferoedd y bobl ifanc sydd wedi ailymuno â’r system."
Pennaeth Cyfiawnder Ieuenctid Ceredigion, 19 Gorffennaf 2019
Cyrhaeddodd y prosiect y rhestr fer ddwywaith yng ngwobrau Cynghrair Howard ar gyfer Diwygio’r Deddfau Cosbi.
Yr Effaith
Cafodd Dull 'Plentyn ei Fabwysiadu a'i Gymhwyso Gyda Phobl Ifanc Ceredigion a Dyfed-Powys
Arbedion Sylweddol o Ran Amser Staff ac Adnoddau Ariannol
Budd i'r Cyhoedd yn Sgil Gostwng Troseddu
Cysylltwch â Ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:
Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Cymdeithas