Datblygu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Ofalgar i Weision Cyhoeddus yng Nghymru

Ymchwilwyr
Yr Athro Mark Whitehead
Yr Athro Rhys Jones
Rachel Lilley
Dr Jessica Pykett
Dr Rachel Howell

Trosolwg

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi datblygu rhaglen hyfforddi MBBI (Deall Ymddygiad a Gwneud Penderfyniadau yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar) sydd wedi llywio arferion y sector cyhoeddus yng Nghymru a sefydliadau eraill yn y DU.  

Yr Ymchwil

Datblygwyd y rhaglen hyfforddi MBBI o waith ymchwil a oedd yn edrych ar y cysylltiadau rhwng arferion oesol myfyrio ymwybyddiaeth ofalgar a mewnwelediadau modern o du’r gwyddorau ymddygiadol. Mabwysiadwyd y rhaglen gan y sector cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015); ac mae sefydliadau eraill ledled y DU hefyd wedi ei defnyddio. Mae’r rhaglen wedi llywio diwygio strategol ym maes hyfforddiant yn y gweithle, ynghyd â newidiadau radical mewn arferion gwaith.

"Mae ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi defnyddio cyfuniad radicalaidd o hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar a mewnwelediadau o ymddygiad i’n helpu i weld sut y gall gweision cyhoeddus ddod yn arweinwyr mwy effeithiol, yn benderfynwyr gwell a chynnig cyngor gwell. Ac rydw i am i’r mewnwelediadau hyn gyfrannu at y math o arweinyddiaeth rydw i am weld yn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru."

Y Gwir Anrh. Mark Drakeford MS, Prif Weinidog Cymru. Cynhadledd Datblygu Ymwybyddiaeth Ofalgar yng Nghymru, 21 Tachwedd 2019

Yr Effaith

Llywio Diwygio Strategol Hyfforddiant Gwasanaethau Proffesiynol yng Ngwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae’r MBBI wedi dod yn elfen graidd o Raglen Newid Mewnol y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru. Drwy’r rhaglen hon, mae’r MBBI wedi’i chyflwyno i oddeutu 200 o weision sifil ac wedi ailgyfeirio mentrau datblygu staff eraill. Mae’r MBBI wedi’i defnyddio i gefnogi ymgyrch ‘Dewch i Drafod Parch’ Ysgrifennydd Parhaol Gwasanaeth Sifil Cymru. Yn ogystal, cyflwynwyd fersiynau wedi’u haddasu o’r rhaglen MBBI i staff Llywodraeth Cymru i’w cefnogi drwy argyfwng Covid-19.

Dylanwadu ar Arferion Gwaith Gweision Sifil

Roedd y rhaglen yn gyfrifol am newid y ffordd roedd rhai uwch weision sifil yn ymwneud ag eraill ac yn eu gwneud yn fwy abl i fynd i’r afael â’r rhwystrau emosiynol i newid ymddygiad sy’n bodoli mewn sefydliadau mawr. Roedd hyn yn cefnogi’n uniongyrchol drefn weithredu’r arferion cydweithredol a thrawsnewidiol sy’n ofynnol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dylanwadu ar Ddatblygu a Chyflwyno Polisîau Cyhoeddus yng Nghyd-Destun Gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Cefnogodd y rhaglen ddatblygiad cydweithredol strategaeth genedlaethol Cymru Iachach yn uniongyrchol. Defnyddiodd Is-adran Dyfodol Tecach Llywodraeth Cymru wersi o’r rhaglen hefyd wrth ddatblygu a chyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn gosod gofyniad deddfwriaethol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i weithio mewn ffyrdd mwy cydweithredol i ganfod atebion i broblemau parhaus. Mae’r Ddeddf yn her sylweddol i arferion gwaith Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r rhaglen MBBI wedi hwyluso gwell arferion gwaith o fewn Gwasanaeth Sifil Cymru, sydd wedi galluogi gwireddu’r Pum Ffordd o Weithio a ragwelwyd yn y Ddeddf

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Cymdeithas