Daearyddwyr yn datblygu adnodd mapio peryglon i helpu i ddiogelu Nepal rhag trychinebau naturiol

 

Mae Nepal yn Ne Asia yn gartref i 30 miliwn o bobl ond mae hefyd yn un o’r gwledydd sy’n wynebu’r risg fwyaf o drychinebau mawr fel daeargrynfeydd, tirlithriadau a llifogydd.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol ar ddatrysiad a fydd yn helpu cynllunwyr i liniaru'r risgiau a achosir gan beryglon naturiol.

Ym mis Chwefror 2025, cafodd adnodd mapio aml-beryglon ei lansio a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer tirwedd gymhleth Nepal.

MiMapper yw’r adnodd ar-lein rhad ac am ddim cyntaf o’i fath i ddwyn ynghyd, mewn un lle ac ar gyfer un wlad, gyfres gynhwysfawr o setiau data cydraniad uchel ac offer dadansoddi gofodol cadarn.

LANSIO MIMAPPER

Ar gael ar blatfform Google Earth Engine (GEE), mae MiMapper yn cynnig integreiddio cyfres gynhwysfawr o setiau data geo-ofodol ar gyfer asesu a delweddu peryglon naturiol, gan gynnwys tirlithriadau, llifogydd a daeargrynfeydd.

Cafodd MiMapper ei ddylunio, ei gynhyrchu a’i ddatblygu gan Cat Price, Dr Morgan Jones, yr Athro Neil Glasser a’r Athro John Reynolds o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd: “Mae daearyddiaeth a hinsawdd unigryw Nepal yn ei gwneud yn arbennig o agored i beryglon naturiol. Mae tir serth yng ngogledd y wlad, platiau tectoneg gweithredol, hinsawdd monsŵn a llynnoedd rhewlifol i gyd yn cyfuno i gynyddu'r risg i gymunedau ac isadeiledd o beryglon naturiol megis daeargrynfeydd, llifogydd, tirlithriadau a llifogydd llynnoedd rhewlifol, neu GLOFs fel maen nhw’n aml yn cael eu galw.

“Bydd yr adnodd newydd hwn yn galluogi cynllunwyr i wneud asesiad cychwynnol o sut y gallai peryglon lluosog ryngweithio mewn un lleoliad a’n gobaith yw y bydd yn dyfnhau gwybodaeth rhanddeiliaid o’r ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl a’u galluogi i gymryd camau lliniaru. Byddai hyn yn cefnogi parodrwydd effeithiol o ran trychinebau ac ymdrechion i adeiladu gwytnwch mewn gwlad sydd mor agored i drychinebau naturiol."

Cyn cwblhau’r adnodd mapio’n derfynol, fe deithiodd gwyddonwyr o Aberystwyth i  Nepal ym mis Tachwedd 2024 i gynnal gweithdy lle cafodd y feddalwedd ei phrofi gyda swyddogion cynllunio lleol, swyddogion rheoli trychinebau ac ymchwilwyr.

Dywedodd Dr Morgan Jones, darlithydd yn y Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol yn Aberystwyth: “Mae MiMapper wedi’i ddylunio gyda defnyddwyr technegol ac annhechnegol mewn golwg a defnyddiwyd adborth o’n gweithdai yn Nepal i brofi a mireinio ei ddefnyddioldeb. Dyma’r tro cyntaf i offeryn mapio aml-beryglon gael ei ddatblygu ar gyfer y wlad gyfan ac mae’n cynnig mynediad hwylus i ddata am beryglon a broseswyd ymlaen llaw yn ogystal ag adnoddau gweledol i ddadansoddi risgiau amgylcheddol ar gyfer cymunedau a seilwaith.

“Gall cynllunwyr trefol, swyddogion rheoli trychinebau ac ymchwilwyr ddefnyddio’r feddalwedd, a bydd yn rhoi gwybodaeth gychwynnol iddynt ar gyfer lliniaru neu atal effeithiau peryglon yn Nepal, a thrwy hynny helpu i ddiogelu’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.”

Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Medr bellach), gyda chefnogaeth gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg y DU, fel rhan o raglen i gefnogi gweithgareddau cymorth datblygu swyddogol o fewn prifysgolion Cymru.

Mae MiMapper ar gael am ddim ar Google Earth Engine a gellir anfon unrhyw ymholiadau at mimapper@aber.ac.uk.

Dolenni defnyddiol

MiMapper

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear 

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk