Amddiffyn gwlyptiroedd gwerthfawr y byd
Mae gwlyptiroedd y byd yn adnodd hanfodol i bobl, anifeiliaid a phlanhigion ond mae gwyddonwyr yn poeni bod yn diflannu ar raddfa ddigynsail.
Awgryma rai amcangyfrifon fod rhwng 50 a 90% o'r holl wlyptiroedd naill ai wedi'u difrodi'n barhaol neu wedi diflannu'n llwyr dros yr ychydig ganrifoedd diwethaf.
Mae'n fater sydd wedi sbarduno ymchwil yr Athro Stephen Tooth ers 25 mlynedd a mwy. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar wlyptiroedd mewn tiroedd sych – term sy'n cyfeirio at ranbarthau o’r byd sy’n or-sych, yn sych, yn lled-sych neu’n sych-islaith. Mae e'n awyddus i wneud llunwyr polisi a phenderfynwyr yn fwy ymwybodol o’r rôl bwysig y mae gwlyptiroedd yn ei chwarae wrth amddiffyn ecosystemau hanfodol ein planed.
Yn ogystal â darparu dŵr yfed, bwyd a chynefinoedd bioamrywiaeth, mae gwlyptiroedd hefyd yn amsugnwyr carbon pwysig, gyda’u gwaddodion a'u priddoedd yn storio dwy i dair gwaith yn fwy o garbon na holl goedwigoedd y byd. Os caiff gwlyptiroedd eu difrodi neu eu dinistrio, caiff llawer o'r carbon hwn ei ryddhau i'r atmosffer fel carbon deuocsid, gan ychwanegu at gyfanswm cynyddol nwyon tŷ gwydr, prif ysgogydd newid hinsawdd.
Llifogydd sydyn
Canlyniad pellach a welir yn sgil difrodi neu golli gwlyptiroedd yw crebachu ar eu rôl mewn helpu i liniaru llifogydd difrifol. Fel y mae'r Athro Tooth yn egluro:
"Rydyn ni’n gweld nifer cynyddol o lifogydd sydyn mewn lleoliadau ledled y byd, ac yn ddi-os mae colli gwlyptiroedd ar draws ardaloedd tir sych ac ardaloedd nad ydynt yn dir sych wedi bod yn ffactor cyfrannol.
"Mae gwlyptiroedd yn helpu i liniaru llifogydd sydyn. Maen nhw’n ymddwyn fel sbwng, gan arafu dŵr llifogydd a lleihau'r llif cyflym i lawr yr afon. Felly, os ydych chi'n draenio gwlyptiroedd ac yn concritio dros neu'n adeiladu tai ar y tir, rydych chi'n mynd i gynyddu'r broblem llifogydd i lawr yr afon."
Mae'r Athro Tooth a chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Sheffield Hallam, a Phrifysgol Mutah yn Jordan wedi cynhyrchu llyfryn ar lifogydd sydyn.
Dan y teitl ‘Ten points everyone should know about flash floods’, mae'r llyfryn yn egluro’r wyddoniaeth y tu ôl i lifogydd sydyn ac yn amlinellu, mewn camau hawdd eu deall, sut y gellir eu rheoli'n well.
"Ein gobaith yw y bydd y cyngor rydyn ni’n ei gynnig yn y llyfryn hwn o fudd i lunwyr polisi ac eraill sy'n gweithio ym maes rheoli amgylcheddol. Gellir ei ddefnyddio hefyd i addysgu amrywiaeth o gynulleidfaoedd, o blentyn ysgol i berson lleyg â diddordeb yn y maes, am yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu a'r camau y gellir eu cymryd."
Gellir lawrlwytho'r llyfryn am ddim isod neu o wefannau Rhwydwaith Ymchwil Gwlyptiroedd mewn Tiroedd Sych a Chymdeithas Geomorffoleg Prydain.
Cydweithio byd-eang
Mae ymchwil yr Athro Tooth wedi mynd ag ef i wahanol rannau o'r byd i weld yn uniongyrchol y pwysau difrifol sydd ar systemau geomorffolegol, hydrolegol ac ecolegol naturiol llawer o wlyptiroedd mewn tiroedd sych. Mae ei ymchwil blaenorol mewn lleoedd fel Awstralia a sawl un o wledydd deheudir Affrica wedi'i ategu yn y blynyddoedd diwethaf gan fentrau ymchwil newydd yn Sbaen, India a Phatagonia Ariannin. Mae'r ymchwil hwn yn cael ei wneud gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a phrifysgolion a sefydliadau ymchwil amrywiol ledled y byd.
Parc Cenedlaethol Doñana yn Sbaen
Anialwch Thar yn India
Patagonia Yr Ariannin
Cadwraeth yn y dyfodol
Trwy ei ymchwil, mae'r Athro Tooth yn codi proffil y gwlyptiroedd amrywiol mewn tiroedd sych ledled y byd, gan gynnwys eu rôl mewn amrywiaeth o gylchoedd hydrolegol, daearegol ac ecolegol hanfodol.
Ei nod yn y pendraw yw cyfrannu at y corff gwybodaeth byd-eang sy'n cael ei gasglu ac i dynnu sylw pobl a sefydliadau sy'n gyfrifol am amddiffyn yr amgylcheddau bregus hyn.
"Mae angen gwneud mwy i roi amddiffyniadau ar waith ac i sicrhau bod y wyddoniaeth rydyn ni’n ei wneud yn cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau a all effeithio ar ddyfodol y gwlyptiroedd hyn sydd mor hanfodol bwysig," meddai.
"Os ydym yn colli hyd yn oed mwy o wlyptiroedd, yna rydyn ni’n cyfrannu ymhellach at newidiadau dwys i systemau'r Ddaear a sut mae'n gweithredu, felly mae angen i ni amddiffyn cymaint ag y gallwn cyn ei bod hi'n rhy hwyr."
Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at: