Diogelu adnoddau byd natur

 

“Cynorthwyo llywodraethau a llunwyr polisi i wneud penderfyniadau gwell, mwy cynaliadwy sy’n amddiffyn natur a phobl y blaned hon fel ei gilydd”

Mae byd natur o’n cwmpas ym mhobman ond ar adeg pan mae cynefinoedd yn diflannu a hyd at filiwn o rywogaethau mewn peryg o ddiflannu, ydyn ni bob amser yn gwerthfawrogi’r ystod lawn o fuddion yr ydym ni fel pobl yn eu cael o fyd natur? Ac a oes gormod o benderfyniadau am adnoddau naturiol ein planed yn cael eu gwneud am resymau elw tymor byr a thwf economaidd? Dyma’r cwestiynau sydd wrth wraidd ymchwil Michael Christie yn rhinwedd ei swydd fel Athro Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Ym mis Hydref 2024, mae’r Athro Christie ymhlith yr arbenigwyr rhyngwladol sydd wedi’u gwahodd i fynychu COP16 yng Ngholombia. Mae unfed sesiwn ar bymtheg Cynhadledd y Pleidiau i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol yn dwyn ynghyd llywodraethau, arweinwyr brodorol, cynrychiolwyr diwydiant a chymdeithas sifil i drafod yr argyfwng amgylcheddol digynsail sy’n ein hwynebu ac i wneud penderfyniadau a fydd yn llywio dyfodol ein planed.  

Gyda chynrychiolwyr o dros 190 o wledydd yn bresennol, bydd y digwyddiad yn trafod yn ffurfiol argymhellion yr adroddiad dylanwadol yn asesu gwerthoedd a gwerthuso natur, a gomisiynwyd gan Lwyfan Polisi Gwyddoniaeth-Rynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau’r IPBES ac a gyd-gadeiriwyd. gan yr Athro Christie.  

Daeth yr adroddiad ag asesiadau arbenigol gan 82 o wyddonwyr o 47 o wledydd ynghyd i ystyried sut mae natur yn cael ei werthuso mewn penderfyniadau gwleidyddol ac economaidd. Canfyddiad allweddol oedd bod penderfyniadau o’r fath yn tueddu i roi mwy o bwysau ar fewnbwn byd natur i weithgareddau masnachol, ond y byddai modd cyrraedd at ganlyniadau mwy cynaliadwy petai manteision ehangach byd natur yn cael eu hystyried. Mae argymhellion yr adroddiad eisoes wedi’u cymeradwyo gan 139 o aelod-wladwriaethau’r IPBES, gan roi sylfaen dystiolaeth gadarn i lunwyr polisi yn ogystal ag offer a dulliau pendant i lywio’u hymateb i’r argyfwng ecolegol. 

Gwneud gwahaniaeth

Wrth siarad cyn COP16, dywedodd yr Athro Christie: "Mae COP16 yn ddigwyddiad hynod o bwysig, lle gaiff penderfyniadau mawr sy'n effeithio ar ddyfodol ein planed eu gwneud. Bydd cynrychiolwyr yn trafod argymhellion Asesiad Gwerthoedd yr IPBES ac yn eu hymgorffori fel penderfyniad ffurfiol gan y Confensiwn. Byddai hyn yn gosod rhwymedigaeth ffurfiol ar lywodraethau llofnodol i ystyried gwerthoedd amrywiol bioamrywiaeth ar draws ystod eang o benderfyniadau polisi, ar lefel rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. 

“Pan rydyn ni'n siarad am werthoedd bioamrywiaeth a natur, rydyn ni'n siarad am y buddiannau rydyn ni fel pobl yn eu cael o'r byd naturiol. Er enghraifft, rydyn ni'n cael pren o goed i adeiladu neu gynhesu ein cartrefi, dŵr ffres i'w yfed, pysgod i'w fwyta o afonydd, llynnoedd a moroedd. Mae natur hefyd yn cefnogi ein hunaniaethau diwylliannol a’n lles corfforol a meddyliol mewn amryw ffyrdd. Ond pan ddaw'n fater o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar yr adnoddau naturiol hyn, mae llywodraethau, busnesau a defnyddwyr yn aml yn aml yn gwneud hynny ar sail set gul o werthoedd y farchnad, elw tymor byr a thwf economaidd. Mae penderfyniadau o’r fath yn cyfrannu at yr argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd byd-eang rydym yn eu hwynebu heddiw. 

“Yn fy ymchwil, rwy’n cydweithio ag eraill i edrych ar sut mae modd cydbwyso gofynion cynhyrchu, ein defnydd o gynhyrchion a datblygiad economaidd â’r angen i ddiogelu systemau ecolegol bregus. Ein nod yw tynnu sylw at yr holl ystod o fuddion a gawn o fyd natur - nid yn unig y buddion economaidd ond hefyd y buddion diwylliannol, ysbrydol a llesiant. Gall ein hargymhellion helpu llywodraethau a llunwyr polisi i wneud penderfyniadau gwell, mwy cynaliadwy sy’n amddiffyn natur a phobl y blaned hon.” 

Cydweithio ac Ymgysylltu

Mae’r Athro Christie yn cydweithio’n rheolaidd â rhwydwaith byd-eang o academyddion. Mae’n rhannu ei arbenigedd a’i wybodaeth trwy bapurau a chyhoeddiadau yn ogystal â chael ei wahodd i siarad mewn cynadleddau a chynulliadau rhyngwladol mawr fel Confensiwn COP16 ar Amrywiaeth Fiolegol.

Mae’r Athro Christie yn Brif Ymchwilydd ar brosiect ymchwil ar y cyd rhwng prifysgolion Aberystwyth ac East Anglia sy’n canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o wreiddio gwerthoedd lluosog natur yn y broses o wneud penderfyniadau. Cyngor ymchwil NERC sy’n ariannu’r prosiect sy’n para tair blynedd o 2022 tan fis Awst 2025. Mae hefyd yn rhan o dîm rhyngwladol, rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr sy'n archwilio ffyrdd o newid sut mae bodau dynol yn ymwneud â rhywogaethau eraill i gynhyrchu a chynnal canlyniadau ecolegol a chymdeithasol gyfiawn. Ariennir prosiect MUST gan Gyngor Ymchwil Strategol y Ffindir.

Yn ogystal â chyd-gadeirio adroddiad Asesiad Gwerthoedd Natur yn 2022, roedd yr Athro Christie yn awdur arweiniol ar adroddiad yr IPBES ar asesu bioamrywiaeth ac ecosystemau Ewrop a Chanolbarth Asia yn 2018. Nododd yr astudiaeth amrywiaeth o opsiynau llywodraethu, polisïau ac arferion rheoli y gellid eu defnyddio i atal tranc bioamrywiaeth a diogelu cyfraniadau natur i bobl yn y rhanbarth hwnnw. I gydnabod ei waith, dyfarnwyd Gwobr Prifysgol Aberystwyth am Effaith Ymchwil Eithriadol i’r Athro Christie yn 2023. 

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk