Cefnogi Anghenion Seicogymdeithasol Cleifion Gofal Lliniarol a Chleifion Canser Gyda Theleiechyd

Ymchwilwyr
Dr Rachel Rahman
Dr Joseph Keenan
Dr Martine Robson

Trosolwg

Llywiodd y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig (GRYIG) ym Mhrifysgol Aberystwyth ddatblygiadgwasanaeth teleiechyd newydd yn 2014 sy’n rhoi cymorth i gleifion gofal lliniarol yng nghanolbarth-gorllewin Cymru. Mae hyn yn arwyddocaol i’r rhanbarth, oherwydd mae’n cefnogi ymateb y Bwrdd Iechyd i’r argymhellion a nodwyd yn Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru (Longley et al., 2014). Caiff yr effaith ei hamlygu ar ffurf newidiadau i strategaeth gofal lliniarol y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau bod gwasanaethau teleiechyd yn cael eu cyflwyno’n barhaus; hanesion personol cleifion sy’n dangos hwb i'w lles a’u gweithredu beunyddiol; a thystiolaeth o wella effeithlonrwydd a mynediad at wasanaethau i staff a chleifion.

Yr Ymchwil

Mae’r Ganolfan Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig (GRYIG), o dan arweiniad Dr Rachel Rahman, wedi archwilio’r defnydd o delefeddygaeth er mwyn ei gwneud yn haws i gleifion cefn gwlad fanteisio ar wasanaethau iechyd. Drwy gydweithio â Thîm Gofal Lliniarol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sefydlwyd gwasanaeth cymorth seicogymdeithasol teleiechyd ar gyfer cleifion gofal lliniarol mewn ardaloedd gwledig. Cyn pandemig COVID-19, nid oedd teleiechyd yn rhan o ddarpariaeth arferol y gwasanaeth. Dyma un o’r gwasanaethau cyntaf ym Mhrydain i ddarparu cymorth yn y cartref i gleifion gofal lliniarol yn y modd hwn.

"Yn ôl adborth gan gleifion, mae peidio â gorfod gwneud y daith wedi eu grymuso, am fod modd iddyn nhw gael gafael ar y cymorth a’r gwasanaeth o gysur eu cartref."

Gudrun Jones, Therapydd Celf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Yr Effaith

Llywio Polisi, Strategaeth a Rhoi Teleiechyd ar Waith i Gynnig Gofal Lliniarol

Diolch i ddylanwad ymchwil Prifysgol Aberystwyth, cafodd teleiechyd ei gynnwys yng ngwasanaeth gofal lliniarol y Bwrdd Iechyd. Cafodd cynnig, a gyflwynwyd gan reolwr teleiechyd y bwrdd iechyd, ei dderbyn gan grŵp strategaeth gofal lliniarol Hywel Dda, a gytunodd i gynnwys teleiechyd fel rhan o strategaeth gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd.

Gwella Mynediad Cleifion at Gymorth Seicogymdeithasol a Chefnogi Mynediad at Ofal yn Nes at y Cartref

Roedd y gwasanaeth teleiechyd yn darparu cymorth seicogymdeithasol hanfodol i gleifion gofal lliniarol a chanser. Maes o law, roedd y gwasanaeth yn cynnig mynediad cyfleus i staff amlddisgyblaethol, gan gynnwys gwasanaethau dan arweiniad ymgynghorwyr, nyrsio, a therapi galwedigaethol. Dywedodd y cleifion fod y gwasanaeth wedi ei gwneud hi’n haws iddyn nhw reoli eu bywydau bob dydd, addasu i ddiagnosis angheuol ac roedd hefyd yn golygu nad oedden nhw’n methu apwyntiadau.

Manteisiol i Arferion Gweithio Staff Gofal Iechyd

Roedd staff y bwrdd iechyd a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth teleiechyd yn arbed amser teithio, gan gynyddu effeithlonrwydd eu gwaith clinigol. Roedd y gwasanaeth hefyd yn ei gwneud hi’n haws i staff gael gafael ar gleifion, a fyddai fel arall yn anodd cael gafael arnyn nhw oherwydd rhwystrau daearyddol neu seicolegol.

"Arbedwyd amser teithio i staff y bwrdd iechyd a ddefnyddiodd y gwasanaeth teleiechyd, â hynny yn ei dro yn cynyddu effeithlonrwydd eu gwaith clinigol. Roedd y gwasanaeth hefyd wedi gwella mynediad staff at gleifion, a fyddai fel arall yn anodd eu cyrraedd naill ai oherwydd rhwystrau daearyddol neu seicolegol"

Gudrun Jones, Therapydd Celf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Iechyd