Argyfwng Bioamrywiaeth: Ymgorffori Gwerth Llawn Natur

Ymchwilydd
Yr Athro Mike Christie

Trosolwg

Mae bioamrywiaeth yn dirywio ar lefel fyd-eang, ac mae hynny yn ei dro yn cael effaith niweidiol ar economïau ac ar les pobl. Er mwyn ymateb i’r argyfwng ecolegol hwn, gofynnodd llunwyr polisi am dystiolaeth gadarn o’r statws, tueddiadau a bygythiadau i fioamrywiaeth a’r effeithiau cysylltiedig ar wasanaethau ecosystem. Yn benodol, maen nhw wedi gofyn i’r dystiolaeth hon gael ei mynegi gan ddefnyddio dangosyddion economaidd a diwylliannol-gymdeithasol.

Darparodd yr Athro Mike Christie o Ysgol Fusnes Aberystwyth waith ymchwil ar gyfer asesiad ‘Ewropeaidd a Chanolbarth Asia’ (ECA) y Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth Rynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem (IPBES), sy’n darparu fframwaith i ymgorffori gwerthoedd economaidd a diwylliannol-gymdeithasol Natur a’i gwasanaethau mewn polisïau cyhoeddus.

Mae’r asesiad ECA yn darparu sylfaen dystiolaeth gadarn i lunwyr polisi ar statws a gwerth natur, er mwyn llywio eu hymateb i’r argyfwng ecolegol. Cymeradwywyd yr asesiad gan 130 o lywodraethau (aelod-lofnodwyr Cyfarfod Llawn IPBES), a’i gynnwys ym mhrosesau’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) y G7; mae hefyd yn rhan o ganllawiau staff yr UE ar integreiddio ecosystemau a’u gwasanaethau mewn polisïau lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd.

Yr Ymchwil

Asesiad ECA IPBES yw’r astudiaeth fwyaf cynhwysol hyd yn hyn o statws a thueddiadau ym maes bioamrywiaeth, ac o wasanaethau ecosystem yn ardal yr Undeb Ewropeaidd a Chanolbarth Asia.

Mae ymchwil Christie ar gyfer asesiad ECA IPBES yn darparu data am werthoedd economaidd a diwylliannolgymdeithasol Natur a’i gwasanaethau ecosystem, ynghyd â fframwaith i ymgorffori’r gwerthoedd hyn mewn polisïau cyhoeddus.

"Mae asesiadau rhanbarthol IPBES wedi dechrau cael effaith go iawn ar bolisi, gan eu bod eisoes wedi’u defnyddio ym mhrosesau ffurfiol y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol... a bod disgwyl iddyn nhw helpu i lywio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu fframwaith a thargedau bioamrywiaeth byd-eang ar ôl 2020."

Ygrifennydd Gweithredol IPBES, Mis Medi 2018

Yr Effaith

Ar Benderfyniadau'r Confesiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn Cynnwys:

  • Penderfyniadau ac argymhellion drafft Is-gorff Cyngor Gwyddonol, Technegol a Thechnolegol (SBSTTA) y CBD.
  • Targedau bioamrywiaeth CBD Aichi
  • Fframwaith bioamrywiaeth byd-eang CBD ar ôl 2020
  • Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Ar Siarter Bioamrywiaeth Metz

Cafodd asesiadau ECA IPBES eu cydnabod yn Siarter Bioamrywiaeth Metz, a gafodd ei ddatblygu ac y cytunwyd arni mewn cyfarfod rhwng gwledydd y G7. Mae’n ymrwymo’r G7 a gwledydd eraill i ymateb i golledion bioamrywiaeth sy’n cydnabod gwerthoedd economaidd ac aneconomaidd bioamrywiaeth fel y nodir yn yr adroddiad ECA.

Ar Ganllawiau Staff yr UE ar Integreiddio Ecosystemau a'u Gwasanaethau Mewn Polisîau Lliniaru ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd

Mae’r gwerthoedd economaidd ar gyfer gwasanaethau rheoleiddio’r hinsawdd, a nodwyd yn asesiad ECA IPBES, wedi cael eu hintegreiddio gan y Comisiwn Ewropeaidd yn y ddogfen waith i staff, ‘EU guidance on integrating ecosystems and their services into decision-making’.

Ar Asesiadau IPBES Ychwanegol

Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddwyd mai’r Athro Christie bellach yw Cadeirydd Asesiad Gwerthoedd IPBES.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Amgylchedd