Gwarchod a Diogelu Coedwigoedd Mangrof y Byd

Ymchwilwyr
Dr Pete Bunting 
Yr Athro Richard Lucas

Trosolwg

Mae coedwigoedd mangrof ffyniannus yn allweddol i iechyd natur a gweithredu effeithiol ar yr hinsawdd. Mae tiroedd mangrof yn ecosystem hollbwysig, sydd dan bwysau sylweddol, ac yn darparu llu o wasanaethau ecosystem sy’n werth $25 triliwn y flwyddyn.

Bu Grŵp Ymchwil Arsylwi ar y Ddaear a Dynameg Ecosystemau Prifysgol Aberystwyth yn arwain y datblygiad gwyddonol a’r gwaith technegol o fapio a monitro coedwigoedd mangrof dros y byd drwy brosiect Global Mangrove Watch (GMW).

Mae setiau data GMW yn darparu meincnod o faint mangrofau ar gyfer Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP), gan fonitro’r cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at Nod Datblygu Cynaliadwy 6.6.1, sy’n ceisio atal dirywiad a dinistriad ecosystemau dyfrol. Mae mapiau maint tiroedd mangrof GMW hefyd wedi eu defnyddio gan gyrff anllywodraethol a llywodraethau i fonitro maint tiroedd mangrof sydd, yn ei dro, yn llywio gwaith adfer a diogelu y tiroedd hyn.

Yr Ymchwil

Ers 2014, mae Grŵp Ymchwil Arsylwi’r Ddaear a Dynameg Ecosystemau Prifysgol Aberystwyth wedi canolbwyntio ar feintioli, deall a mynd i’r afael â’r newid amgylcheddol yn lleol ac yn fyd-eang drwy Arsylwi ar y Ddaear.

Arweiniodd y gwaith ymchwil hwn at setiau data Global Mangrove Watch (GMW), sy’n canolbwyntio ar baratoi mapiau byd-eang safonol a chyson o faint tiroedd mangrof a’r newid sydd wedi digwydd dros wahanol gyfnodau er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch mawr yn y wybodaeth a’r data byd-eang.

Mae globalmangrovewatch.org yn blatfform ar-lein hygyrch a rhad ac am ddim sy’n darparu’r data synhwyro o bell, a’r adnoddau i fonitro mangrofau sy’n angenrheidiol ar gyfer hynny. Mae’n rhoi’r gallu i unrhyw un gael gafael ar wybodaeth cwbl gyfoes, i bob pwrpas, am leoliad a newidiadau i fangrofau ar draws y byd, ac yn tanlinellu gwerth y cynefinoedd.

Yr Effaith

Llywio Polisi Cyhoeddus

Mae’r mapiau GMW yn dangos newidiadau yn hyd a lled tiroedd mangrof dros amser ac maen nhw wedi llywio polisi cyhoeddus ac wedi dylanwadu ar benderfyniadau ar sawl lefel; yn rhyngwladol, drwy Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, gweithredoedd llywodraethau cenedlaethol, gan gynnwys Myanmar, Fiji ac Indonesia, sefydliadau anllywodraethol gan gynnwys Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd y WWF, Wetlands er enghraifft drwy Bartneriaeth Proteus.

Cefnogaeth Setiau Data GMW i Llywodraethau Cenedlaethol a Chyrff Anllywodraethol

Mae gallu llawer o wledydd i brosesu data synwyryddion lloeren yn gyfyngedig. Diolch i setiau data GMW, roedd modd i bob gwlad elwa ar dechnolegau o’r fath, drwy ddarparu gwybodaeth fapio gyfoes i lywio eu penderfyniadau, gwybodaeth na fyddai wedi bod ar gael iddyn nhw fel arall.

Defnyddio Rhybyddion Misol o Golli Tir Mangrof ar Draws Cyfandir Affrica i Fonitro Newidiadau a Chofnodi Llwyddiant wrth Leihau Colledion

O 1 Ionawr 2020, ar y cyd â Wetlands International, darparodd Prifysgol Aberystwyth rybuddion misol o golledion tir mangrof ar draws cyfandir Affrica. Mae staff Wetlands International yn defnyddio’r rhybuddion hyn i fonitro’r newidiadau i’r tiroedd mangrof ar lawr gwlad, ac i olrhain llwyddiant y gwaith o leihau maint gofodol y golled ac arafu’r dirywiad.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Amgylchedd