Ymchwilio i effeithiau Covid-19 ar addysg Gymraeg
Roedd cyfnodau clo pandemig Covid-19 yn heriol i ystod eang o bobl a sectorau, gan gynnwys ysgolion.
Bu’n rhaid i athrawon a disgyblion ymdopi’n gyflym gyda’r drefn newydd o weithio o gartref a dysgu ac addysgu o bell.
Ymhlith yr heriau ychwanegol oedd yn wynebu ysgolion cyfrwng Cymraeg ar y pryd roedd estyn cefnogaeth i blant o gartrefi di-Gymraeg.
Yn dilyn y cyfnod clo cyntaf yn 2020, aeth ymchwilwyr yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth ati i edrych yn fanylach ar yr effaith gafodd y pandemig ar addysg disgyblion.
Gan weithio mewn partneriaeth gyda sawl prifysgol arall yng Nghymru a gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, aethpwyd ati i lunio tair astudiaeth arbennig.
Nod yr astudiaeth gyntaf oedd archwilio sut y gwnaeth ysgolion ymateb i ofynion dysgu o bell a chyfunol, adnabod arfer da ac ystyried gwersi i’w dysgu ar gyfer ysgolion yn ogystal ag ar gyfer hyfforddi athrawon newydd yn y dyfodol.
Roedd yr ail astudiaeth yn edrych ar yr effaith y cafodd cau ac ailagor ysgolion yn raddol ar ddysgwyr, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hystyried yn ddifreintiedig.
Ffocws y trydydd prosiect oedd pwyso a mesur effaith cyfyngiadau Covid-19 ar ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn benodol felly'r rhai hynny sy'n byw mewn cartrefi di-Gymraeg.
Fel rhan o’r astudiaeth yma, bu ymchwilwyr yn siarad gydag athrawon, disgyblion, rhieni a gofalwyr er mwyn clywed am eu profiadau uniongyrchol nhw.
Cafodd casgliadau ac argymhellion yr ymchwil, a ddechreuodd yn Hydref 2020, eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2021.
Ers hynny, mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Addysg Aberystwyth wedi parhau i astudio effeithiau gwahanol Covid-19 ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan ganolbwyntio ar ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg a sut orau oedd eu cefnogi nhw.
Ym mis Awst 2023, fe gyhoeddon nhw adroddiad yn edrych yn benodol ar yr effaith ar ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg oedd wedi trosglwyddo o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ystod y pandemig.
Comisiynwyd yr adroddiad yma gan Ganolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru ac fe rannwyd y canfyddiadau a’r argymhellion gyda Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a Chonsortia Addysg Cymru ymhlith eraill.
Ond roedd gwaith pellach i’w wneud, yn ôl Dr Siân Lloyd-Williams Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth.
“O fod wedi gwneud yr astudiaethau cyntaf yma, roedd yn glir bod angen parhau â’r gwaith er mwyn i ni allu cloriannu, cydnabod a chofnodi effaith ein hargymhellion ar sut i gefnogi teuluoedd di-Gymraeg,” meddai.
“Aethom ati i drefnu cyfres o weithdai, gan ddwyn ynghyd cynrychiolwyr o’r awdurdodau addysg lleol, athrawon, rhieni ac eraill i glywed eu profiadau nhw a chasglu tystiolaeth. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cyd-greu llyfryn arbennig y gall athrawon ei defnyddio i gefnogi disgyblion o gartrefi di-Gymraeg sy’n mynychu ysgolion Cymraeg.”
Cafodd y llyfryn Cysylltu, Cefnogi a Chynnig Cyfleoedd ei lansio yn ystod digwyddiad hyfforddiant i athrawon ym mis Ionawr 2025 ac mae modd ei lawrlwytho copi PDF o wefan y Brifysgol neu holi am gopi caled.
Dywedodd aelod arall o dîm ymchwil Ysgol Addysg Aberystwyth, Dr Rhodri Aled Evans: “Dyma enghraifft o gydweithio effeithiol a phwrpasol rhwng academyddion ac ymarferwyr ar lawr gwlad. Ein gobaith yw y bydd y llyfryn yma, ynghyd ag argymhellion ein hastudiaethau blaenorol, yn adnodd gwerthfawr i’r sector addysg ac o fudd i athrawon, disbyglion a theuluoedd fel ei gilydd.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Ceredigion, Elen James: “Mae wedi bod yn hynod werthfawr cydweithio gydag ymchwilwyr y Brifysgol i greu adnoddau pwrpasol sy’n cynnig cymorth ymarferol ar sut mae gwella ymhellach brofiadau disgyblion o gartrefi di-Gymraeg. Mae’r gwaith hwn yn gyfoethog ac yn fan cychwyn gwych ar gyfer cydweithio pellach. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r project yn y dyfodol.”
Cafodd y gwaith o gyd-greu’r llyfryn gefnogaeth hefyd gan AberCollab, cynllun a sefydlwyd gan Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi’r Brifysgol i feithrin cydweithio a phartneriaethau ymchwil.
Adnoddau defnyddiol
- Cael mynediad i'r Gymraeg yn ystod pandemig COVID-19 – heriau a chefnogaeth i aelwydydd di-Gymraeg. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Thomas, E. M., Lloyd-Williams, S. W., Parry, N. M., ap Gruffudd, G. S., Parry, D., Williams, G. M., Jones, D., Hughes, S., Evans, R. A. & Brychan, A. (2021). Llywodraeth Cymru.
- Adroddiad ar ran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: Symud ymlaen o addysg gynradd i uwchradd yn ystod pandemig COVID-19: astudiaeth ansoddol o brofiadau dysgwyr mewn addysg Gymraeg a theuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad. Siân Lloyd Williams, Enlli Môn Thomas, Rhodri Aled Evans, Lowri Jones, Delyth Jones, Rhian Tomos, Natalie Joseph-Williams, Abubakar Sha’aban, Adrian Edwards.
Cysylltwch â ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at: