Ail-Gyflwyno Arferion Gwneud Printiau Angof o’r 20fed Ganrif

Ymchwilwyr
Dr Harry Heuser
Yr Athro Robert Meyrick

Trosolwg

Mae Dr Harry Heuser a’r Athro Robert Meyrick yn hwyluso gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o arferion creadigol a fu unwaith yn amlwg ond sydd bellach yn cael eu hesgeuluso, ynghyd â’r gwerthoedd newidiol y maen nhw’n eu hadlewyrchu. Drwy ad-drefnu, cofnodi ac ail-gyflwyno ystod eang o gynnyrch diwylliannol rhwng dechrau a chanol yr 20fed ganrif, maen nhw’n tanio diddordeb y cyhoedd, gan ddylanwadu’n amlwg ar ddiwylliant a chymdeithas. Er bod eu catalogau cyflawn yn destunau cyfeirio safonol i gasglwyr, gwerthwyr, arwerthwyr a churaduron amgueddfeydd ledled y byd, mae eu harddangosfeydd yn galluogi sefydliadau diwylliannol allweddol fel Academi Frenhinol y Celfyddydau i agor allan a denu cynulleidfa ehangach, fwy cynhwysol.

Yr Ymchwil

Mae gwaith ymchwil ymchwiliol Dr Heuser a’r Athro Meyrick yn herio’r ffyrdd o ddosbarthu cynnyrch diwylliannol ac o bennu eu perthnasedd hanesyddol. Mae un cwestiwn canolog yn sail i’w prosiectau ymchwil – pam mae rhai gweithiau, yn enwedig rhai sy’n bodoli’n lluosog neu sy’n cael eu rhannu drwy’r cyfryngau torfol, yn cael eu clodfori tra bod eraill yn mynd ar ddifancoll neu’n cael eu hesgeuluso gan feirniaid.

Gan archwilio’r amgylchiadau hanesyddol a’r grymoedd sefydliadol sy’n llywio cynhyrchu a derbyn gweithiau celf gweledol a diwylliant materol, maen nhw’n asesu ffynonellau sylfaenol a deunyddiau archifol dihysbydd i astudio natur creu gwaddol, y drefn o gefnu ar arferion a gwrthod traddodiadau, a sut mae cylchoedd dylanwad yn ehangu a bri yn pylu.

Mae eu hymchwil barhaus ar gyfer catalogau cyflawn gwneuthurwyr printiau Prydeinig, sydd wedi digwydd ar y cyd ag Academi Frenhinol y Celfyddydau ers 2012, yn golygu olrhain ac archwilio miloedd o weithiau mewn casgliadau cyhoeddus, archifau preifat ac orielau masnachol i nodi gwrthrychau ac amlygu eu cyfeiriadau diwylliannol a hunangofiannol.

Maen nhw wedi defnyddio methodolegau tebyg wrth lunio bywgraffiadau casglwyr megis y diletant cwiar George Powell (1842-1882) a’r arlunydd-werthwr Hugh Blaker (1873-1934), er mwyn datgelu’r rhesymeg wrth wraidd arferion casglu. Mae eu parodrwydd i dderbyn y naratifau lluosog a chymhleth sy’n codi yn sgil hynny yn golygu bod eu hymchwil wedi arwain at ddarganfyddiadau annisgwyl ac eang.

Yr Effaith

Ehangu Diddordeb y Cyhoedd

Mae prosiectau Dr Heuser a’r Athro Meyrick ar gyfer Academi Frenhinol y Celfyddydau wedi cynorthwyo sefydliad mawr i gyflawni ei genhadaeth i gyflwyno cynulleidfaoedd newydd i gelf ac artistiaid. Yn ei thro, mae’r Academi Frenhinol a lleoliadau teithiau rhanbarthol wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i gefnogi canfyddiadau Dr Heuser a’r Athro Meyrick. Mae eu harddangosfeydd yn yr Academi Frenhinol wedi denu bron i £100,000 o nawdd corfforaethol.

Mae ffigurau mynychu ar gyfer yr arddangosfeydd ymhlith yr uchaf sydd wedi eu cofnodi ar gyfer arddangosfeydd Ystafell Tennant yr Academi Frenhinol, ac mae cofnodion ymwelwyr yn tystio i’w hapêl a’u hatyniad. Soniwyd am An Abiding Standard: The Prints of Stanley Anderson fel digwyddiad dychrynllyd o amserol ac fel darganfyddiad bendigedig o waith artist y mae ei fyd-olwg yn dal yn berthnasol heddiw. Yn yr un modd, croesawyd yr arddangosfa ar brintiau Charles Tunnicliffe fel agoriad llygad a oedd yn cynnig llawer i’w ddysgu yn ogystal â’i weld. Roedd y sgyrsiau gan guraduron a’r darlithoedd amser cinio a oedd yn cyd-fynd â’r arddangosfeydd yn gynyddol boblogaidd hefyd. Llwyddodd eu cyflwyniadau fideo ar wefan yr Academi Frenhinol, Vimeo a Twitter i gyrraedd mwy o’r cyhoedd a hybu’r diddordeb.

Roedd yr arddangosfeydd ymhlith y tair sioe ‘rhaid eu gweld’ yn y DU (The Telegraph), ymhlith y pethau gorau i’w gweld, eu gwneud neu eu harchebu (Country Life) ac yn un o bigion celfyddydol yr wythnos (London Evening Standard). Denwyd cynulleidfaoedd â diddordeb mewn bywyd gwyllt ym Mhrydain (Tunnicliffe), hanes pensaernïol a hanes cymdeithasol (Anderson) yn ogystal â dulliau ffermio a chrefftau traddodiadol, gydag adolygiadau’n ymddangos mewn cyfnodolion amrywiol fel The Mayfair Times a’r Regional Furniture Society.

Darparu Prif Ffynhonnell Gyfeirio Ddibynadwy

Mae catalogau cyflawn Dr Heuser a’r Athro Meyrick bellach yn brif ffynhonnell gyfeirio ar gyfer curaduron a chasglwyr preifat, gwerthwyr ac arwerthwyr, addysgwyr a’r cyhoedd. Maen nhw’n cael eu cadw gan yr Amgueddfa Brydeinig, Oriel Gelf Christchurch, Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, Llyfrgell Gyhoeddus Chicago, Princeton, Rijksmuseum, Smithsonian a Chanolfan Celf Brydeinig Yale. Mae’n arfer bellach i guraduron, ystafelloedd arwerthu a gwerthwyr gyfeirio at rifau catalog ‘Heuser-Meyrick’.

Mae ymholiadau gan gasglwyr, gwerthwyr cenedlaethol a rhyngwladol, arwerthwyr, y cyfryngau a’r cyhoedd yn dangos ffydd yn arbenigedd Dr Heuser a’r Athro Meyrick. Arweiniodd ymchwil Dr Heuser ar George Powell at gyfranogiad rhanbarthol ym mhrosiect ArtUK, Sculpture Near You, sgyrsiau â grwpiau cymunedol a pherfformiad gwadd LHDTC+. Diolch i waith ymchwil yr Athro Meyrick ar Hugh Blaker, llwyddodd curaduron y Louvre i sicrhau dogfennau tarddiad ar gyfer paentiad sydd bellach wedi’i nodi fel gwaith gan Georges de la Tour. 

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Diwylliant