Trawsnewid Cyflwyniad a Chynrychiolaeth Mewn Ymarfer Theatr Cyfranogol

Ymchwilydd
Yr Athro Simon Banham

Trosolwg

Cyflwynodd Summer, Autumn, Winter, Spring ddulliau newydd o ymdrin â gwaith llwyfan cyfranogol, gan drawsnewid natur y perfformiwr, y cyfranogwyr a phrofiad ac ymgysylltiad y gynulleidfa. Roedd y gwaith yn cynnwys pedwar cynhyrchiad cysylltiedig ond gwahanol, a gyflawnwyd dros gyfnod o dair blynedd, cyn eu perfformio yn eu cyfanrwydd mewn cylch perfformio cyfranogol 7 awr ym Manceinion yn 2016 ac yn Norwich yn 2017. Ymgysylltwyd â’r cyhoedd wrth greu a pherfformio digwyddiad theatrig hunanfyfyriol, gan ymgorffori ymchwiliadau dramayddiaethol a golygfaol o foeseg a gwleidyddiaeth presenoldeb a chynrychiolaeth i greu archwiliad epig o le a phersonoldeb. Roedd y gwaith yn cyfoethogi gwerthfawrogiad a gwybodaeth y cyhoedd o’r ffurf theatrig, gan greu ffyrdd newydd o feddwl a ddylanwadodd ar arferion cynhyrchu cyfoes.

Yr Ymchwil

Roedd Summer, Autumn, Winter, Spring yn ymestyn ymchwiliad tymor hir gan yr Athro Simon Banham i gyd-bresenoldeb perfformwyr a chynulleidfa fel rhan o realiti materol perfformiad theatrig. Roedd yn galluogi cynulleidfaoedd i brofi arferion artistig o ansawdd uchel, wedi’u creu gyda chyfranogwyr lleol yn hytrach na pherfformwyr hyfforddedig, ac yn pwysleisio perfformiad bywyd bob dydd drwy ddramayddiaethau seiliedig ar gyfweliad, ymchwiliad a chyfarwyddyd. Wrth gydnabod cydnabyddiaeth a dilysiad yr ‘hunan’ fel mecanwaith craidd i’r theatr, mae Summer, Autumn, Winter, Spring yn taflu goleuni newydd ar fecaneg cyflwyniad, cynrychiolaeth a phresenoldeb.

Archwiliodd sut y gallai cyfarpar theatrig wahodd cynulleidfa i ymuno a dylanwadu ar y broses o greu sy’n cael ei datgelu iddyn nhw. Roedd yn edrych ar ddau gysyniad allweddol: yn gyntaf, i ba raddau y gallai ein methodoleg waith ysgogi cydnabyddiaeth o wrthrychau golygfaol ac ymgysylltiad â hwy fel cyfranwyr o fewn perfformiad; ac yn ail, pa effaith y gallai ad-drefnu ffrâm theatrig gwaith ei chael ar brofiad y gynulleidfa o berfformiad.

Yr Effaith

Ehangu Arferion y Diwydiant

Mae Summer, Autumn, Winter, Spring wedi bod yn rhan annatod o gomisiynau allweddol a gafwyd yn ei sgil, yn enwedig creu digwyddiad cyfranogol mawr ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Manceinion (MIF) yn 2017. Cafodd What is the City but the People?, digwyddiad agoriadol cyhoeddus untro ar gyfer MIF17, ei ffrydio’n fyw gan y BBC. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys detholiad wedi’i guradu o drigolion Manceinion ar lwyfan pwrpasol 66m o hyd a adeiladwyd yng nghanol y ddinas, gan ddenu trigolion lleol i fod yn rhan o’r cast ac i ymgysylltu â’r pwnc. Roedd hefyd yn cynnig ffrâm theatrig a chyflwyniadol ymwybodol i hwyluso archwiliad o gyflwyno’r hunan o fewn cynrychiolaeth o’r ddinas.

Cyfoethogi Gwerthfawrogiad a Dychymyg y Cyhoedd

Cyfoethogodd Summer, Autumn, Winter, Spring werthfawrogiad cyhoeddus a gwybodaeth am y ffurf theatrig drwy gynhyrchu mathau newydd o fynegiant artistig. Galluogodd gynulleidfaoedd i ymgysylltu ag amgylcheddau golygfaol a dramâu cyfranogol mewn ffrâm berthynol, gan symud y ffocws a’r persbectif i ffwrdd o werthfawrogiadau artistig uniongyrchol o gyfansoddiad gan ffafrio profiad cyfranogol o ddigwyddiad esthetig. Roedd yn annog cynulleidfaoedd a chymunedau i ddychmygu a chyflwyno eu hunain fel cyfranogwyr mewn arferion artistig o gynrychiolaeth. Cyrhaeddodd gynulleidfa o 7,366. Roedd ymateb cyfranogwyr ac adborth y gynulleidfa’n tystio bod y cynhyrchiad wedi ysgogi syniadau newydd ac wedi sbarduno cryn drafodaeth am agweddau sylfaenol ar y theatr gyfoes. Roedd adborth y gynulleidfa’n cyfeirio at natur unigryw ac ysbrydoledig y gwaith.

Denodd What is the City but the People? gynulleidfaoedd mawr, heb sôn am sylw rhyngwladol (mynychwyd y digwyddiad gan oddeutu 6,000 o bobl, gyda dros 10,000 yn ei wylio yn fyw ar-lein). Yn dilyn pleidlais, enillodd y cynhyrchiad wobr y digwyddiad gorau yng Ngwobrau Diwylliant Manceinion 2018.

Cafodd y ddau gynhyrchiad sylw eang ac adolygiadau helaeth yn y wasg Brydeinig, ac ar deledu a radio. Mae ffrwd byw gan y BBC o What is the City but the People? yn dal ar gael ar BBC iPlayer.

Dylanwadu ar Arferion Cynhyrchu Cyfoes

Roedd y dulliau archwiliadol sy’n sail i Summer, Autumn, Winter, Spring yn gofyn am gyd-ddatblygu strwythurau sefydliadol a blaenoriaethau cynhyrchu newydd ar gyfer pob cyd-destun cynhyrchu. Byddai hynny’n creu a gweithredu arferion cynhyrchu i alluogi a chefnogi’r dulliau arfaethedig o integreiddio ac ymgysylltu â chyfranogwyr a chynulleidfaoedd lleol wrth greu a pherfformio’r gwaith.

Roedd natur a strwythur penodol y pedwar gwaith gwahanol yn Summer, Autumn, Winter, Spring yn golygu bod rhaid cynllunio a chytuno ar berthynas waith wahanol gyda gwyliau a hyrwyddwyr wrth gynhyrchu’r gwaith, gan lunio a gwreiddio arferion gwaith lleoliadol newydd, priodol i bob cyd-destun.

Roedd yn galluogi cynulleidfaoedd i brofi arferion artistig o ansawdd uchel, wedi’u creu gyda chyfranogwyr lleol yn hytrach na pherfformwyr hyfforddedig, ac yn pwysleisio perfformiad bywyd bob dydd drwy ddramayddiaethau seiliedig ar gyfweliad, ymchwiliad a chyfarwyddyd.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Diwylliant