Gwyddoniaeth a Threftadaeth yn Elwa ar Hanes Canoloesol
Ymchwilydd
Dr Elizabeth New
Trosolwg
Ariannwyd prosiect Imprint gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ac mae wedi defnyddio ymchwil hanesyddol a thechnegau gwyddonol arloesol i ddod â’r gorffennol yn fyw mewn ffyrdd newydd, gan gyfrannu at ddatblygiadau allweddol mewn ymchwil fforensig. Arweiniodd at ddarganfyddiadau newydd ynghylch yr arfer o selio a’i oblygiadau ar gyfer syniadau am hunaniaeth bersonol. Drwy lywio ymarfer ym meysydd archifo a chadwraeth, mae wedi ehangu cadwraeth a dehongli ym maes treftadaeth. Mae’r broses arloesol hon o ddadansoddi olion bysedd a dwylo o’r Oesoedd Canol hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu offer fforensig o’r radd flaenaf a gwella arfer gwyddoniaeth fforensig.
Yr Ymchwil
Mae nifer fawr iawn o olion mowldiau seliau mewn disgiau o gwyr wedi goroesi yn archifau Prydain, oherwydd eu bod wedi cael eu cadw’n fwriadol gyda’u dogfennau gwreiddiol fel rhan o’r broses ddilysu gyfreithiol.
Gan fod sefydliadau ac unigolion ym mhob rhan o gymdeithas yn defnyddio ac yn berchen ar seliau erbyn y 13eg ganrif, mae eu motiffau a’u testun yn rhoi i ni dystiolaeth amhrisiadwy am hunaniaeth a chynrychiolaeth. Mae olion dwylo (bys, bawd neu gledr llaw) yn aml i’w cael ar gefn y cwyr ar y seliau ond esgeuluswyd y rhain fel ffynhonnell wybodaeth tan nawr. Aeth Imprint (www. imprintseals.org) ati i ddadansoddi 1,000 o luniau o olion o’r fath a chanfuwyd mai rhan o’r darlun yn unig yw’r rhagdybiaethau a wnaed am y cysylltiad rhwng seliau a pherchnogion mowld – sef y rhagdybiaeth fod angen i unigolyn wasgu ei fowld ei hun i’r cwyr wrth afael ynddo ar yr un pryd. Yn hytrach, byddai person arall weithiau’n dal y cwyr wrth iddo ef neu berchennog y sêl wasgu ei fowld. Mae hyn hefyd yn awgrymu bod y gwaith dilysu a chyflawni’r cyfnewid wedi cael eu gwahanu o ran selio.
Cyn Imprint, nid oedd unrhyw ffordd o ymchwilio i dystiolaeth olion dwylo ar seliau cwyr. Roedd yr angen i gyfuno sgiliau arbenigol fforensig, hanesyddol a phalaeograffig yn golygu eu bod yn fyd dirgel nid yn unig i’r cyhoedd, ond hyd yn oed i arbenigwyr.
Er mwyn datrys y sefyllfa hon, creodd y prosiect gronfa ddata o tua 1,500 o seliau, gan gynnwys tynnu lluniau o ansawdd uchel o’r olion dwylo ar y cwyr gan ddefnyddio offer fforensig arloesol a ffotograffau lliw o olion y mowld a’r dogfennau. Mae’r rhain oll wedi’u cysylltu drwy gronfa ddata berthynol sy’n cynnig gwybodaeth fanwl am y geiriad a’r motiffau ar y seliau, ynghyd â natur ac ansawdd yr olion dwylo. Mae hefyd yn cysylltu olion yr un mowld a’r un olion dwylo, gan bwyso ar dechnegau fforensig. Bellach, mae modd cwblhau ymchwil a oedd unwaith yn amhosib mewn ychydig funudau. Mae datgloi’r wybodaeth yn y ffordd arloesol hon wedi democrateiddio’r defnydd o seliau yn eu holl elfennau ar gyfer pawb sydd â diddordeb yn hanes yr Oesoedd Canol.
Yr Effaith
Dylanwadu ar Ddatblygu Offer ac Ymarfer Fforensig
Ehangu Cadwraeth a Dehongli Treftadaeth
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:
Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Diwylliant