Cysylltiadau Ystyrlon: Llenyddiaeth Hanesyddol a Thrafodaethau Cyfoes

Ymchwilydd
Yr Athro Richard Marggraf Turley

Trosolwg

Dull o esbonio bodolaeth ffenomenau yw hanesiaeth, a hynny drwy astudio eu hanes, neu’r broses ynghlwm wrth eu creu. Yn yr ymholiad hanesiaeth hwn, bu’r Athro Richard Marggraf Turley yn gweithio gyda buddiolwyr allweddol i archwilio sut mae celf a llenyddiaeth hanesyddol yn gallu llywio ein meddwl ynghylch 1) cyfiawnder a chynaliadwyedd bwyd a 2) effeithiau dulliau newydd o wyliadwriaeth. Datgelodd y gwaith ymchwil gysylltiadau ystyrlon rhwng gwaith awduron ac artistiaid hanesyddol bwysig a heriau cymdeithasol cyfredol o ran diogelwch bwyd a diwylliant gwyliadwriaeth.

Rhannodd yr Athro Marggraf Turley ei waith ymchwil rhyngddisgyblaethol drwy siarad a deialog cyhoeddus, ymweliadau ag ysgolion, gweithdai rhyngweithiol, darllediadau radio a chyfweliadau â’r cyfryngau mewn ffyrdd a arweiniodd at safbwyntiau newydd ar y berthynas rhwng llenyddiaeth a hanes ac a ddatgelodd werth dadansoddiad hanesyddol i drafodaethau cyfoes. Mae ei waith wedi cael effaith ar arferion addysgu, ar ddealltwriaeth y cyhoedd, ar ymarfer creadigol ac ar dwristiaeth.

Yr Ymchwil

Roedd ymchwil yr Athro Marggraf Turley yn canolbwyntio ar gerddi canonaidd, paentiadau a dramâu o gyfnodau hanesyddol allweddol lle mae pryderon cyfredol yn ymwneud â bwyd a gwyliadwriaeth yn amlwg.

Mae ei waith wedi cael effaith ar arferion addysgu, ar ddealltwriaeth y cyhoedd, ar ymarfer creadigol ac ar dwristiaeth.

Mae’r maes ymchwil cyntaf yn pwyso ar feysydd amrywiol o arbenigedd rhyngddisgyblaethol i archwilio sut mae trasiedi Shakespeare, King Lear, cerdd John Keats ‘To Autumn’ a darlun John Constable ‘The Hay Wain’ nid yn unig wedi’u gwreiddio mewn trafodaethau hanesyddol ynghylch dosbarthu bwyd mewn ffordd gyfiawn, ond hefyd yn gallu helpu i fframio, llunio ac egluro dealltwriaethau y cyhoedd heddiw o ddiogelwch a chynaliadwyedd bwyd mewn oes o argyfwng amgylcheddol llym.

Roedd yr ymchwil yn cyfuno dadansoddiad llenyddol gyda gwyddor bwyd i gynhyrchu ecoleg gyfannol o ymholi hanesiaethol yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth cynhyrchu bwyd a systemau dosbarthu. Ysgogodd hyn ymgysylltu creadigol gyda’r problemau amaethyddol ac amgylcheddol sy’n ein hwynebu yn yr oes sydd ohoni, gan wthio testunau llenyddol yn syth i ganol trafodaethau cyfredol ar yr un pryd.

Mae ail faes ymchwil yr Athro Marggraf Turley yn ymchwilio i’r graddau mae cerddi a phaentiadau Rhamantaidd a gynhyrchwyd yn ystod dechreuadau’r ffurfiau newydd o wyliadwriaeth fyd-eang yn rhagweld, ac yn cyfrannu’n ystyrlon, at drafodaethau cyfredol am y diwylliant gwyliadwriaeth. Yn 2017, cyhoeddodd y traethawd rhyngddisgyblaethol cyntaf i gyfuno ymchwil ar lenyddiaeth Ramantaidd a maes Astudiaethau Gwyliadwriaeth.

Yr Effaith

Dylanwadu ar Ddealtwriaeth Gysyniadol a Dulliau Addysgu

Drwy weithdai rhyngweithiol yn canolbwyntio ar gynrychiolaeth cyfiawnder bwyd a gwyliadwriaeth yng ngwaith Keats a Shakespeare, mae’r Athro Marggraf Turley wedi cyfleu ei ymchwil yn rheolaidd i ddisgyblion TGAU a Lefel A yng Nghymru a Lloegr.

Mae adborth o’r sesiynau’n tystio i’w effaith ar ddealltwriaeth gysyniadol, ac ar ddulliau o addysgu dadansoddiad llenyddol mewn ysgolion. 

Llywio Dealltwriaeth y Cyhoedd

Defnyddiodd ymchwil yr Athro Marggraf Turley awduron Rhamantaidd i ddatblygu dealltwriaeth y cyhoedd o faterion cymdeithasol a moesegol a ddaeth i’r amlwg gyda thechnoleg gwyliadwriaeth fiometrig. Cynhaliodd ddangosiadau rhyngweithiol yn defnyddio dyfeisiau biometrig (oriorau clyfar, seinyddion clyfar, adnabod wyneb, mathau eraill o synhwyro o bell) i fesur ymatebion corfforol ac emosiynol cyfranogwyr i gerddi a phaentiadau Rhamantaidd. Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys sesiynau holi ac ateb yn trafod sut y gall llenyddiaeth hanesyddol lywio ein dealltwriaeth o wreiddio cynyddol dyfeisiau gwyliadwriaeth yn ein bywydau bob dydd.

Roedd y digwyddiadau’n cynnwys ‘The Quantified Romantics’, gyda’r ‘Vortex’ (arbrawf blwch du trochol) yn Amgueddfa Ceredigion yn 2015, wedi’i gyllido gan ŵyl Being Human. Denodd y ‘Vortex’ gynulleidfaoedd mawr ac yn ddiweddarach bu’n rhan o lansiad gŵyl Being Human 2016 yn Senate House, Llundain. Fe’i cynhaliwyd eto mewn noson ‘Living Frankenstein’ yn Senate House, yng Ngŵyl Lenyddiaeth Caerfaddon ac yn ystod y ‘Steampunk Spectacular’ Aberystwyth.

Mae ymchwil yr Athro Marggraf Turley wedi ymddangos mewn cyfweliad ar flog bwyd The Guardian, yn The Observer ac yn y Times Higher Education.

Creu Ffyrdd Newydd o Feddwl a Allai Ddylanwadu ar Ymarfer Creadigol

Cyflwynodd yr Athro Marggraf sgwrs gyhoeddus ar Keats, Shakespeare, cyfiawnder bwyd a gwyliadwriaeth yn Narlith Ysgol Ddydd ‘John Keats in 1819’ Prifysgol Rhydychen ym mis Ebrill 2019. Roedd Cyfarwyddwraig Artistig cwmni theatr o Gaer-wynt yn y gynulleidfa. Arweiniodd hynny at sgyrsiau dilynol, gan effeithio yn ei dro ar sut yr oedd hi (fel dramodydd) a pherfformwyr y cwmni wedi mynd ati i ymdrin â drama newydd am gyfansoddi cerdd enwocaf Keats, ‘To Autumn’.

Mae ymchwil yr Athro Marggraf Turley hefyd wedi dylanwadu ar yrfaoedd ysgrifennu proffesiynol awduron annibynnol, gan gynnwys Lucasta Miller, gyda’i waith ar Keats yn cael ei grybwyll yn amlwg mewn rhestrau cydnabyddiaethau.

Cyfrannu at Ansawdd Profiad Twristiaid

Yn 2014, aeth Cyngor Dinas Caer-wynt ati i ddiwygio llawlyfr twristaidd ‘Sunset Walk’ Visit Winchester i gynnwys cyfeiriad at ymchwil yr Athro Marggraf Turley ar ddiogelwch bwyd a cherdd Keats ‘To Autumn’. O ganlyniad i’w ymchwil, mae’r llawlyfr bellach yn cynnwys St Giles Hill fel cyrchfan i gerddwyr, gan nodi ei bod yn debygol mai’r lleoliad hwn a ysbrydolodd y gerdd enwog. Newidiwyd clawr y llawlyfr hefyd i gynnwys delwedd a dynnwyd o gopa St Giles Hill.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Diwylliant