Creu Mathau Newydd o Fynegiant Theatrig
Ymchwilwyr
Dr Mike Brookes
Yr Athro Mike Pearson
Trosolwg
Cynhyrchiad theatr ar raddfa fawr oedd ILIAD (2015), ac fe enillodd fri rhyngwladol. Cafodd ei greu gan Dr Mike Brookes a’r diweddar Athro Mike Pearson (1949–2022), a’i gomisiynu gan National Theatre Wales (NTW). Y weledigaeth oedd llwyfannu cerdd epig Christopher Logue ‘War Music’ yn ei chyfanrwydd, mewn dull amlgyfrwng; y tro cyntaf i destun Logue gael ei lwyfannu’n llawn. Ehangodd y cynhyrchiad y ffyrdd o berfformio barddoniaeth naratif epig yn y cyd-destun diwylliannol cyfoes, ac ymateb y diwylliant hwnnw iddo. Cynigiodd ILIAD brofiad theatrig 11 awr trochol ac eang i gynulleidfaoedd, o fewn awditoriwm modern; a llywiodd weithdrefnau creadigol, technegol a gweinyddol ar gyfer arferion theatr wedi’i lleoli.
Yr Ymchwil
Ymchwil ysgolheigaidd ac ar sail ymarfer tymor hir Dr Brookes a’r Athro Pearson oedd sail gwaith cysyniadol a chreadigol ar gyfer ILIAD. Roedd y gwaith yn cynnwys eu syniadau am fethodolegau ymarferol ar gyfer perfformiad safle-benodol a chreu perfformiad wedi’i leoli, a dulliau beirniadol a damcaniaethol o fynd i’r afael â nhw. Roedd datblygiad ILIAD yn nodi trobwynt, gan roi’r dulliau hyn ar waith o fewn prosesau llwyfannu a chynhyrchu awditoria theatr ‘traddodiadol’. Ehangodd hyn waith ymchwil yr awduron i arferion theatr wedi’i lleoli a gwaith safle-benodol drwy roi sylw i natur benodol y theatr fel safle ynddo’i hun, yn benodol datblygiad awditoriwm newydd Theatr Ffwrnes yn Llanelli, trefn ofodol a defnydd posib y lleoliad, a chyddestun ei swyddogaethau posib fel canolfan ddiwylliannol.
Arweiniodd hyn at ddulliau amlgyfrwng newydd o lwyfannu testun barddol; datblygiad cydweithredol arferion sinematograffig a chynhyrchu fideo penodol i brosiect, llunio pensaernïaeth sain weithredol ofodol a thechnegau lleisiol priodol ar gyfer amgylchedd cyfryngol cymhleth y gwaith.
Daeth y gwaith â thîm dethol o ymarferwyr arbenigol a llai profiadol ynghyd, yn lleol a rhyngwladol, ac fe’i cefnogwyd gan brofiad helaeth Dr Brookes a’r Athro Pearson o gynhyrchu proffesiynol. Cafodd ei lywio hefyd gan ymchwil helaeth Dr Brookes ym maes gwaith celf byw a chyhoeddus rhyng-gyfryngol, sydd wedi’i gomisiynu a’i gyflwyno ledled Ewrop, Asia, Awstralasia, De America a’r Unol Daleithiau.
Yr Effaith
Cyfoethogi Gwerthfawrogiad a Dychymyg y Cyhoedd Drwy Gynhyrchu Mathau Newydd o Fynegiant Artistig
Llywio Gwaith Rhaglennu a Chynhyrchu Ffyrdd Newydd o Feddwl sy'n Dylanwadu ar Arferion Cynhyrchu
Cysylltwch â Ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:
Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Diwylliant