Iwtopiâu Cynaliadwy: Archwilio’r Gorffennol i Newid y Presennol

Ymchwilydd
Dr Jacqueline Yallop

Trosolwg

Mae ymchwil Dr Jacqueline Yallop ar brosiectau iwtopiâu y 18fed, 19eg ac 20fed ganrif wedi galluogi darllenwyr ei gwaith ysgrifenedig, a’r sawl sydd wedi cymryd rhan mewn prosiectau cysylltiedig, i wneud newidiadau cynaliadwy i’w ffyrdd o fyw eu hunain a ffyrdd o fyw eu cymunedau.

Mae ei gwaith rhyngddisgyblaethol yn archwilio sut mae iwtopiâu yn cael eu creu a’u mynegi, gan hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd, ysbrydoli gweithgareddau a gwyliau cyhoeddus newydd, newid sut mae treftadaeth yn cael ei phrofi ac annog edrych o’r newydd ar foeseg bwyd bersonol. 

Yr Ymchwil

Mae ymchwil Dr Yallop yn datgelu’r cymhellion wrth wraidd amryw o brosiectau iwtopaidd gydol hanes er mwyn archwilio sut rydyn ni’n deall ac yn mynegi’r ddelfryd iwtopaidd heddiw, a sut y gallai hyn newid agweddau at amgylcheddau adeiledig a gwledig yr oes sydd ohoni.

Mae elfen gyntaf yr ymchwil yn mynd i’r afael ag iwtopiâu y gorffennol a chymhellion y rhai â’u lluniodd. Mae gweithiau cyhoeddedig Dr Yallop megis Marlford a Dreamstreets yn mynd i’r afael â’r rhesymau dros dwf a dirywiad pentrefi a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr, gan ystyried pa wersi sy’n bosib eu dysgu o’r arbrofion iwtopaidd hyn. Mae’r ymchwil yn cynnig cipolwg ar ystadau gwledig a’u pentrefi cysylltiedig, gan feirniadu dirywiad cydlyniant a chyfrifoldeb cymunedol canol yr 20fed ganrif, yn ogystal ag edrych ar enghreifftiau allweddol o bentrefi iwtopaidd ledled Prydain o’r 19eg ganrif. Drwy gysylltiadau rhyngddisgyblaethol newydd, mae’r ymchwil yn datgelu sawl elfen gyffredin sy’n cysylltu prosiectau iwtopaidd y gorffennol.

Mae ail elfen gwaith ymchwil Dr Yallop yn edrych ar syniadau cystadleuol ynghylch iwtopia wledig (cymdeithasol, llenyddol, athronyddol), gan ysgogi trafodaeth am fyw yn gynaliadwy. Mae Big Pig, Little Pig yn ymdrin â phrofiad personol Dr Yallop o fagu a lladd anifeiliaid yng nghyd-destun arferion gwledig a thirweddau sy’n newid. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn pwyso’n benodol ar archifau o’r 18fed a’r 19eg ganrif i archwilio ffyrdd y mae dealltwriaeth o gymhellion y gorffennol yn gallu dylanwadu ar ddyfodol cynaliadwy, gan arwain at ddirnadaeth ynghylch defnydd tir a’i berchnogaeth, yn ogystal â newid syniadau ynghylch cyfrifoldeb cymdeithasol.

Yr Effaith

Annog Trafodaeth Gyhoeddus a Chyflwyno Persbectifau Newydd ar Gynaliadwyedd, Bwyta a Chryfhau Cymunedau

Cyflwynwyd ymchwil Dr Yallop i gynulleidfa eang drwy gyfres o ddarlithoedd, trafodaethau a darlleniadau cyhoeddus, yn ogystal â nifer o eitemau nodwedd ar y radio. Mae ei llyfrau wedi’u cyfieithu i’r Iseldireg a’r Almaeneg. Cafodd Dreamstreets sylw mewn trafodaeth ar ‘Start the Week’ ar BBC Radio 4 ac mewn cyfres arall ar yr orsaf, Streets Apart: A History of Social Housing. Darlledwyd fersiwn gryno o Big Pig, Little Pig fel llyfr yr wythnos y BBC, ac amcangyfrifir i’r rhaglenni gyrraedd 3.2 miliwn o wrandawyr.

Gwahoddwyd Dr Yallop i roi mwy nag 20 o sgyrsiau a darlithoedd mewn siopau llyfrau a gwyliau llenyddol ac roedd ei hymchwil hefyd yn sail i gyfres o ddosbarthiadau meistr cyhoeddus a gynhaliwyd yn y Faber Academy ac ym mhapur newydd The Guardian. Mae’r ymateb i’w hymchwil yn tystio i allu ei gwaith i effeithio ar y darllenydd. Thema gyffredin yn yr ymatebion hyn yw pwysigrwydd yr ymchwil o ran herio darllenwyr i feddwl yn wahanol neu i ailystyried eu ffyrdd arferol o fyw. Arweiniodd Big Pig, Little Pig yn enwedig at drafod tanbaid ymysg darllenwyr a gwrandawyr radio, gydag un darllenydd yn dweud fod y llyfr wedi rhoi’r hwb bach terfynol yna iddo droi’n llysieuydd, gan fynegi ei ryfeddod at rym llyfrau i newid bywydau.

Llywiodd gwaith Dr Yallop y meddylfryd a oedd yn sylfaen i gyfres o arddangosfeydd yn y Millennium Gallery yn Sheffield. Roedd yn archwilio gweledigaethau iwtopaidd ar gyfer cymdeithas ôl-ddiwydiannol gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar waith y beirniad o’r 19eg ganrif, John Ruskin. Ysbrydolodd Casgliad Ruskin raglen o ddigwyddiadau ledled y ddinas - ‘Ruskin in Sheffield’ - gan edrych o’r newydd ar uchelgeisiau Ruskin ar gyfer y ddinas.

Gweithiodd y prosiect gyda gwasanaethau amgueddfeydd lleol, cymunedau, sefydliadau diwylliannol, artistiaid, amgylcheddwyr, haneswyr ac ymgyrchwyr i greu amgueddfeydd dros dro, perfformiadau, gwyliau ac arddangosfeydd newydd yng Nghasgliad Ruskin. Drwy’r gweithgareddau hyn, ymgysylltodd dros 24,000 o bobl â threftadaeth Ruskin, crefftwaith, bywoliaeth dda, meddwl iwtopaidd, cyfiawnder cymdeithasol a’u cymuned leol. Wrth ymateb i ymchwil Dr Yallop, datblygodd amrywiaeth o artistiaid lleol eu hymarfer eu hunain. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd drama gymunedol (‘Boots, Fresh Air and Ginger Beer’), taith gerdded farddonol ‘Contra Flow’ a ‘Crafting the Land’ (cysylltu prosiectau crefft â garddio biodynamig).

Dylanwadu ar Ddealltwriaeth Cysyniadol

Ym mis Awst 2019, roedd cyfres o weithdai cyhoeddus ac i ysgolion, Imagining Utopias (yn seiliedig ar Dreamstreets), yn annog cyfranogwyr i greu iwtopiâu cyfoes ymarferol. Roedd y prosiect yn cynnwys cystadleuaeth genedlaethol ar gyfer dehongliadau creadigol o iwtopia, a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Llwyddodd y gyfres #ModelVillageMonday i gyflawni 8,000 o argraffiadau Twitter dros 28 diwrnod.

Mae adborth o’r gweithdai yn dyst o newid mewn dealltwriaeth gysyniadol, o fethu ag adnabod y gair ‘iwtopia’ o gwbl i adnabyddiaeth o egwyddor cymuned ac amgylchedd, a lle delfrydol i fyw ynddo.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Diwylliant