Ehangu Arferion Gwneud Printiau Cyfoes
Ymchwilydd
Paul Croft
Trosolwg
Drwy ymarfer-fel-ymchwil, arddangosfeydd, dosbarthiadau meistr, portffolios printiau a chydweithio rhyngwladol, mae Paul Croft wedi cynnig cyfleoedd newydd i’r cyhoedd gael profiad o greu printiau cyfoes ac ymgysylltu â’r broses. Mae ei brosiectau wedi galluogi gwneuthurwyr printiau o Brydain i gael eu cydnabod yn Tsieina, Awstralia ac UDA, ac ar yr un pryd wedi bod o gymorth i artistiaid Tsieineaidd i arddangos a rhwydweithio y tu hwnt i’w mamwlad, a gwerthu eu gwaith yn y farchnad fyd-eang. Yn fyd-eang ac yn rhanbarthol, mae ei fentrau wedi bod o fudd i artistiaid proffesiynol a myfyrwyr celf, amgueddfeydd ac orielau, casglwyr printiau a’r cyhoedd.
Yr Ymchwil
Ers cyhoeddi ei lawlyfrau technegol dylanwadol, Stone Lithography a Plate Lithography, mae Paul Croft wedi parhau i rannu ei wybodaeth am wneud printiau drwy guradu arddangosfeydd rhyngwladol, gweithdai a gwyliau print ledled y byd.
Arweiniodd ei waith cydweithredol yn Tsieina at ddwy o’r arddangosfeydd hyn; Contemporary Chinese Printmaking (a oedd yn edrych ar waith tair cenhedlaeth o wneuthurwyr printiau o dalaith Hunan) ac arddangosfa The Xiaoxiang Exhibition of International Printmaking (a oedd yn creu cyd-destunau rhyngwladol ar gyfer gwneud printiau Tsieineaidd, drwy arddangos dros 200 o brintiau gan 90 artist o Awstralia, Canada, Chile, Tsieina, Iwerddon, y DU ac UDA).
Yr Effaith
Cynhyrchu Cyfleoedd Newydd Sydd Wedi Ehangu Arferion Proffesiynol a Chreadigol
Cyfoethogi Gwerthfawrogiad y Cyhoedd
Effaith Yng Nghymru
Cafodd arddangosfa The Xiaoxiang Exhibition of International Printmaking (2015) ei chydnabod yn Tsieina fel yr arddangosfa fwyaf uchelgeisiol erioed i gael ei chynnal yn nhalaith Hunan. Barnodd swyddogion y wlad fod y prosiect o arwyddocâd diwylliannol mawr, a denodd gyllid gan asiantaethau’r llywodraeth, yn eu plith Cymdeithas Artistiaid Tsieina a Chymdeithas Gwneud Printiau Tsieina.
Cysylltwch â Ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:
Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Diwylliant