Gwella Dealltwriaeth o Farddoniaeth Gymraeg yng Nghymru a Thu Hwnt
Ymchwilydd
Eurig Salisbury
Trosolwg
Mae’r gynghanedd, system unigryw sy’n seiliedig ar synau iaith i gyfansoddi barddoniaeth gaeth Gymraeg ar sail patrymau cyflythreniad ac odl fewnol, yn nodwedd hanfodol o ddiwylliant llenyddol Cymru ers yr Oesoedd Canol.
Mae gwaith creadigol a beirniadol Eurig Salisbury wedi herio canfyddiadau traddodiadol o’i hanes, a hynny mewn ffordd radical, gan drawsnewid poblogrwydd a dealltwriaeth o’r gynghanedd i gynulleidfa newydd ac ehangach, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei waith arloesol, yn arbennig mewn ysgolion, wedi peri inni ystyried o’r newydd berthnasedd y gynghanedd a barddoniaeth yn fwy cyffredinol.
Yr Ymchwil
Mae Eurig Salisbury wedi cynhyrchu corff eang ei rychwant o waith fel ymchwilydd llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol, cyfieithydd, golygydd a bardd caeth hynod fedrus. Ei genhadaeth yw ehangu gorwelion barddoniaeth Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt, yn enwedig o ran sut mae’r gynghanedd yn cael ei deall a’i defnyddio ar hyn o bryd. Dangosodd ei ymchwil fod beirdd yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar wedi defnyddio’r ffurf gyda mwy o ryddid na’u holynwyr yn yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif.
Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio’n arbennig ar gwestiynau yn ymwneud â chyfranogi mewn cynghanedd a phwy sy’n berchen arni, ac mae’n herio’r canfyddiad nad yw hon yn grefft sy’n agored i ddechreuwyr. Mae’r ymgais radical hon i ddehongli datblygiad y gynghanedd o’r newydd yn ei throi’n ffenomen farddol sy’n ddemocrataidd yn ei hanfod. Yn allweddol, mae ei ymchwil wedi datgelu defnydd hanesyddol eang o’r gynghanedd mewn mesurau rhydd, llai traddodiadol. O dorri’n rhydd o linellau saith-sill mesurau caeth traddodiadol, mae’r dull newydd a goddefgar hwn wedi symleiddio ac ehangu’r defnydd o’r gynghanedd.
Yr Effaith
Mae Eurig wedi cydweithio’n agos â thros 40 o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, ac mae wedi darparu sesiynau cyfoethogi sy’n dehongli testunau gosod canoloesol a chyfoes i ymgeiswyr TGAU, AS a Safon Uwch. Mae’r adborth i’r sesiynau hyn yn cadarnhau bod ei waith yn cael effaith ar ddealltwriaeth myfyrwyr, eu cyrhaeddiad ac ar y dulliau sy’n cael eu defnyddio i ddysgu barddoniaeth gaeth mewn ysgolion.
Mae prosiect Talwrn y Beirdd Ifanc wrth galon gwaith Eurig gydag ysgolion. Mae’r prosiect barddoniaeth arloesol hwn gydag ysgolion uwchradd wedi’i seilio ar ddiwyg traddodiadol Talwrn y Beirdd – cystadleuaeth leol a chenedlaethol unigryw sy’n rhan o’r diwylliant eisteddfodol ac arlwy darlledu BBC Radio Cymru – lle mae timau o feirdd yn cyfansoddi cerddi byrion ar amrywiol fesurau a themâu. Ef oedd y cyntaf i addasu’r diwyg i bobl ifanc, ac aeth ati i gynllunio ei brosiect ei hun â mewnbwn ei gynulleidfa darged. Er mwyn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth, mae myfyrwyr yn mynychu gweithdai rhyngweithiol, gan esgor ar waith cydweithredol a barddoniaeth wreiddiol. Mae myfyrwyr yn sôn yn gyson bod y prosiect wedi trawsnewid eu dealltwriaeth am gynghanedd a barddoniaeth gaeth.
Mabwysiadodd Eurig yr un technegau mewn gweithdai i gyflwyno’r gynghanedd fel crefft gynhwysol i blant ysgol gynradd yn Delhi, India. Roedd y gweithdai wedi defnyddio cyflwyniad Saesneg unigryw a hygyrch Eurig i’r gynghanedd mewn casgliad o farddoniaeth a ysgrifennodd ar y cyd ag un o feirdd Saesneg mwyaf blaenllaw India, Sampurna Chattarji. The Bhyabachyacka and Other Wild Poems yw’r tro cyntaf erioed i egwyddorion y gynghanedd gael eu hamlinellu a’u cyhoeddi mewn print i blant yn India.
Mae ymchwil Eurig wedi cael effaith arwyddocaol ar gynulleidfaoedd cyhoeddus ac ar sefydliadau diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt.
Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect Talwrn y Beirdd Ifanc, lansiodd yr Urdd ei chystadleuaeth ei hun, Talwrn yr Ifanc, mewn partneriaeth â BBC Radio Cymru ym mis Tachwedd 2020. Yn ogystal, comisiynodd BBC Radio Cymru rifyn arbennig o Talwrn y Beirdd Ifanc a gydlynwyd gan Eurig ac a seiliwyd ar lwyddiant ei fersiwn wreiddiol, unwaith eto’n tanlinellu effaith ei ymchwil ar y celfyddydau yng Nghymru.
Mae gwaith Eurig yn estyn cyrhaeddiad barddoniaeth gaeth Gymraeg i feysydd nad ydynt, ar yr olwg gyntaf, yn farddol nac yn llenyddol eu natur. Defnyddiodd Cymdeithas Adeiladu Nationwide y gerdd ‘Weithie’, cerdd Gymraeg a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd ar y cyd â’r bardd Aneirin Karadog, mewn ymgyrch farchnata deledu a ddarlledwyd yn y Deyrnas Unedig gyfan. Drwy ddarlledu’r hysbyseb heb is-deitlau Saesneg, roedd Nationwide am bwysleisio gallu barddoniaeth i fod yn gyfrwng cymdeithasol i gyfleu neges allweddol y banc ynglŷn â theyrngarwch a chyfeillgarwch. Ym mis Tachwedd 2020, derbyniodd Eurig gomisiwn gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality (prif noddwyr Stadiwm y Principality) i ysgrifennu cerddi a ddarllenwyd gan Cerys Matthews ac a ddarlledwyd fel rhan o ymgyrch radio a theledu i godi calonnau cefnogwyr rygbi Cymru yn ystod pandemig COVID-19.
Mae Eurig hefyd wedi datblygu partneriaethau creadigol ar y llwyfan rhyngwladol ar brosiectau cydweithredol yng Ngwlad y Basg ac yn India, ac mae’r rhain wedi arwain at ddealltwriaeth ehangach o ddiwylliant llenyddol Cymru. Wedi iddo gymryd rhan yn un o sesiynau Eurig yn India, ysbrydolwyd y dawnsiwr a’r coreograffydd adnabyddus o Kolkata, Vikram Iyengar, i archwilio’r cysylltiadau rhwng barddoniaeth gaeth a chonfensiynau a rheolau caeth kathak, dawns draddodiadol o India.
Cysylltwch â Ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:
ymchwil@aber.ac.uk
Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Diwylliant