Dod â Seryddiaeth i Flaen y Gad ym Mywyd Diwylliannol Cymru

Ymchwilwyr
Yr Athro Eleri Pryse 
Yr Athro Huw Morgan

Trosolwg

Mae grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio’r gadwyn o ddigwyddiadau sy’n arwain o’r haul, trwy wynt yr haul, i atmosffer ac arwynebau’r planedau. Mae’r gwaith ymchwil sy’n cael ei gynnal gan y grŵp o safon ryngwladol, yn benodol ffiseg atmosfferig yr haul, tywydd y gofod a ffiseg ionosfferig planedol. Mae hyn wedi helpu i sicrhau cyllid gan y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, drwy gronfa allgymorth ac ymgysylltu RAS200 Sky & Earth, i gyflwyno seryddiaeth i ysgolion a digwyddiadau diwylliannol ledled Cymru.

Yr Ymchwil

Dechreuodd grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul brosiect uchelgeisiol i ddefnyddio digwyddiadau diwylliannol Cymru fel cyfrwng i gyflwyno themâu gwyddonol i gynulleidfa ehangach, gan arwain y prosiect RAS200, ‘Seryddiaeth a Geoffiseg drwy Ddiwylliant Traddodiadol Cymru’. Cyflwynodd seryddiaeth i ysgolion a digwyddiadau diwylliannol ar ffurf gweithdai, cystadlaethau a digwyddiadau creadigol niferus, gan gyrraedd miloedd o gyfranogwyr a chynulleidfaoedd o ddegau o filoedd. Mae hyn yn parhau y tu hwnt i oes y prosiect, ac mae wedi esgor ar waddol o gyhoeddiadau artistig ar thema wyddonol gan gynnwys cerddoriaeth, gwaith celf a llyfrau.

"Mae cydweithio gyda seryddwyr Aberystwyth... wedi rhoi ysgogiad newydd i fy ngwaith creadigol, a hyn wedi arwain yn uniongyrchol at Lloerganiadau. Yn ogystal, mae Huw Morgan wedi rhoi arweiniad gwyddonol manwl i mi ar nifer o agweddau. Mae hyn yn rhoi hyder i mi o gyflwyno'r gwyddoniaeth yn gywir ac yn gredadwy."

Fflur Dafydd, Cerddor, Dramodydd a Nofelydd

Yr Effaith

Effaith ar Artistiaid Proffesiynol

Mae’r prosiect wedi comisiynu nifer o weithiau creadigol yn seiliedig ar themâu seryddol: celfyddyd gosodwaith, cyngherddau cerddorol a barddoniaeth. Mae gweithiau newydd gan gerddorion, dawnswyr a beirdd blaenllaw, sy’n seiliedig yn bennaf ar themâu a ddatblygwyd mewn trafodaeth ag Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, wedi cyrraedd cynulleidfaoedd mawr. Penllanw’r prosiect oedd cyngerdd theatrig cerddorol Lloergan yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a oedd yn cyfuno cyfoeth diwylliannol a gwyddonol Cymru. Nododd y cyfarwyddwr Fflur Dafydd (cerddor, dramodydd a nofelydd) fod darganfyddiadau seryddol a gwyddonol wedi bod yn rhan ganolog o’r broses greadigol a bod trafodaethau gyda gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn hanfodol i’r prosiect. Cydnabu’r cyfarwyddwr cerdd Griff Lynch (canwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd teledu) hefyd fod mewnbwn y gwyddonwyr wedi bod yn hanfodol wrth greu’r fframwaith ar gyfer gweledigaeth gerddorol y sioe.

Effaith ar Ddysgwyr

Cynhaliwyd gweithdai thematig mewn ysgolion, dan arweiniad artistiaid, cerddorion neu feirdd, gyda chymorth gwyddoniaeth sylfaenol gan aelodau’r prosiect. Cynhyrchwyd wyth gweithdy gwahanol, mewn 26 o ysgolion ar gyfer dros fil o blant, gan greu gweithiau creadigol i’w perfformio neu eu harddangos mewn Eisteddfodau, a chafwyd sylw sylweddol yn y cyfryngau. Llwyddodd y gweithdai i danio dychymyg y plant. Roedd y prosiect hefyd yn darparu adnoddau ar-lein i fyfyrwyr addysg uwch drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Effaith ar Sefydliadau

Mae Pafiliwn Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol wedi datblygu’n Bentref Gwyddoniaeth, gyda gweithgareddau sy’n cynnig dimensiwn ffres a newydd i’r ŵyl ddiwylliannol hon. Mae gwyddonwyr wedi hawlio lle amlwg o fewn y sefydliad, gyda’r Athro Eleri Pryse a’r Athro Andrew Evans yn aelodau o Bwyllgor Canolog yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae twf digwyddiadau a themâu gwyddonol ar Faes Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn bwysig wrth ddenu cynulleidfa newydd. O ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect, mae seryddiaeth wedi dod yn ganolog i lawer o gystadlaethau Crefft, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod yr Urdd. Mae tua 25,000 o blant ac oedolion wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddonol ac mae’r cyfranogwyr dan sylw wedi meithrin balchder, grym a hyder.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Diwylliant