Datblygu cnydau cipio carbon i daclo newid hinsaswdd
Newid hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein planed. Wrth i’r tymheredd gynhesu’n fyd-eang, rydyn ni’n gweld cynnydd yn lefelau’r môr, cwymp mewn bioamrywiaeth, pwysau ar sicrhau bwyd a dŵr croyw ar gyfer poblogaeth y byd sy'n tyfu'n barhaus, mwy o lifogydd, sychdŵr, tanau coedwig ac amodau tywydd eithafol eraill.
Un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at newid hinsawdd yw’r cynnydd enfawr mewn crynodiad carbon deuocsid (CO2) yn yr atmosffer ers y Chwyldro Diwydiannol. Mae lefelau wedi dyblu dros y 200 mlynedd diwethaf o ganlyniad i weithgareddau pobl fel llosgi tanwydd ffosil, torri coedwigoedd ac amaethyddiaeth ddwys i fwydo poblogaeth sy'n ehangu. Dyna pam mae gwyddonwyr amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio eu hymchwil ar wrthdroi cynhesu byd-eang trwy harneisio gallu rhyfeddol planhigion i dynnu CO2 o’r atmosffer.
Dan arweiniad yr Athro Iain Donnison, Pennaeth Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), mae ein gwyddonwyr yn bridio mathau newydd o blanhigion sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n defnyddio eu prosesau ffotosynthesis naturiol i amsugno CO2. Gall y carbon a gymerir o'r aer ar ffurf biomas planhigion naill ai gael ei drawsnewid yn gynnyrch ar gyfer deunyddiau adeiladu, ei droi'n fiodanwydd i gymryd lle glo yn y diwydiant cynhyrchu dur, neu ei ddefnyddio i gynhyrchu bio-ynni gyda'r carbon deuocsid yn cael ei ddal a'i storio o dan y ddaear.
Mae ymchwilwyr eisoes wedi datblygu mathau newydd o laswelltau trofannol sy'n tyfu'n gyflym fel Miscanthus sy’n gallu tyfu'n hwylus yn y Deyrnas Unedig fel cnwd biomas. Cyfeirir at Miscanthus yn aml fel ‘glaswellt eliffant’ oherwydd ei daldra. Gall dyfu hyd at bedwar metr mewn un flwyddyn ac mae’n ffynnu ar dir sy’n llai addas ar gyfer cnydau bwyd.
Gwneud gwahaniaeth
Mae canfyddiadau'r ymchwil sy'n cael ei wneud yn Aberystwyth yn cael eu rhannu â llywodraethau a sefydliadau eraill fel rhan o'r ymdrech i gyrraedd targedau sero net.
Mae’r Athro Donnison wedi darparu tystiolaeth arbenigol i bwyllgorau llywodraeth, gan gynnwys cyfrannu, er enghraifft, at adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru yn 2024 ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a Nodyn Briffio Ymchwil i Bwyllgor Hinsawdd Senedd y DU ar gyfer eu hadroddiad yn 2023 ar Fiomas ar gyfer ynni'r DU. Bu hefyd yn aelod o grŵp cynghori arbenigol defnydd tir y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer eu hadroddiad arwyddocaol yn 2020 ar Ddefnydd Tir: Polisïau ar gyfer Net Zero UK.
“Mae’r cynnydd parhaus mewn lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer yn fygythiad gwirioneddol i’r byd naturiol ydyn ni gyd yn byw ynddo ac yn dibynnu arno am ein bwyd, dŵr, lles a llawer mwy. Mae’n hollbwysig felly ein bod yn mynd i’r afael â’r allyriadau nwyon tŷ gwydr hyn ac yn atal cynhesu byd-eang tra’n parhau i fodloni’r galw byd-eang am fwyd ac ynni yn gynaliadwy” eglura’r Athro Donnison.
“Yn IBERS, rydym yn datblygu ystod o blanhigion sydd nid yn unig yn tynnu carbon deuocsid o’r aer ond sydd hefyd yn gadael ôl troed carbon isel iawn y tu ôl iddynt. Mae'r planhigion hyn, er enghraifft, yn gallu cynhyrchu hyd at 40 gwaith yn fwy na'r egni sydd ei angen i'w cynhyrchu.
“Rydym yn mynd â’n canfyddiadau y tu hwnt i’r labordy a’n plotiau ymchwil arbrofol er mwyn gall gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn, gan gynnig llwybr i’r diwydiannau ffermio ac ynni tuag at ddatgarboneiddio a chreu twf economaidd gwyrdd. Mae ein gwaith hefyd yn helpu llywodraethau Cymru a’r DU i gyrraedd eu targedau allyriadau carbon sero net yn ogystal â darparu llwybr i gymdeithas wneud yn iawn am allyriadau carbon deuocsid y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.”
Ymgysylltiad Byd-eang
Mae gwyddonwyr yn IBERS a’i rhagflaenydd, Bridfa Blanhigion Cymru, wedi bod yn cynnal ymchwil arloesol sy’n sail i fridio amrywiaethau newydd a gwell o gnydau ers dros ganrif, gan wneud amaethyddiaeth yn fwy cynaliadwy a galluogi diwydiant i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd ar draws y byd.
Mae ymchwil graidd yr Athrofa yn canolbwyntio ar wneud cnydau’n fwy gwydn i heriau newid hinsawdd, gwella ansawdd cnydau, diogelu amrywiaeth genetig, dal carbon, a datblygu dealltwriaeth o’r rhyngweithio ehangach rhwng amaethyddiaeth a’r amgylchedd.
Ychwanegodd yr Athro Donnison: “Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda diwydiant i fynd i’r afael â heriau byd-eang, yn ymgysylltu â llunwyr polisi a’r gymuned amaethyddol ehangach i ddeall y materion hollbwysig yn well ac yna’n gweithio ar y cyd i ddod o hyd i atebion a chymhwyso ein biowyddoniaeth i helpu i adeiladu gwell yfory.”
Manylion pellach
Dolenni at erthyglau newyddion diweddar…
Cysylltwch â ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at: