Gwobr Pen-blwydd y Frenhines - Ymchwil Parasitoleg Arloesol
Gwarchod pobl, anifeiliaid ac economïau rhag llyngyr parasitig niweidiol
Mae llyngyr parasitig yn achosi rhai o’r clefydau heintus mwyaf andwyol, llesgaidd a chronig ymhlith pobl ac anifeiliaid ledled y byd. Maen nhw’n lladd miloedd o bobl ac anifeiliaid yn flynyddol, yn arwain at ddioddefaint miliynau’n fwy ac yn cyfrannu at ddatblygiad afiechydon cronig fel canser. O ran diogelwch bwyd a chnydau, mae llyngyr parasitig hefyd yn bygwth ein gallu i fwydo poblogaeth gynyddol y blaned ac yn achosi colledion economaidd sylweddol ym mhob gwlad sy’n cynhyrchu bwyd.
Mewn maes ymchwil sydd wedi cael llai o sylw nag eraill, mae gwyddonwyr yma ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi canolbwyntio ar astudio grŵp penodol o lyngyr parasitig - sef llyngyr lledog parasitig. Drwy gyfuno arbenigedd parasitolegwyr amaethyddol a biolegol, mae’r Brifysgol wedi ennill bri rhyngwladol fel un o lond llaw o ganolfannau yn y byd sydd wedi mynd i’r afael ag effaith ddinistriol llyngyr lledog parasitig ar bobl, anifeiliaid ac economïau.
Cafodd safon eu hymchwil ei gydnabod yn rhestr Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines 2023-24. Dyma’r Anrhydedd uchaf ym myd addysg yn y Deyrnas Gyfunol ac fe’i dyfernir i brifysgolion a cholegau am waith clodwiw sy’n amlygu rhagoriaeth, arloesedd a budd i’r byd ehangach.
Adeiladu ar seiliau’r gorffennol
Mae parasitoleg wedi bod yn destun astudiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ers dros ganrif, gan ddyddio nôl i gyfnod yr Athro Gwendolen Rees – y fenyw gyntaf yng Nghymru i’w hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.
Gan adeiladu ar ymchwil ac arloesi yn y gorffennol, mae’n gwyddonwyr wedi meithrin dealltwriaeth uwch o fioleg llyngyr lledog sylfaenol ar draws y byd. Maen nhw wedi dadansoddi cylchoedd bywyd cymhleth a rhyngweithiadau lletyol y parasitiaid hyn i lefel ddigynsail o fanylder er mwyn gallu nodi gwendidau a’u targedu gyda brechlynnau neu gyffuriau newydd. Maen nhw hefyd wedi torri tir newydd o ran datblygu methodolegau arloesol i ddylanwadu ar a datblygu llwybrau tuag at frechlynnau, dulliau diagnostig a chanfod cyffuriau newydd yn ogystal â chreu prosesau sgrinio, canfod a thriniaeth feddygol i arbed bywydau a diogelu cynhyrchiant bwyd.
Yn hollbwysig, mae’n gwyddonwyr yn rhannu canfyddiadau eu gwaith trawsnewidiol yn eang â phartneriaid academaidd a diwydiant er mwyn cyfrannu at welliannau iechyd byd-eang ac er budd cymdeithas. Maen nhw ar flaen y gad yn rhyngwladol o ran datblygu dulliau moleciwlaidd soffistigedig ar gyfer canfod llyngyr lledog parasitig ar dir pori, ysgogi’r gwaith o fireinio arferion rheoli fferm ar lefel y ddaear a chwyldroi dulliau o ganfod un o glefydau mwyaf endemig y diwydiant da byw. Yn ogystal, maen nhw wedi harneisio Deallusrwydd Artiffisial i gyflymu’r broses o adnabod cyfansoddion newydd a dyma’r llwyfan darganfod cyffuriau anthelmintig mwyaf soffistigedig o’i fath yn y Deyrnas Gyfunol sy’n canolbwyntio ar lyngyr lledog parasitig.
Gan weithio gydag eraill, partneriaid allanol o ddiwydiant yn ogystal â’r byd academaidd, mae patentau’n seiliedig ar Eiddo Deallusol y Brifysgol yn yr arfaeth mewn sawl cyfandir ac mae dosbarth cyfansawdd newydd mewn treialon effeithiolrwydd rhag-glinigol ar hyn o bryd.
Sgistosomiasis a Ffasgiolosis
Mae’r llyngyr gwaed sy’n achosi afiechyd niweidiol sgistosomiasis yn cael eu hastudio yn labordai’r Adran Gwyddorau Bywyd.
Oherwydd y beichiau economaidd ac iechyd sylweddol a ddaw yn eu sgil, y ddwy brif rywogaeth o lyngyr lledog parasitig a dargedir gan wyddonwyr y Brifysgol hon yw llyngyr y gwaed Schistosoma mansoni a llyngyr yr iau Fasciola hepatica.
Mae S. mansoni yn achosi sgistosomiasis, clefyd trofannol sydd wedi'i esgeuluso sy'n lledaenu fel arfer trwy gysylltiad â dŵr ffres wedi'i halogi ac sy'n effeithio'n bennaf ar Affrica, Asia a De America, er iddo gael ei fewnforio i Dde Ewrop yn ddiweddar. Mae'n lladd miloedd o bobl ac yn heintio mwy na 200 miliwn o unigolion bob blwyddyn, gan achosi symptomau hirdymor cronig sy'n atal pobl rhag byw bywydau cynhyrchiol.
Llyngyr yr Iau
Mae rhai o ymchwilwyr a thechnegwyr Adran Gwyddorau Bywyd yn gweithio gyda ffermwyr fel rhan o’u gwaith ar y llyngyr lledog parasitig sy’n achosi llyngyr yr iau a’r rwmen mewn da byw.
Yn fyd-eang, mae F. hepatica yn heintio mwy na 300 miliwn o wartheg a 250 miliwn o ddefaid gan achosi’r clefyd ffasgiolosis ac arwain at golledion amaethyddol byd-eang o dros £2.5 biliwn y flwyddyn. Yn y DG yn unig, mae cost ffasgiolosis i’r diwydiant gwartheg yn agos at £23m y flwyddyn.
Ar gyfer y naill glefyd a’r llall, mae triniaeth yn dibynnu'n bennaf ar un cyffur - praziquantel ar gyfer sgistosomiasis a triclabendazole ar gyfer ffasgiolosis. Mae'n destun pryder bod tystiolaeth ynghylch ymwrthedd i'r ddau gyffur hyn ar gynnydd, gan lesteirio ymdrechion rheolaeth gynaliadwy yn sylweddol. At hynny, nid oes brechlyn ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y naill glefyd na’r llall, ac mae canfod y ddwy rywogaeth llyngyr lledog wedi bod yn ddibynnol ar dechnolegau ansensitif, amhenodol, sy’n cymryd llawer o amser.
Gan ddefnyddio technegau arloesol, ein gwyddonwyr ni oedd y cyntaf yn y byd i ddadadeiladu cyfansoddiad y llyngyr lledog parasitig hyn ar lefel foleciwlaidd a defnyddio’r wybodaeth arloesol yma i ddod o hy i wendidau y gellir eu targedu â brechlynnau neu gyffuriau newydd. Mae nhw hefyd wedi arloesi gyda methodolegau sensitif newydd ar gyfer canfod y parasitiaid yn yr amgylchedd, ac mae eu dulliau bellach yn cael eu defnyddio i fireinio arferion rheoli fferm a strategaethau i atal da byw rhag cael eu heintio. Hyd yma, ar ffermydd yng Nghymru y mae llawer o’r gwaith yma wedi digwydd, er lles uniongyrchol iechyd anifeiliaid a busnesau ffermio’n fwy cyffredinol. Y nod nawr yw eu cyflwyno ar raddfa rhyngwladol.
Cyfnewid Gwybodaeth
Yn y DG dros y 15 mlynedd diwethaf, mae gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth a datblygiad proffesiynol parhaus wedi’u cyflwyno i dros 1,300 o filfeddygon, ffermwyr ac eraill yn y sector gwledig ac mae’r gwaith allgymorth hwn yn parhau fel rhan o raglen ehangach i leihau effeithiau niweidiol llyngyr lledog parasitig mewn anifeiliaid.
Wrth chwilio am driniaethau newydd ar gyfer y clefyd trofannol sgistosomiasis, sy'n effeithio ar gynifer o bobl bob blwyddyn, mae’n gwyddonwyr wedi creu ac yn parhau i gynnal cylch bywyd mwyaf hirhoedlog y parasit S. mansoni yn y DU. Drwy’r gwaith hwn ac ymdrechion eraill, maen nhw wedi ennyn enw da fel canolfan bwysig o ran darparu deunydd parasitiaid o ansawdd uchel i sefydliadau gwyddonol ac academaidd eraill, gan alluogi gweithgareddau ymchwil, addysgu a diagnostig ehangach i gael eu cynnal ledled y DG a thu hwnt.
Mae egwyddorion cyfnewid gwybodaeth a rhannu arbenigedd er budd ehangach wedi’u gwreiddio oddi mewn i Ganolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr ac fe’u hamlygir ymhellach yn y gwaith addysg ac allgymorth parhaus a wneir yn y DU ac yn fyd-eang gan ein gwyddonwyr.
Oriel Luniau
Mae'r oriel yma o luniau yn dangos rhai o dimau gwahanol ein parasitolegwyr wrth eu gwaith naill ai yn eu labordai ar gampws Penglais neu allan yn y maes ar dir amaethyddol:
Gwybodaeth Ychwanegol
Os hoffech ganfod mwy am waith ein parasitolegwyr, defnyddiwch y dolenni isod neu e-bostiwch drbi@aber.ac.uk