Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) 2021
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) yw’r system i asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwchradd yn y DU. Wedi’i gyflawni’r tro diwethaf yn 2021, mae’r asesiad yn:
- Rhoi cyfarwyddyd i ddosbarthiad detholus o noddiant ymchwil (Ymchwil o Ansawdd - Quality Research - QR) gan y pedwar corff sy’n noddi ymchwil addysg uwchradd, gan gynnws CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), i sefydliadau addysg uwchradd ers 2022.
- Darparu atebolrwydd ar gyfer buddsoddiant cyhoeddus mewn ymchwil a chynhyrchu tystiolaeth o elwau’r buddsoddiant hwn.
- Darparu gwybodaeth feincnodi a ffyn mesur enw da, i'w defnyddio o fewn y sector addysg uwchradd ac ar gyfer gwybodaeth gyhoeddus.
Asesir tair elfen wahanol: ansawdd allbynnau ymchwil (60%), effaith ymchwil y tu hwnt i'r byd academaidd (25%), a’r amgylchedd sy’n cefnogi ymchwil (15%).
Gwnaethpwyd asesiadau ar raddfa 5 pwynt, 4*-U.
- 4* Ansawdd sy’n arwain y byd o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a manylrwydd.
- 3* Ansawdd sy’n arwain y byd o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a manylrwydd ond sy’n methu digoni’r safonau uchaf o ragoriaeth.
- 2* Ansawdd sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a manylrwydd.
- 1* Ansawdd sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a manylrwydd.
- Diddosbarth. Ansawdd sy’n syrthio’n is na safon y gwaith sy’n cael ei adnabod yn genedlaethol.
Cynnydd arwyddocaol yng nghyfran yr ymchwil yn Aberystwyth sydd yn y dosbarthiadau ‘arwain y byd’ a ‘rhyngwladol ragorol’
Mae canlyniadau FfRhY 2021 yn dangos bod ansawdd ymchwil yn Aberystwyth wedi codi ers yr asesiad diwethaf yn 2014, gyda 98% o’n gweithgareddau ymchwil o safon wedi’i adnabod yn rhyngwladol neu’n uwch, o fewn y 14 Uned Asesu i gyd a aseswyd.
Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod mwy na thri thraean o’n hymchwil wedi’i roi yn y categori naill ai fel sy’n arwain yn rhyngwladol (4*) neu sy’n rhyngwladol ragorol (3*), sef cynnydd o 9 y cant dros FfRhY 2014.