Porth Ymchwil Aberystwyth

Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim.

Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Mae'r porth hefyd yn cynnwys Proffiliau Personol o'r holl staff a myfyrwyr ymchwil cyfredol. Gall borwyr y Porth weld yr holl gynnwys ymchwil perthnasol sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw ar un dudalen. Gallent hefyd bori fesul adran.

Mae argaeledd y cyhoedd o ddata personol o'r fath yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd - Datganiad Prosesau Data - Data Gweithwyr, pwynt 7.

 

Archwilio’r Porth Ymchwil Aberystwyth

Gellir archwilio’n unigol yr holl fathau o gynnwys drwy Borth Ymchwil Aberystwyth gan ddethol yr opsiwn ar y ddewislen ar y chwith. Mae gan pob math o gynnwys ei opsiwn Chwilio Manwl, sy’n eich galluogi i fireinio’r canlyniadau. Gallwch ddidoli’r rhan fwyaf o’r mathau cynnwys gyda’r opsiynau ar yr ochr dde.

Eitemau Mynediad Agored

Mae gan sawl allbwn ymchwil; traethodau a chofnodion set data, gopïau o’r eitem ynghlwm a’r cofnod. Dangosir hyn gyda symbol clip-papur i’r dde or gofnod yn y rhestr canlyniadau. Ble mae copi o’r allbwn ymchwil yn rhad ac am ddim fe geir ei nodi fel ‘Mynediad Agored’. O fewn y gofnod unigol i’r eitem, dangosir y copi ar gael ar waelod y dudalen.

Eitemau dan embargo

Mae’n bosib y bydd rhai allbynnau ymchwil, traethodau a chofnodion set data, â chynnwys dan embargo, fe nodir hyn gyda symbol clip papur wedi ei groesi allan ar ochr dde i’r eitem yn y rhestr canlyniadau. Mae’n bosib ‘ceisio copi’ o’r ffeil drwy’r cyswllt e-bostiwch-at o fewn y cofnod unigol i’r eitem ar waelod y dudalen.

Ceisiadau am ddefnyddio offer

Mae sawl eitem o offer a restrir o fewn y porth ar gael i’w benthyg, dangosir hyn o fewn y gofnod unigol. Mae’n bosib ‘ceisio ddefnyddio’ darn o offer drwy’r cyswllt e-bostiwch-at o fewn y cofnod unigol i’r eitem ar waelod y dudalen.

Ail Ddefnyddio

Rhaid i chi dderbyn y telerau ac amodau canlynol i gael defnyddio’r deunydd ym Mhorth Ymchwil Aberystwyth:

  1. Mae hawlfraint yn bodoli (a gall hawliau eiddo deallusol eraill fodoli) yn y deunydd sy’n cael ei gadw ym Mhorth Ymchwil Aberystwyth ac mewn unrhyw fetadata cysylltiedig, ac mae’r holl awduron yn mynnu eu hawl moesol i gael eu cydnabod yn awduron.
  2. c eithrio traethodau ymchwil, ac oni nodir yn wahanol, mae’r cynnwys ym Mhorth Ymchwil Aberystwyth ar gael o dan y Drwydded Eiddo Creative Commons BY Licence. Mae traethodau ymchwil ar gael i ddibenion astudio preifat anfasnachol neu ymchwil, a gellir eu copïo yn unol â hynny.
  3. Ni chaniateir atgynhyrchu, dosbarthu, neu gyhoeddi unrhyw ddeunyddiau o Borth Ymchwil Aberystwyth (neu unrhyw ran ohonynt) a gedwir ar ffurf argraffedig neu electronig, oni bai eich bod wedi cael caniatâd perchennog/perchnogion yr hawliau, neu os yw trwydded yr eitem benodol honno yn caniatáu hynny (h.y. os yw’r deunydd o dan drwydded Eiddo Creadigol Cyffredin neu drwydded gyffelyb, fel y nodir ar yr eitem neu yn y metadata).
  4. Darperir cynnwys y Porth Ymchwil Aberystwyth "fel ag y mae" ac nid oes modd i ni warantu ei fod yn gywir, yn gyfoes nac yn gynhwysfawr.
  5. Rydych yn cytuno i beidio â chamddefnyddio unrhyw ddata a geir ar y Porth Ymchwil, neu ddefnyddio neu geisio defnyddio unrhyw ddata o’r fath i beryglu, neu dorri cyfrinachedd unigolion, teuluoedd neu sefydliadau mewn unrhyw fodd.
  6. Rydych yn cytuno i gydnabod yr awdur/creawdwr gwreiddiol perthnasol, a’r cyhoeddwr mewn unrhyw gyhoeddiad printiedig, electronig, neu ddarllediad sy’n rhannol neu’n gyfan gwbl seiliedig ar ddeunydd Porth Ymchwil Aberystwyth (gan gynnwys defnyddio dyfyniadau).

Os oes gennych ymholiadau mewn perthynas i ailddefnyddio deunyddiau ar Borth Ymchwil Aberystwyth cysylltwch a is@aber.ac.uk.

Polisi Tynnu-Allan

Ystyrir Prifysgol Aberystwyth gael gwared ar unrhyw ddeunydd ar ôl eu hysbysu a derbyn ymholiad neu gŵyn.

Mae cwynion yn cynnwys cyswllt gan y perchennog neu’i gynrychiolydd gyda hawliau eiddo deallusol ar ran neu’r oll or adnodd; creawdwr yr holl neu rhan o adnodd sydd â hawliau moesol neu unrhyw unigolyn neu sefydliad sy'n credu bod unrhyw un o'r deunydd a gedwir ar Borth Ymchwil Aberystwyth, mewn rhyw ffordd yn anghyfreithlon neu'n drosedd.

Gall hysbysiad cwynion gynnwys:

  • Defnydd anawdurdodol drwy ailgynhyrchu ac/neu darparu deunydd gwarchodedig.
  • Torri'r hawl moesol (e.e. perchnogaeth/ uniondeb / yr hawl i beidio â chael gwaith yn destun triniaeth ddiddymol).
  • Materion heblaw am hawlfraint a / neu hawliau cysylltiedig (ee difenwi, torri cyfrinachedd, diogelu data).

Er mwyn gwneud y fath gŵyn, dylai'r achwynydd anfon e-bost at y rheolwr metadata yn is@aber.ac.uk gan nodi'r eitem benodol sy'n destun y cwyn a'r rhesymau dros y gŵyn. Ar ôl derbyn y gŵyn, bydd y rheolwr metadata yn gwneud asesiad cychwynnol o ddilysrwydd y gŵyn a bydd yn cydnabod ei dderbyn

Ble mae’r gŵyn yn ddilys ac i’w weithredu, dilëir am gyfnod y cynnwys sy’n destun y cwyn o’r porth ymchwil tra’n disgwyl datrysiad.

Yna bydd y rheolwr metadata'n ceisio cysylltu â chyfrannwr y deunydd a hysbysu iddynt fod yr eitem yn destun cwyn, o dan ba honiadau a chânt eu hannog i fynd i'r afael â phryderon yr achwynydd. Bydd y rheolwr metadata yn treulio amser rhesymol yn ceisio datrys y broblem trwy gyfryngu rhwng yr achwynydd a'r cyfrannwr. Gwneir pob ymdrech i ddatrys y mater yn gyflym ac yn gyfeillgar i foddhad yr achwynydd a'r cyfrannwr.

Gall unrhyw benderfyniad a gytunir trwy gyfryngu rhwng pleidiau gynnwys un o'r canlyniadau canlynol:

  • Gall yr adnodd aros yn y porth ymchwil heb ei newid.
  • Diwygir yr adnodd a'i ddisodli yn y porth ymchwil neu fe'i gwneir yn gyfyngedig i fynediad.
  • Mae'r adnodd yn cael ei dynnu'n barhaol o'r porth ymchwil.

Gwybodaeth gyswllt

Am unrhyw gymorth neu ymholiad mewn perthynas â Phorth Ymchwil Aberystwyth, cysylltwch â'r Gwasanaethau Gwybodaeth trwy:

e-bost: is@aber.ac.uk gyda Phorth Ymchwil Aberystwyth yn y pwnc;

Neu:

Ffôn: +44 (0)1970 62 2400, a gofynnwch i siarad ag aelod o staff am Borth Ymchwil Aberystwyth.