Ymchwil ar Waith

O gnydau sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd a lleihau lefelau carbon i wella ansawdd dŵr, llywio polisi iaith a chyfrannu at deithiau i’r gofod, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd. Mae’r cyfres o astudiaethau achos isod yn rhoi blas ar y gwaith arloesol sy'n cael ei wneud yma gan ymchwilwyr o bob disgyblaeth a sut mae’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas ehangach. Rydyn ni’n ychwanegu straeon yn gyson at y dudalen hon felly dewch yn ôl o bryd i’w gilydd i ddarllen y diweddaraf.

Technoleg rhith-realiti yn cynnig llwyfan newydd i ddrama radio

Mae technegau rhith-realiti rhyngweithiol a gemau fideo wedi rhoi bywyd newydd i ddrama radio am gymeriad sy'n chwilio am ei enaid.

Mae cynulleidfaoedd yn cael y cyfle i brofi’r ddrama Mapping the Soul mewn ffordd unigryw ac ymdrochol drwy wisgo clustffonau rhith-realiti (VR).

 

Darllen mwy

Diogelu Nepal rhag trychinebau naturiol

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol ar ddatrysiad a fydd yn helpu cynllunwyr i liniaru'r risgiau a achosir gan beryglon naturiol.

Ym mis Chwefror 2025, cafodd adnodd mapio aml-beryglon ei lansio a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer tirwedd gymhleth Nepal.

MiMapper yw’r adnodd ar-lein rhad ac am ddim cyntaf o’i fath i ddwyn ynghyd, mewn un lle ac ar gyfer un wlad, gyfres gynhwysfawr o setiau data cydraniad uchel ac offer dadansoddi gofodol cadarn.

Darllen mwy

Ymchwilio i effeithiau Covid-19 ar addysg Gymraeg

Roedd cyfnodau clo pandemig Covid-19 yn heriol i ystod eang o bobl a sectorau, gan gynnwys ysgolion. Bu’n rhaid i athrawon a disgyblion ymdopi’n gyflym gyda’r drefn newydd o weithio o gartref a dysgu ac addysgu o bell. Ymhlith yr heriau ychwanegol oedd yn wynebu ysgolion cyfrwng Cymraeg ar y pryd roedd estyn cefnogaeth i blant o gartrefi di-Gymraeg.

Yn dilyn y cyfnod clo cyntaf yn 2020, aeth ymchwilwyr yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth ati i edrych yn fanylach ar yr effaith gafodd y pandemig ar addysg disgyblion. Gan weithio mewn partneriaeth gyda sawl prifysgol arall yng Nghymru a gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, aethpwyd ati i lunio tair astudiaeth arbennig.

Darllen mwy

Datblygu cnydau cipio carbon i daclo newid hinsaswdd

Mae ein gwyddonwyr yn bridio mathau newydd o blanhigion sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n defnyddio eu prosesau ffotosynthesis naturiol i amsugno CO2. Gall y carbon a gymerir o'r aer ar ffurf biomas planhigion naill ai gael ei drawsnewid yn gynnyrch ar gyfer deunyddiau adeiladu, ei droi'n fiodanwydd i gymryd lle glo yn y diwydiant cynhyrchu dur, neu ei ddefnyddio i gynhyrchu bio-ynni gyda'r carbon deuocsid yn cael ei ddal a'i storio o dan y ddaear.

Mae ymchwilwyr eisoes wedi datblygu mathau newydd o laswelltau trofannol sy'n tyfu'n gyflym fel Miscanthus sy’n gallu tyfu'n hwylus yn y Deyrnas Unedig fel cnwd biomas. Cyfeirir at Miscanthus yn aml fel ‘glaswellt eliffant’ oherwydd ei daldra. Gall dyfu hyd at bedwar metr mewn un flwyddyn ac mae’n ffynnu ar dir sy’n llai addas ar gyfer cnydau bwyd.

Darllen mwy

Diogelu adnoddau byd natur

“Cynorthwyo llywodraethau a llunwyr polisi i wneud penderfyniadau gwell, mwy cynaliadwy sy’n amddiffyn natur a phobl y blaned hon fel ei gilydd”

Mae byd natur o’n cwmpas ym mhobman ond ar adeg pan mae cynefinoedd yn diflannu a hyd at filiwn o rywogaethau mewn peryg o ddiflannu, ydyn ni bob amser yn gwerthfawrogi’r ystod lawn o fuddion yr ydym ni fel pobl yn eu cael o fyd natur? Ac a oes gormod o benderfyniadau am adnoddau naturiol ein planed yn cael eu gwneud am resymau elw tymor byr a thwf economaidd?

Dyma’r cwestiynau sydd wrth wraidd ymchwil Michael Christie yn rhinwedd ei swydd fel Athro Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Darllen mwy

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil 2021

Cliciwch ar y themâu isod i bori cyfres o astudiaethau achos a gyflwynwyd gan ein hymchwilwyr yn 2021 i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), sef proses o adolygu arbenigol a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig i asesu ansawdd yr ymchwil a wneir gan sefydliadau addysg uwch. Drwy ddangos effaith y wybodaeth newydd sy’n cael ei chynhyrchu gan ein academyddion, gallwn ddangos sut mae eu gwaith yn cael ei drosi i ddeilliannau yn y byd go iawn ac arwain at newid cadarnhaol.

Adroddiad Effaith Ymchwil

 

Mae’r llyfryn hwn yn rhoi cipolwg ar sut mae ymchwil ac arloesi yn Aberystwyth yn cyfrannu at gymdeithas a’r economi.