Mae gan Brifysgol Aberystwyth ystod eang o gyfarpar a chyfleusterau ymchwil; mae i ni hanes cadarn o gydweithio gyda sefydliadau a chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Hoffem hyrwyddo’r perthnasau hyntrwy sicrhau bod ein rhwydwaith ymchwil mewnol ar gael i'w ddefnyddio neu ei logi.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu prosiect gyfredol i gynhyrchu a chynnal catalog o’n cyfarpar a’n cyfleusterau ymchwil.
Bydd y catalog yn galluogi:
- Ymchwilwyr i adnabod adnoddau sydd eisoes yn bod i’w cynnwys er mwyn cefnogi cynigion ymchwil.
- Meithrin diwylliant o rannu; i wella effeithiolrwydd adnoddau.
- Agor ein hoffer a'n cyfleusterau i'r byd ehangach; caniatáu cydweithrediad newydd gyda diwydiant, sefydliadau, a meysydd eraill o'r economi fyd-eang.
Bwriad y catalog yw cael y gwerth a’r deunydd gorau posibl o’r cyfarpar sydd gennym tra’n osgoi’r gost o ddyblygu. Mae’r prosiect yn ymateb i ganllawiau newydd ar gyfer ceisiadau am grant i Gynghorau Ymchwil sy’n galw am ystyriaeth i rannu cyfarpar cyn i’r opsiwn o bwrcasu gael ei ystyried.
Mae catalog Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chadw yn ein System Gwybodaeth Ymchwil Gyfredol (CRIS): PURE. Mae ar gael i'w weld yma.