143. Labordy Ymchwil Goleuedd Aberystwyth
Yr Athro Helen Roberts, Yr Athro Geoff Duller

Namib Desert

Gellir defnyddio dyddio ymoleuedd i astudio dyddodion gwaddodol sy'n amrywio o rai cannoedd o flynyddoedd oed i rai cannoedd o filoedd o flynyddoedd oed.

Mae Labordy Ymchwil Goleuedd Aberystwyth wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ymoleuedd ers dros 30 mlynedd. Crëwyd y labordy ym 1989 gan yr Athro Ann Wintle, ac ers 2000 mae’n cael ei redeg gan yr Athro Geoff Duller a’r Athro Helen Roberts.

Mae aelodau’r labordy wedi arloesi gyda datblygiadau mawr yn y maes, ac maent yn parhau i wneud ymchwil sylfaenol i ddeall ffiseg y broses ymoleuedd mewn mwynau, dylunio offer a gweithdrefnau i fesur y signalau hyn, datblygu meddalwedd i ddadansoddi a phrosesu data, a chymhwyso’r techneg i faterion Cwaternaidd.

Mae rhannu’r wybodaeth hon yn hanfodol, felly mae’r grŵp wedi cynnal cwrs byr mewn Golau Ymoleuedd a chanllawiau ysgrifenedig ar gyfer defnyddio’r dechneg hon mewn archaeoleg, sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim fel meddalwedd perthnasol.

Aberystwyth Luminescence Research Laboratory

Trydar - AU DGES

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Helen Roberts

Yr Athro Geoff Duller

Adran Academaidd

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Nesaf
Blaenorol