90. Twbercwlosis buchol: canfod, diogelu a rheoli
Yr Athro Glyn Hewinson

 Bovine TB

Mae Twbercwlosis buchol (bTB) wedi’i ddisgrifio fel y broblem fwyaf sydd gennym yng Nghymru ym maes iechyd anifeiliaid.

Mae'r afiechyd yn cael effaith ariannol a chymdeithasol sylweddol ar fusnesau fferm ac ar y gymuned wledig yn ehangach. 

Mae TB buchol yn hynod o gostus i'r Llywodraeth o ran cost y rhaglen reoli ac iawndal i'r ceidwaid hynny y mae eu hanifeiliaid yn cael eu lladd yn sgil twbercwlosis buchol.

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol yn cael ei chefnogi gan Sêr Cymru II, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yr UE (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) a'r Brifysgol er mwyn cynyddu a datblygu arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru. 

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol yn rhoi cyngor annibynnol arbenigol i Lywodraeth Cymru ar reoli bTB a chynyddu gallu ar gyfer ymchwil da byw yng Nghymru drwy sefydlu labordai ymchwil milfeddygol o’r radd flaenaf.

Twbercwlosis buchol: canfod, diogelu a rheoli

YouTube  – Professor Glyn Hewinson, Head of the Centre of Excellence for Bovine TB

Trydar – VetHub1 | Canolfan a labordai milfeddygol1

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Glyn Hewinson

Adran Academaidd

Adran Gwyddorau Bywyd

Nesaf
Blaenorol