133. Tyfu Dyfi: Bwyd, Natur a Lles
Dr Sarah Higgins

Tyfu Dyfi

Mae mynediad at fwyd digonol yn hawl ddynol, a gall systemau bwyd lleol greu mwy o sicrwydd bwyd wrth ddod â chynnyrch o ansawdd gwell at y bwrdd.

Mae Tyfu Dyfi – Bwyd, Natur a Lles, prosiect peilot yng Ngwarchodfa Biosffer UNESCO Dyfi yn datblygu esiampl o ran cynhyrchu bwyd cynaliadwy lleol gan ddefnyddio arferion agroecolegol.

Nod hyn yw gwella diogelwch a gwydnwch bwyd lleol, tra'n cynyddu bioamrywiaeth a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae Dr Sarah Higgins yn gweithio gyda’r consortiwm a arweinir gan ecodyfi i nodi anghenion gwybodaeth ar gyfer y gadwyn gyflenwi agroecoleg, tuag at bensaernïaeth data gadarn i gynyddu llwyddiant y farchnad ar gyfer tyfwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol.

Partneriaid y prosiect: Ecodyfi, Prifysgol Aberystwyth, Garden Organics, Mach Maethlon, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Gwarged Bwyd Aberystwyth, Cyngor Cymuned Penparcau.

Ariannwyd y prosiect drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dyfi Biosphere – Tyfu Dyfi

Adran Astudiaethau Gwybodaeth

Trydar Tyfu Dyfi

Trydar – Information Studies

Mwy o wybodaeth

Dr Sarah Higgins

Adran Academaidd

Adran Astudiaethau Gwybodaeth

Nesaf
Blaenorol