150. Diogelu a Chefnogi Dioddefwyr Masnachu Pobl trwy'r Gyfraith a Pholisi
Yr Athro Ryszard Piotrowicz
Mae ymchwil yr Athro Ryszard Piotrowicz wedi cael effaith sylweddol ar gyfraith a pholisi masnachu mewn pobl mewn pedwar maes: monitro cydymffurfiaeth Gwladwriaethau â’u rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn Gwrth Fasnachu Cyngor Ewrop; llywio polisi'r wladwriaeth; gwreiddio'r egwyddor o beidio â chosbi pobl sydd wedi'u masnachu mewn systemau cyfreithiol cenedlaethol; a darparu hyfforddiant a chanllawiau i Wladwriaethau ar y materion cyfreithiol sy'n ymwneud â masnachu mewn pobl.
Arweiniodd hyn at newidiadau i gyfreithiau a pholisïau ar fasnachu mewn pobl. Dyfeisiodd a chyfrannodd hefyd at raglenni hyfforddi ar fasnachu mewn pobl ar gyfer gweision cyhoeddus, cyrff anllywodraethol a sefydliadau rhyngwladol.
Facebook - Aberystwyth Law and Criminology
Mwy o wybodaeth
Yr Athro Ryszard Piotrowicz
- E-bost: ryp@aber.ac.uk
- Proffil Staff - Yr Athro Ryszard Piotrowicz
- Proffil Porth Ymchwil - Yr Athro Ryszard Piotrowicz