143. Labordy Ymchwil Goleuedd Aberystwyth
Yr Athro Helen Roberts, Yr Athro Geoff Duller
Gellir defnyddio dyddio ymoleuedd i astudio dyddodion gwaddodol sy'n amrywio o rai cannoedd o flynyddoedd oed i rai cannoedd o filoedd o flynyddoedd oed.
Mae Labordy Ymchwil Goleuedd Aberystwyth wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ymoleuedd ers dros 30 mlynedd. Crëwyd y labordy ym 1989 gan yr Athro Ann Wintle, ac ers 2000 mae’n cael ei redeg gan yr Athro Geoff Duller a’r Athro Helen Roberts.
Mae aelodau’r labordy wedi arloesi gyda datblygiadau mawr yn y maes, ac maent yn parhau i wneud ymchwil sylfaenol i ddeall ffiseg y broses ymoleuedd mewn mwynau, dylunio offer a gweithdrefnau i fesur y signalau hyn, datblygu meddalwedd i ddadansoddi a phrosesu data, a chymhwyso’r techneg i faterion Cwaternaidd.
Mae rhannu’r wybodaeth hon yn hanfodol, felly mae’r grŵp wedi cynnal cwrs byr mewn Golau Ymoleuedd a chanllawiau ysgrifenedig ar gyfer defnyddio’r dechneg hon mewn archaeoleg, sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim fel meddalwedd perthnasol.
Mwy o wybodaeth
Yr Athro Helen Roberts
- E-bost: hmr@aber.ac.uk
- Proffil Staff - Yr Athro Helen Roberts
- Proffil Porth Ymchwil - Yr Athro Helen Roberts
Yr Athro Geoff Duller
- E-bost: ggd@aber.ac.uk
- Proffil Staff - Yr Athro Geoff Duller
- Proffil Porth Ymchwil - Yr Athro Geoff Duller