115. Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw
Dr Rita Singer, Yr Athro Peter Merriman, Yr Athro Rhys Jones
Mae basn Môr Iwerddon yn ffurfio cainc clir o hanes, economïau a hunaniaeth.
Mae prosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn ystyried pum porthladd gwahanol iawn a’u cymunedau ar naill ochr y môr: Porthladd Dulyn, Harbwr Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro.
Partneriaid y prosiect yw Coleg Prifysgol Cork, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Wexford.
Mae’r prosiect yn ceisio gwella gweithgarwch ymgysylltu ymhlith cymunedau trefi porthladd y mae ganddynt eu treftadaeth cyfoethog eu hunain a Môr Iwerddon, gan ddefnyddio’r dreftadaeth honno i hyrwyddo twristiaeth a dyfnhau ymdeimlad o hunaniaeth a rennir.
Caiff hyn ei wneud trwy gyd-gynhyrchu’r canlynol gyda chymunedau - straeon treftadaeth ar-lein (dros 200 hyd yn hyn), ffilmiau dogfen o ansawdd uchel, 12 comisiwn creadigol, digwyddiadau cymunedol, rhwydweithiau twristiaeth gan gynnwys hyfforddiant twristiaeth treftadaeth am ddim, ac ap twristiaeth treftadaeth.
Ariannir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Rhaglen Cydweithredu Iwerddon Cymru.
Mwy o wybodaeth
Dr Rita Singer
Yr Athro Peter Merriman
- E-bost: prm@aber.ac.uk
- Proffil Staff - Yr Athro Peter Merriman
- Proffil Porth Ymchwil - Yr Athro Peter Merriman
Yr Athro Rhys Jones
- E-bost: raj@aber.ac.uk
- Proffil Staff - Yr Athro Rhys Jones
- Proffil Porth Ymchwil - Yr Athro Rhys Jones