32. Cefnogi anghenion seicogymdeithasol cleifion gofal lliniarol a chleifion canser gyda theleiechyd
Dr Rachel Rahman
![therapi celf](/cy/rbi/research/150-research-innovation-stories/case-studies/art-therapy.jpg)
Mae Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig Prifysgol Aberystwyth, dan arweiniad Dr Rachel Rahman, wedi archwilio’r defnydd o delefeddygaeth i wella mynediad gwledig i wasanaethau iechyd.
Gan gydweithio â Thîm Gofal Lliniarol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sefydlwyd gwasanaeth cymorth seicogymdeithasol teleiechyd ar gyfer cleifion gofal lliniarol gwledig.
Cyn pandemig Covid-19, nid oedd teleiechyd yn rhan o ddarpariaeth gwasanaeth arferol a hwn oedd un o’r gwasanaethau cyntaf yn y DU i ddarparu cymorth yn y cartref i gleifion gofal lliniarol yn y modd hwn.
Mwy o wybodaeth
Dr Rachel Rahman