48. Capel: Mae'r Goleuadau Ymlaen: cynhyrchu ffyrdd newydd o feddwl sy'n dylanwadu ar ymarfer creadigol
Dr Margaret Ames
Fe wnaeth y perfformiad safle-benodol Capel: Mae'r Goleuadau Ymlaen gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o bwysigrwydd lle a pherthyn a grymuso pobl ag anabledd dysgu i fynegi cyfalaf diwylliannol a threftadaeth trwy ymyrraeth greadigol.
Mae'n effeithio ar gymdeithas sifil a bywyd diwylliannol. Cyrhaeddodd gynulleidfa amrywiol o fynychwyr theatr, rhai am y tro cyntaf a rhai rheolaidd, pobl ag anabledd dysgu, ac artistiaid proffesiynol.
Mae'r buddiolwyr yn cynnwys ei chynulleidfaoedd, ei chyfranogwyr a'r cylch ehangach o gefnogaeth broffesiynol, teuluoedd, ffrindiau, a chymuned Ceredigion.
Hwylusodd well dealltwriaeth o fywyd cefn gwlad Cymraeg. Ail-agorodd dros dro ganolbwynt blaenorol ar gyfer bywyd cymunedol a diwylliannol. Datgelodd allu yn hytrach nag anabledd trwy wneud cydraddoldeb rhwng cyfranogwyr yn glir.
Mwy o wybodaeth
Dr Margaret Ames